Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Canllaw i ymwelwyr i’r Rhyl

Atyniadau

Mae digon o bethau i weld ac i wneud ar y promenâd – mae parc dŵr gwych, acwariwm ar lan y môr, sinema o’r radd flaenaf a theatr gyda 1,000 o seddi. Dyma rai o’r uchafbwyntiau.

SC2

Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1BF

Mae’r parc dŵr wedi bod ar gau ers y Flwyddyn Newydd oherwydd difrod storm, a effeithiodd ar ei do. Roedd y difrod hwn yn fwy helaeth nag a dybiwyd gyntaf ac mae bellach yn edrych yn debygol na fydd y parc dŵr yn gallu agor am weddill y tymor.

01745777562
sc2rhyl.co.uk

Ninja TAG Active

SC2
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1BF

Mae’r cwrs rhwystrau aml-lefel dan do gwych hwn yn debyg i Total Wipeout a Ninja Warrior, ac mae’r cyfan yn brofiad cyffrous. Profwch eich sgiliau, ffitrwydd a dewrder wrth i chi ruthro trwy’r Môr o Raffau, rasio yn erbyn eich ffrindiau ar y Bibell Chwarter a cheisio taro bob targed ar y Wal Pry Cop. Mae Junior Ninja TAG yr un profiad â Ninja TAG fel y strwythur i oedolion, ond yn addas i’r rheiny sy’n daldra 90cm i 1.2 medr heb oedolion.

01745 777562
info@sc2rhyl.co.uk
sc2rhyl.co.uk/cy/ninja-tag-wel-homepage/

Sinema VUE

The Village
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1HB

Mae pum sgrin yn sinema Vue yn y Rhyl, gyda dros 600 o seddi – pob un â system Dolby Digital Surround Sound ac ansawdd llun Sony 4K.

03453084620
www.myvue.com/cinema/rhyl/whats-on

Pro Kite Surfing

Rhodfa’r Dwyrain
Y Rhyl
LL18 3AF

Mae Pro Kitesurfing yn ganolfan hyfforddi anhygoel sydd ar lan y môr yn y Rhyl sy’n lleoliad perffaith i ddysgu sut i farcudfyrddio. Mae’n cynnig hyfforddiant unigol neu 2-1 ym mhob agwedd o weithgareddau barcud a phadl o reolaeth bwrdd sylfaenol, barcud pŵer drwy wersi barcudfyrddio i ddechreuwyr a thriciau barcud. Cynhelir y gwersi yn y Rhyl, Porthmadog (Traeth y Graig Ddu), Ynys Môn (traeth Niwbwrch) neu Benmorfa (Llandudno), ac mae’n ddibynnol ar gyfeiriad y gwynt.

01745 345004
info@prokitesurfing.co.uk
www.prokitesurfing.co.uk

Harbwr y Rhyl

Horton’s Nose Lane
Y Rhyl
LL18 5AX

Ble mae Afon Clwyd yn ymuno â’r môr, fe welwch Harbwr y Rhyl, gyda’i lithrfa lansio, pontŵn a waliau’r cei. Tu mewn adeilad yr harbwr mae caffi gwych a chanolfan beiciau lle gallwch brynu neu hurio beic. Yr uchafbwynt yw’r bont beicio / cerdded Pont y Ddraig, sy’n codi i adael i gychod basio ac mae’n arwain y Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol 5.

01824 708400

Ffair Hwyl i’r Teulu, y Rhyl

Pentref y Plant
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1HZ

Mae 16 o reidiau sy’n cynnwys dodgems a’r “roller-coaster” Nessi enwog yn adloniant i’ch plant am ychydig o oriau.

01745 361235

Theatr y Pafiliwn

Rhodfa’r Dwyrain
Y Rhyl
LL18 3AA

Mae Theatr y Pafiliwn wrth y môr yn y Rhyl yn cynnal cyfuniad o gyngherddau, nosweithiau comedi a sioeau West End i blesio cynulleidfa hyd at 1,000 o bobl. I fyny’r grisiau mae bwyty a bar modern 1891 sy’n gweini bwyd lleol. Mae’n lle gwych i fynd am bryd cyn gweld sioe a mwynhau’r golygfeydd godidog o’r môr.

01745 332414
rhylpavilion.co.uk

Oddi ar y promenâd

Rheilffordd Fach y Rhyl

Gorsaf Ganolog
Marine Lake
Ffordd Wellington
Y Rhyl

Marine Lake yw’r unig lyn dŵr hallt yng Ngogledd Cymru. Gall ymwelwyr grwydro ar hyd llwybr natur a threftadaeth yr holl ffordd o’i amgylch, neu neidio ar hen drên stêm i fwynhau rheilffordd fach hynaf Prydain. Fe ddathlwyd 100 mlwyddiant y rheilffordd yn 2011 drwy godi Gorsaf Ganolog gydag amgueddfa lle medrwch chi gogio gyrru trên, tynnu liferi signal a chanu’r clychau.

01352 759109
info@rhylminiaturerailway.co.uk
rhylminiaturerailway.co.uk

Marsh Tracks

Marsh Road
Y Rhyl LL18 2AD

Mae Marsh Tracks yn ganolfan feicio yn y Rhyl sydd wedi ennill sawl gwobr wedi’i leoli tu ôl i Marine Lake y Rhyl. Mae’n cynnwys trac beicio ffordd gylchol gaeedig 1.3km a thrac rasio BMX o safon genedlaethol sy’n cynnwys gât gychwyn Bensink (yn union yr un fath â thrac BMX Gemau Olympaidd 2012) a neidiau a chanteli heriol. Mae trac beicio mynydd newydd sbon wedi agor yn ddiweddar er mwyn galluogi pobl i brofi eu sgiliau.

01745 353335
www.marshtracks.co.uk

Amgueddfa’r Rhyl

Church Street
Y Rhyl LL18 3AA

Gall ymwelwyr gerdded ar hyd pier Edwardaidd dychmygol ac edrych i mewn i giosgau yn llawn pethau gwych a rhyfeddol fel gwregysau achub, hen gadeiriau olwyn a dillad nofio o oes aur y gyrchfan. Mae’n lle gwych i ddysgu mwy am yr unigolion a siapiodd y Rhyl a Phrestatyn – o adeiladwyr y baddonau Rhufeinig i arloeswyr cynnar y sinema. Orau oll, mae’r cyfan am ddim.

01745 353814
heritage@denbighshire.gov.uk
www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/amgueddfar-rhyl.aspx