Traphont Ddŵr Pontcysyllte
Yn ne Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae Traphont Ddŵr hardd Pontcysyllte. Mae’n rhan o 11 milltir o safle Treftadaeth y Byd UNESCO sydd hefyd yn cynnwys Camlas Llangollen a Thraphont Ddŵr y Waun. Wedi’i leoli rhwng pentrefi Trefor a Froncysytlle, mae’r strwythur urddasol yn sefyll 38 metr oddi ar y ddaear, ac yn cario camlas Llangollen dros Afon Dyfrdwy.
Gallwch groesi ar droed, neu neidio ar gwch cul – naill ffordd neu’r llall mae’r golygfeydd dros y dyffryn yn ddramatig, ac ar yr uchder y byddwch chi arno, yn syfrdanol. Peidiwch ag anghofio eich camera, ni fyddwch am golli’r cyfle i dynnu llun.
Os yw taith ysgafn ar gwch yn mynd â’ch bryd, gallwch fynd ar daith cwch gul neu hyd yn oed llogi eich cwch eich hun am ddiwrnod neu egwyl hirach. Siawns gallem i gyd elwa o arafu cyflymder i lawr bob hyn a hyn, a does dim lle gwell i wneud hynny.
Os mai beicio yw eich diddordeb, gallwch logi beiciau o Fasn Trefor i archwilio’r gamlas (edrychwch am y gwaith celf hyfryd yn maes parcio Reeds Yard ac yno fe welwch HireCycles2Go) – a naill ai fynd i Langollen i gael blas ar yr holl bethau mae’r dref hanesyddol yn gallu cynnig, neu ewch i dwnnel ‘Darkie’ yn y cyfeiriad arall a dod i’r Waun.
I gael gwybod mwy am y trysor hwn yn ein coron, ewch i www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk/cy/