Mae tref Treffynnon yn cynnwys harddwch anhygoel o Fynydd Helygain i’r Aber Afon Dyfrdwy gyda golygfeydd drosodd i Gilgwri a Lerpwl. Mae’r dref unigryw hon llawn hanes yn rhan o dirlun godidog.
Mae’r dref ei hun yn cynnwys ardal i gerddwyr gyda nifer o siopau, caffis, bwytai a thafarndai yn ei wneud yn le perffaith i gymdeithasu. Mae’n cynnwys marchnad stryd draddodiadol ar ddydd Iau yn y dref sydd ag amrywiaeth o fasnachwyr ac mae Treffynnon yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn.
Mae yna gwrs golff bendigedig yn Nhreffynnon a leolir ar dir comin Brynffordd, milltir i fyny’r allt o dref Treffynnon – a adnabyddir yn aml fel “Lourdes Cymru” – mae’r cwrs golff hwn yn brawf teg ar gyfer golffwyr o bob gallu. Hwn yw un o’r cyrsiau uchaf yng Nghymru ac 800 troedfedd uwchben lefel y môr, mae’r awyr iach (a’r awel gref!) yn gwella ansawdd y profiad.
Ychwanegwch y croeso cynnes – bydd yn rhaid i chi deithio’n bell i ddod o hyd i glwb mwy cyfeillgar – golygfeydd godidog Bryniau Clwyd ac Eryri, y ffioedd cystadleuol, y gwasanaeth proffesiynol rhagorol, y bwyd ardderchog a’i agosrwydd at yr A55 ac mae gennych rywbeth i’w fwynhau.
Yna, wrth gwrs mae cyfareddiad y cwrs ei hun. Sefydlwyd dros gan mlynedd yn ôl, mae meddalwch y glaswellt a’r isbridd carreg galch yn cyfuno i ddarparu arena na fyddwch byth yn blino arno. Nid oes yna dyllau ar i fyny blinedig, er bod y cwrs yn gryno, mae’n llwyddo i ddarparu 18 twll o her golffio gwirioneddol.
Am fwy o wybodaeth ar Dreffynnon gallwch ymweld â Chyrchfan Treffynnon.
Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru ei ap llwybr ymroddedig ei hun, am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
#TheNorthWalesWay #Northeastwales #Flintshire
#Adventure #Golf #Landscape #Walking #Heritage #FoodandDrink