Privacy Overview
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Always Active
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Yr haf hwn yn Y Rhyl

Mae pethau da angen eu diogelu. Mae’r Rhyl wedi bod yn gyrchfan glan môr enwog ers y cyfnod Fictoraidd. Mae dal yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i’w draethau hyfryd ac atyniadau bywiog.Ond yn sgil newid hinsawdd ac amddiffynfeydd môr sy’n heneiddio, mae’r dref yn agored i lifogydd. Bellach mae cynllun amddiffyn arfordir aml-filiwn ar y gweill. Bydd yn gwella golygfeydd o’r môr, yn ei gwneud yn haws i gyrraedd y traethau euraidd a gwneud promenâd ysblennydd y Rhyl yn fwy dramatig nag erioed. Darganfyddwch fwy am y gwaith amddiffyn arfordirol yn fan hyn.

Mae ne dal digon i’w wneud a’i weld yn Y Rhyl yr haf hwn. Gyda saith milltir o dywod yn ymestyn yr holl ffordd o’r Rhyl i Brestatyn – ac mae gan y Rhyl bedwar traeth ar ben ei hun. Mae’r traeth yn lle gwych i fynd, cofiwch wiriwch pum awgrgym Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub i gadw eich teulu a chithau yn ddiogel.

Gorllewin y Rhyl

Yn ymestyn o Harbwr y Rhyl i Bentref y Plant. Gyda cherrynt cyflym a llongau yn llywio i mewn ac allan, nid dyma’r lle i nofio. Ond mae’n ddelfrydol ar gyfer gwneud cestyll tywod, padlo a thorheulo (gyda digon o eli haul).

Mynediad: gyferbyn â Palace Avneur neu i’r gorllewin o Butterton Road.
Maes parcio agosaf: Y Tŵr Awyr, LL18 1HF
Toiledau cyhoeddus agosaf: Pentref y Plant, LL18 1HL.

Canol y Rhyl

Gyferbyn â phen y Stryd Fawr, dyma draeth prysuraf y Rhyl lle byddwn yn annog nofio – ond arhoswch rhwng y baneri coch a melyn.

Yn ystod tymor yr haf mae achubwyr bywyd gerllaw i gadw pawb yn ddiogel a chynnig sesiynau pêl-foli a phêl-droed am ddim:

27 Mai – 4 Mehefin
7 diwrnod yr wythnos
10am-6pm

10-25 Mehefin
Penwythnosau yn unig
10am-6pm

1 Gorffennaf – 3 Medi
7 diwrnod yr wythnos
10am-6pm

Ewch ar dudalennau gwe achubwyr bywyd ar y traeth i gael rhagor o wybodaeth.

Mynediad: yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl
Maes parcio agosaf: Canolog LL18 1HD:
Toiledau cyhoeddus agosaf: Pentref y Plant LL18 1HL neu Arena Digwyddiadau LL18 3AF.

Dwyrain y Rhyl

Mae’r traeth hwn rhwng yr orsaf bad achub ac Old Golf Road gydag ardal ar gyfer chwaraeon megis barcudfyrddio, hwylfyrddio a caiacio. Yn PKS Watersports ger y Kite Surf Café, gall defnyddwyr cadeiriau olwyn fwynhau hwyl y traeth drwy hurio cadair olwyn sy’n addas i dywod – mae’n wych i symud ar y tywod a cherrig.

Mynediad: unrhyw le rhwng gorsaf y bad achub a Theatr y Pafiliwn. Mynediad i gadair olwyn yn Pro-Kite Surfing.
Maes parcio agosaf: Rhodfa’r Dwyrain LL18 3SG
Toiledau cyhoeddus agosaf: Arena Digwyddiadau LL18 3AF.

Splash Point

Dyma’r traeth i gerddwyr cŵn yn y Rhyl, lle gallent ymarfer unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae waliau’r môr yn eithaf uchel gyda phwyntiau mynediad dynodedig ar gyfer y traeth.

Mynediad: 200 medr i’r dwyrain o Old Golf Road
Maes parcio agosaf: Pafiliwn LL18 3AQ
Toiledau cyhoeddus agosaf: Old Golf Road LL18 3PB.

Cŵn ar y traeth

Rydym yn caru ein cŵn a chânt fynd unrhyw le ar y tywod rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill. Yn ystod misoedd prysur rhwng 1 Mai a 30 Medi, mae cyfyngiadau mewn lle – ond maent dal yn cael croeso o’r Kite Surf Café yr holl ffordd i’r dwyrain at Erddi Gŵyl Ffrith, Prestatyn.

Atyniadau’r Rhyl

Ninja TAG Active

SC2
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1BF

Mae’r cwrs rhwystrau aml-lefel dan do gwych hwn yn debyg i Total Wipeout a Ninja Warrior, ac mae’r cyfan yn brofiad cyffrous. Profwch eich sgiliau, ffitrwydd a dewrder wrth i chi ruthro trwy’r Môr o Raffau, rasio yn erbyn eich ffrindiau ar y Bibell Chwarter a cheisio taro bob targed ar y Wal Pry Cop. Mae Junior Ninja TAG yr un profiad â Ninja TAG fel y strwythur i oedolion, ond yn addas i’r rheiny sy’n daldra 90cm i 1.2 medr heb oedolion.

01745 777562
info@sc2rhyl.co.uk
sc2rhyl.co.uk/cy/ninja-tag-wel-homepage/

Mae’r parc dŵr wedi bod ar gau ers y Flwyddyn Newydd oherwydd difrod storm, a effeithiodd ar ei do. Roedd y difrod hwn yn fwy helaeth nag a dybiwyd gyntaf ac mae bellach yn edrych yn debygol na fydd y parc dŵr yn gallu agor am weddill y tymor.

Sinema VUE

The Village
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1HB

Mae pum sgrin yn sinema Vue yn y Rhyl, gyda dros 600 o seddi – pob un â system Dolby Digital Surround Sound ac ansawdd llun Sony 4K.

03453084620
www.myvue.com/cinema/rhyl/whats-on

Pro Kite Surfing

Rhodfa’r Dwyrain
Y Rhyl
LL18 3AF

Mae Pro Kitesurfing yn ganolfan hyfforddi anhygoel sydd ar lan y môr yn y Rhyl sy’n lleoliad perffaith i ddysgu sut i farcudfyrddio. Mae’n cynnig hyfforddiant unigol neu 2-1 ym mhob agwedd o weithgareddau barcud a phadl o reolaeth bwrdd sylfaenol, barcud pŵer drwy wersi barcudfyrddio i ddechreuwyr a thriciau barcud. Cynhelir y gwersi yn y Rhyl, Porthmadog (Traeth y Graig Ddu), Ynys Môn (traeth Niwbwrch) neu Benmorfa (Llandudno), ac mae’n ddibynnol ar gyfeiriad y gwynt.

01745 345004
info@prokitesurfing.co.uk
www.prokitesurfing.co.uk

Harbwr y Rhyl

Horton’s Nose Lane
Y Rhyl
LL18 5AX

Ble mae Afon Clwyd yn ymuno â’r môr, fe welwch Harbwr y Rhyl, gyda’i lithrfa lansio, pontŵn a waliau’r cei. Tu mewn adeilad yr harbwr mae caffi gwych a chanolfan beiciau lle gallwch brynu neu hurio beic. Yr uchafbwynt yw’r bont beicio / cerdded Pont y Ddraig, sy’n codi i adael i gychod basio ac mae’n arwain y Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol 5.

01824 708400

Ffair Hwyl i’r Teulu, y Rhyl

Pentref y Plant
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1HZ

Mae 16 o reidiau sy’n cynnwys dodgems a’r “roller-coaster” Nessi enwog yn adloniant i’ch plant am ychydig o oriau.

01745 361235

Theatr y Pafiliwn

Rhodfa’r Dwyrain
Y Rhyl
LL18 3AA

Mae Theatr y Pafiliwn wrth y môr yn y Rhyl yn cynnal cyfuniad o gyngherddau, nosweithiau comedi a sioeau West End i blesio cynulleidfa hyd at 1,000 o bobl. I fyny’r grisiau mae bwyty a bar modern 1891 sy’n gweini bwyd lleol. Mae’n lle gwych i fynd am bryd cyn gweld sioe a mwynhau’r golygfeydd godidog o’r môr.

01745 332414
rhylpavilion.co.uk

Oddi ar y promenâd

Rheilffordd Fach y Rhyl

Gorsaf Ganolog
Marine Lake
Ffordd Wellington
Y Rhyl

Marine Lake yw’r unig lyn dŵr hallt yng Ngogledd Cymru. Gall ymwelwyr grwydro ar hyd llwybr natur a threftadaeth yr holl ffordd o’i amgylch, neu neidio ar hen drên stêm i fwynhau rheilffordd fach hynaf Prydain. Fe ddathlwyd 100 mlwyddiant y rheilffordd yn 2011 drwy godi Gorsaf Ganolog gydag amgueddfa lle medrwch chi gogio gyrru trên, tynnu liferi signal a chanu’r clychau.

01352 759109
info@rhylminiaturerailway.co.uk
rhylminiaturerailway.co.uk

Marsh Tracks

Marsh Road
Y Rhyl LL18 2AD

Mae Marsh Tracks yn ganolfan feicio yn y Rhyl sydd wedi ennill sawl gwobr wedi’i leoli tu ôl i Marine Lake y Rhyl. Mae’n cynnwys trac beicio ffordd gylchol gaeedig 1.3km a thrac rasio BMX o safon genedlaethol sy’n cynnwys gât gychwyn Bensink (yn union yr un fath â thrac BMX Gemau Olympaidd 2012) a neidiau a chanteli heriol. Mae trac beicio mynydd newydd sbon wedi agor yn ddiweddar er mwyn galluogi pobl i brofi eu sgiliau.

01745 353335
www.marshtracks.co.uk

Amgueddfa’r Rhyl

Church Street
Y Rhyl LL18 3AA

Gall ymwelwyr gerdded ar hyd pier Edwardaidd dychmygol ac edrych i mewn i giosgau yn llawn pethau gwych a rhyfeddol fel gwregysau achub, hen gadeiriau olwyn a dillad nofio o oes aur y gyrchfan. Mae’n lle gwych i ddysgu mwy am yr unigolion a siapiodd y Rhyl a Phrestatyn – o adeiladwyr y baddonau Rhufeinig i arloeswyr cynnar y sinema. Orau oll, mae’r cyfan am ddim.

01745 353814
heritage@denbighshire.gov.uk
www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/amgueddfar-rhyl.aspx

Cerdded a beicio

Mae promenâd y Rhyl yn uchafbwynt i ddau lwybr arwyddocaol – un i feicwyr ac un i gerddwyr. Bydd y dargyfeiriad yn ychwanegu ychydig o fedrau i’r daith ond ni fydd yn amharu ar y profiad o gwbl.

Beicio a Llwybr Cenedlaethol 5

Mae’r llwybr 336 milltir hwn yn mynd drwy gefn gwlad a threfi a dinasoedd hanesyddol ar daith epig o Reading i Ogledd Cymru. Mae’n dod i mewn i’r Rhyl at yr harbwr, lle gallwch brynu, trwsio neu hurio beic yn The Bike Hub. Yna mae’n croesi Pont y Ddraig ac yn mynd ar hyd y promenaâd tuag at Brestatyn.

Oherwydd y gwaith Amddiffyn yr Arfordir bydd rhaid gwyro rhywfaint oddi ar y llwybr, gan ymuno ar y briffordd ac osgoi’r Pentref Plant prysur. Dilynwch arwyddion Llwybr 5 i ddod o hyd i’ch ffordd.

Oddi ar y promenâd, tu ôl i Marine Lake mae Marsh Tracks yn y Rhyl yn arena feicio bwrpasol sydd wedi ennill gwobrau am ei thrac beicio ffordd 1.3km, trac BMX safon genedlaethol gyda giât ddechrau Bensink a thrac beicio mynydd cyffrous.

Beiciwr yn Marsh Tracks Rhyl ger glannau Afon Clwyd gyda bryniau Clwyd yn ymestyn allan yn y cefndir.

Llwybr Arfordir Cymru

Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr cerdded cyntaf yn y byd i ddilyn arfordir gwlad gyfan – 870 milltir ohono. Dyma ffordd ddelfrydol o weld arfordir arbennig Sir Ddinbych, a gweld y saith milltir o dywod sydd rhwng y Rhyl a Phrestatyn ac ymlaen at dwyni Gronant sy’n llawn bywyd gwyllt.

Ar hyn o bryd mae dau wyriad byr oddi ar bromenâd y Rhyl yn eich tywys ar hyd Rhodfa’r Dwyrain a Rhodfa’r Gorllewin – sy’n berffaith er mwyn gweld atyniadau megis Ninga Tag, Pentref y Plant a Theatr y Pafiliwn.

Wales Coast Path with dogs
Llwybr Arfordir Cymru gyda chŵn.

Teithiau hygyrch

Nid teithiau hir yn unig ydi’r rhain. Mae digon o lwybrau hygyrch haws i bobl gyda gwahanol lefelau o symudedd – gyda theithiau o amgylch Marine Lake (LL18 1AQ) a thrwy’r warchodfa natur yn Brickfields Pond (LL18 2RN), a llwybr i bob gallu ar hyd glannau aber Clwyd yn Glan Morfa (LL18 2AD). Rhowch gynnig ar lwybr tref poblogaidd y Rhyl, sef taith gylchol 2.5 milltir sydd yn cynnwys y mwyafrif o brif atyniadau’r dref.

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Ym Mhrestatyn, mae Llwybr Arfordir Cymru’n uno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa i fynd o amgylch Cymru gyfan – cyfanswm o 1,030 milltir. Yn ymestyn o fôr i fôr, mae Llwybr Clawdd Offa yn croesi ffin Cymru a Lloegr 27 o weithiau, a Phrestatyn yw’r lleoliad terfynol i nifer o gerddwyr.

Yr holl bethau ymarferol sydd angen eu gwybod wrth grwydro glan y môr y Rhyl. Sut i gyrraedd, lle i barcio neu ddod o hyd i doiled, y llefydd gorau i siopa – hyd yn oed sut i archebu gwely am y noson.