Theatr Twm O’r Nant
Yn dyddio’n ôl i 1890, adeiladwyd Theatr Twm o’r Nant fel Neuadd Goffa gan Dr Evan Pierce, gellir gweld cofeb ohono yng Ngerddi Coffa Dr Evan Pierce 50 medr i ffwrdd. Mae Theatr Twm o’r Nant yn theatr weithredol gyda:
- Lle i 118 o bobl i eistedd, yn ogystal â lle ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn
- Llwyfan prosceniwm, ystafelloedd newid ac awditoriwm ar lefelau gwahanol sydd wedi’i ailwampio’n ddiweddar
- Systemau sain a goleuo modern
- Taflunydd ffilm a sgrin maint llawn a system sain amgylchynol dolby
- Cyfleusterau cynhwysol ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys mynediad i’r llwyfan
- Cyfleusterau arlwyo trwyddedig.
Mae’r theatr gymunedol yn cynnal cynyrchiadau drama proffesiynol ac amatur yn ogystal â sioeau sinema, sioeau cerdd a digwyddiadau dawns. Caiff ei ddefnyddio’n aml gan fandiau a grwpiau drama, yn ogystal â myfyrwyr unigol i gynnal ymarferion. Nid yw parcio’n broblem yma, ac mae dau le parcio i bobl anabl ar y safle. Mae’r theatr yn lleoliad perffaith i gynnal cynadleddau, digwyddiadau busnes ac mae ar gael i’w llogi.
Cysylltwch
Theatr Twm o’r Nant, Station Road, Denbigh LL16 3DA