Amgueddfa Wyddgrug
Mae’r amgueddfa’n olrhain hanes diddorol Yr Wyddgrug. Cewch weld trysorau o’r Oes Efydd, yn cynnwys bwyeill, gemwaith, a chopi Clogyn Aur Yr Wyddgrug. Mae yno arddangosfeydd yn ymwneud ag enwogion a bywyd y dref, a chewch gipolwg ar y dref yn Oes Fictoria drwy lygaid y nofelydd enwog Daniel Owen, yn sefyll yn y swyddfa a’r siop teiliwr a adeiladwyd yn yr Amgueddfa.
Rhad ac am ddim.
Ae’r amgueddfa yn yr adeilad sy’n gartref i’r llyfrgell, yng nghanol y dref, gyferbyn â’r Swyddfa Bost, Heol yr Iarll, cwta pump i ddeg munud ar droed o’r orsaf bysiau a meysydd parcio’r dref.
Cysylltwch
Ffordd Yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1AP
Oriau agor
-
Monday09:30 - 19:00
-
Tuesday09:30 - 19:00
-
Wednesday09:30 - 17:30
-
Thursday00:00 - 00:00
-
Friday09:30 - 19:00
-
Saturday09:30 - 12:30
-
SundayClosed