Parc Gwledig Moel Famau
Mae’r enw Cymraeg, Moel Famau, sy’n cyfeirio at y copa fel mam y mynyddoedd yn un addas – mae’n 554m (1818ft) a dyma’r copa uchaf o blith Bryniau Clwyd.
Mae’r Foel ymhlith llethrau llawn grug yn rhan ganolog y Bryniau gyda golygfeydd anhygoel ar draws Dyffryn Clwyd tuag at Eryri ac arfordir Gogledd Cymru. Un o’r ffyrdd gorau o gyrraedd yno yw ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae Tŵr Jubilee ar y copa yn dirnod eiconig ac i’w weld filltiroedd i ffwrdd.
Mae Moel Famau a llawer o’r tir cyfagos yn rhan o Barc Gwledig Moel Famau sy’n denu tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae’r mynyddoedd yma wedi eu gorchuddio mewn grug y gweundir, cynefin pwysig yn rhyngwladol. Ond dim ond cyfran fach o’r hyn oedd yma 100 mlynedd yn ôl sy’n weddill heddiw. Drwy goedwigo a gwelliannau amaethyddol, collwyd 40% ohono ers yr Ail Ryfel Byd.
Cofiwch wrth gerdded a beicio yma fod defaid yn pori ar y mynydd drwy ran helaeth o’r flwyddyn.
Efallai y byddwch chi’n sylwi, wrth gerdded yn y parc, ar siapiau wedi eu torri yn y grug. Mae hyn yn rhan o’r rheoli parhaus sydd wedi digwydd yn yr ucheldir ers cenedlaethau – cyfuniad o losgi a thorri sy’n annog grug newydd i dyfu ac yn darparu porfa newydd i’r defaid.
Mae hefyd yn creu ardaloedd nythu a bwydo gwych i adar yr ucheldir. Mae’r grugiar ddu yn arbennig o bwysig, un o adar mwyaf prin Cymru, ond fe’i ceir yma mewn niferoedd bychan – ers diwedd y 1990au, mae’r boblogaeth wedi cynyddu o 10 ceiliog i gyfrif diweddar o 40 ceiliog grugiar ddu. Yn gynnar iawn ar fore o wanwyn, mae’r ceiliogod grugiar ddu yn dod at ei gilydd i gystadlu am yr ieir. Mae’r “ddefod baru” hon yn werth ei gweld.