Parc Gwledig Loggerheads
Mae Parc Gwledig Loggerheads gyda’i ddyffryn afon coediog, ei glogwyni dramatig a’i frigiadau yn wych ar gyfer mynd am dro bach, ac yn lle delfrydol i gychwyn crwydro Bryniau Clwyd. Mae Llwybr Darganfod ag arwyddion clir yma, yn ogystal â llwybrau cerdded hygyrch o amgylch y parc, ac i’r bryniau a’r dyffrynnoedd y tu hwnt iddo. Mae hyn yn golygu fod y parc gwledig hwn yn ganolbwynt i’r rhan fwyaf o deithiau cerdded o amgylch Gogledd Cymru ac yn boblogaidd ymysg teuluoedd a cherddwyr.
Mae rhwydwaith o lwybrau gydag arwyddion yn ymestyn o’r parc – tua’r gorllewin i Barc Gwledig Moel Famau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, tua’r gogledd ar hyd Llwybr y Lît i Gilcain a Cheunant y Cythraul, tua’r dwyrain i Gadole a Phantwymyn a thua’r de-ddwyrain i Faeshafn a Gwarchodfa Natur Leol Moel Findeg.
Mae cyfeirlyfrau a mapiau ar gael o Ganolfan Bryniau Clwyd ger y maes parcio.
Mae dwy gylchdaith i ymwelwyr eu crwydro – un llwybr byr, hygyrch ar hyd glan yr afon, a llwybr hirach 1.5 milltir ar hyd glan yr afon ac i fyny drwy’r coed i ben y clogwyni calchfaen.
Heddiw mae Loggerheads yn golygu llawer o bethau i lawer o bobl. Lle am antur i deuluoedd archwilio. Lle i fynd yn agos at fywyd gwyllt ac i weld golygfeydd hardd o’r ardal. Neu yn syml, lle i ddianc oddi wrth bopeth ac ymlacio.
Ffioedd Parcio.
Cysylltwch
Parc Gwledig Loggerheads, Ruthin Rd, Mold CH7 5LH