Reilffordd Llangollen i Gorwen
Rydym yn rheilffordd dreftadaeth wedi ei lleoli ger Bont hanesyddol y Ddyfrdwy (a adeiladwyd ym 1345) yn Llangollen yn mynd am 10 milltir drwy ddyffryn godidog Dyfrdwy i dref Corwen.
Mae’r rheilffordd yn dilyn Afon Dyfrdwy, a neilltuwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ar ei hyd.
Mae’r darn bychan hwn o reilffordd, a arferai, yn ei dydd, groesi Cymru o Riwabon i Abermaw, yn cynnig detholiad o’r golygfeydd a’r synau a geid ers talwm, gan fynd heibio’r golygfeydd mwyaf hardd a naturiol sydd gan Gymru i’w cynnig.
Mae’r rheilffordd wedi ei lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac mae hyn yn amlwg wrth i chi ymdroelli drwy Ddyffryn Dyfrdwy.
O ŵyn yn y gwanwyn i gwymp amryliw dail yr Hydref, mae’r golygfeydd sydd i’w cael o’r cerbydau’n odidog ac yn newid yn barhaus.
Cysylltwch
Reilffordd Llangollen, The Station, Abbey Road
Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN