Twyni Tywod Gronant
Mae Gronant yn rhan o system eang o dwyni tywod rhwng Traeth Barkby i’r gorllewin a Phwynt Talacre i’r dwyrain ar ochr orllewinol o aber Glannau Dyfrdwy. Ymysg y twyni gwelltog mae amrywiol lwyfannau gwylio ble gall yr hen a’r ifanc fwynhau dringo ac ymgolli yn yr hyn sydd o’u cwmpas. Mae byrddau gwybodaeth yn sôn am y planhigion a’r anifeiliaid helaeth sydd i’w canfod yno.
Nid yw’n syndod fod y twyni wedi cael statws SoDdGA gan eu bod yn gynefin mor bwysig i amrywiaeth o blanhigion pwysig a bywyd anifeiliaid. Mae’r blodau môr a geir yma yn cynnwys celyn y môr, moresg a peiswellt prin y twyni. Edrychwch yn ofalus ac efallai y gwelwch lyffant cefnfelyn, madfall ac unig gytref Gogledd Cymru o fôr-wenoliaid. Ym misoedd y gaeaf mae gwylwyr adar yn dod i’r twyni i weld nifer fawr o adar y sy’n rhydio ac adar y dŵr sy’n casglu yma.
Mae ansawdd y dŵr a’r blaendraeth tywodlyd yn gwneud y fan hon yn lle poblogaidd i ymdrochi yn yr haf, er nad oes achubwr bywyd yn bresennol yma.
Mae rhan o lwybr Beicio Arfordir Gogledd Cymru sy’n cysylltu Prestatyn â Chaer yn mynd heibio’n agos at y traeth.