Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Flint Castle

Castell a Blaendraeth y Fflint

Dyma’r cynharaf o gestyll Cymru a godwyd gan y Saeson.

Mae’r rhai sy’n hoff o bensaernïaeth filwrol yn anelu’n syth am y Fflint. Dyma’r castell cyntaf i’w sefydlu fel rhan o ymgyrch Edward I yn erbyn Llywelyn ap Gruffydd yng Ngogledd Cymru, ac mae ganddo gynllun unigryw ac anarferol o soffistigedig. Cychwynnwyd arno ym 1277 a’i gwblhau i raddau helaeth erbyn 1284 a cheir tŵr mawr neu ddwnjwn) yng nghornel y de ddwyrain. Gan fod ffos yn ei amgylchynu a mynediad iddo dros bont godi, mewn gwirionedd, mae’n gastell o fewn castell. Fe’i hadeiladwyd a waliau eithriadol o drwchus ac mae’n llawn o’r cyfleusterau angenrheidiol i wrthsefyll ymosodiad, ac mae’n debyg mai’r fan hon fyddai’r lloches olaf pe doi ymosodiad.

Mae Castell y Fflint yn enwog hefyd oherwydd mai dyma leoliad y cyfarfyddiad tyngedfennol yn 1399 rhwng Richard II a gelyn i’r goron Henry Bolingbroke (ddaeth yn Henry IV yn ddiweddarach) – digwyddiad sydd wedi ei anfarwoli yn Richard II gan Shakespeare..

Oriau agor

  • Monday
    10:00 - 16:00
  • Tuesday
    10:00 - 16:00
  • Wednesday
    10:00 - 16:00
  • Thursday
    10:00 - 16:00
  • Friday
    10:00 - 16:00
  • Saturday
    10:00 - 16:00
  • Sunday
    10:00 - 16:00

Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Delweddau