Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Pontcysyllte Aqueduct

Mae’n antur

Ffordd y Gogledd

Mae Ffordd y Gogledd, sy’n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua’r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy’n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob ‘Ffordd’ ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i’ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.

Yma, rydym wedi creu amserlen bedwar diwrnod ar y thema ‘Antur’, sydd yn mynd â chi i feicio mynydd, ar wifrau gwib, i farchogaeth ac i syrffio, gydag atyniadau treftadaeth cyffrous wedi eu cynnwys i ychwanegu at y profiad.

Diwrnod 1

Dechreuwch eich taith ar nodyn uchel ar Draphont Pontcysyllte ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd ym 1805 i gludo Camlas Llangollen ar uchder o 128 troedfedd / 39m dros Afon Ddyfrdwy. Mae’n gamp bensaernïol syfrdanol ac yn un o ryfeddodau’r byd, heb os. Adlewyrchir hyn yn y ffaith mai dyma drysor pennaf y Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n ymestyn am 11 milltir rhwng Sgwd y Bedol (Llantysilio) a Gledrid (Swydd Amwythig).

Pontcysyllte Aqueduct
Pontcysyllte Aqueduct

Gyrrwch trwy Fwlch yr Oernant ar yr A542 i Landegla. Fydd beicwyr mynydd ddim am fethu One Planet Adventure, sy’n gwneud y mwyaf o’r llwybrau yng Nghoed Llandegla. Os yw’n well gennych fynd ar gefn ceffyl nag ar gefn beic, ewch i Ganolfan Farchogaeth Bridlewood ger Prestatyn, lle gallwch farchogaeth ar fryniau gleision neu ar draeth tywodlyd Talacre. Os ydych yn fwy bodlon eich byd ar y dŵr, ewch yn eich blaen i’r Rhyl i gael trochfa ym mharc dŵr SC2, sy’n llawn llithrennau ac ardaloedd chwarae, neu heriwch eich hun ar Ninja Tag Active, cwrs ymosod aml-lefel gwych o dan do. Ceir hefyd Junior Ninja Tag, y cyntaf o’i fath yn y DU, ar gyfer ymwelwyr iau.

Tag Active, SC2, Rhyl
Tag Active, SC2, Rhyl

Parc Sglefrio Aura yw’r maes Chwaraeon Eithafol dan do cyntaf yng Nghymru, ac un o’r mwyaf o’i fath yn Ewrop. Mae’r ardal dan do sy’n cynnwys 1,452 metr sgwâr o rampiau pren yn darparu cyfleusterau i sglefrfyrddwyr, beicwyr BMX a llafnrolwyr.

Llawr Sglefrio Glannau Dyfrdwy yw’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Chwaraeon Iâ yng Nghymru. Mae ganddo faes o faint Olympaidd, sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau iâ. Boed yn sglefriwr profiadol neu’n ddechreuwr llwyr, byddwch yn siŵr o fwynhau’r cyfleusterau campus sydd i’w cael yn Llawr Sglefrio Glannau Dyfrdwy.

Awgrym i aros dros nos: Y Rhyl neu Abergele.

Diwrnod 2

Y lle cyntaf yw fynd yw’r Llwybr Antur yn Abergele, sy’n cynnig rhywbeth annisgwyl y tu ôl i bob cornel, gyda dros ddeugain o gemau a heriau hwyliog i’r teulu cyfan. Ymlaen â chi wedyn i ganolfan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn ar bromenâd a thraeth adfywiedig Porth Eirias, lle mae digonedd o sesiynau blasu a gwersi llawn o ansawdd uchel mewn hwylio, hwylfyrddio a mynd mewn cychod pŵer ar gael.

Ond pwy sydd angen y môr? Gyrrwch oddi wrth y môr ar yr A470 ar hyd yr hyfryd Ddyffryn Conwy, gan ddilyn yr arwyddion i Adventure Parc Snowdonia, lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd, sy’n creu tonnau perffaith bob eiliad. Os nad ydych eisiau cael eich traed yn wlyb, gallwch fynd heibio ar wifrau gwib hefyd.

Awgrym i aros dros nos: Betws-y-Coed.

Diwrnod 3

Zip World Chwarel y Penrhyn yw brenin y gwifrau gwib. Yma y ganed enw da Eryri fel prifddinas y gwifrau gwib. Dyma wifren wib gyflymaf y byd, lle byddwch yn cyrraedd cyflymder brawychus o 100mya / 160kya wrth i chi hedfan 1,640 troedfedd / 500m dros lyn y chwarel.

Mae pethau ychydig yn llai arswydus ym Mharc Teuluol Gelli Gyffwrdd ger Caernarfon. Mae enw Saesneg y parc, GreenWood, yn briodol iawn gan fod yr atyniad gwobrwyedig hwn yn cymryd ei enw da am fod yn wyrdd o ddifri. Reidiwch ar y rollercoaster sy’n cael ei bweru gan bobl, neu ar reid cyntaf y DU i gael ei bweru gan ynni solar.

Trowch wedyn am Lanberis a Llyn Padarn, un o lynnoedd naturiol mwyaf Cymru, lle mae’r sîn chwaraeon dŵr llewyrchus yn cynnwys rhwyf-fyrddio (y lle gorau yn y DU i fynd i rwyf-fyrddio, yn ôl papur newydd yr Independent).

Awgrym i aros dros nos: Llanberis.

Diwrnod 4

Croeswch bont ffordd yr A5 dros y Fenai i Ynys Môn. Byddwch yn dod i adnabod dyfroedd y Fenai yn fuan iawn. Ym Mhorth Daniel hardd, yr ochr draw i’r bont, mae RibRide, cwmni sy’n arbenigo mewn teithiau cychod ychydig yn wahanol, yn cynnwys y daith ‘Velocity’ sy’n gyflym iawn ac yn llawn adrenalin.

Mae tref gyfagos Biwmares yn gartref i’r hyn a ystyrir fel y godidocaf o’r holl gestyll canoloesol a godwyd gan Frenin Lloegr, Edward y Cyntaf, yn ystod ei ymgyrch yng Nghymru. Gyda’i ffos a’i amddiffynfeydd consentrig ar ffurf waliau-o-fewn-waliau, byddai Biwmares – sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd – wedi cynnig her aruthrol i unrhyw ymosodwr.

Dilynwch yr A5 ar draws Ynys Môn i Roscolyn i ddod â’ch anturiaethau ar Ffordd y Gogledd i ben trwy gaiacio gyda B-Active@Rhoscolyn. Gwyliwch allan hefyd am chwaraeon modur ar Drac Môn ger Aberffraw, un o’r traciau mwyaf heriol gyda’r golygfeydd mwyaf godidog ym Mhrydain.

Awgrym i aros dros nos: Bae Trearddur.

Teithlenni

Bydd awgrymiadau o deithlenni i’ch helpu i fanteisio ar Ffordd Gogledd Cymru, gyda’r themâu canlynol.