Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Taith gyda gwahaniaeth i’r arfordir

Yr wythnos ddiwethaf fe aethon ar y daith ‘Ymgyfarwyddo’ olaf mewn cyfres o deithiau a drefnwyd gan Dîm Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych.  Dyluniwyd y prosiect i dynnu sylw at gyrchfannau diddorol ac allweddol o fewn yr ardal i fusnesau twristiaeth lleol fel eu bod, yn eu tro, yn gallu rhannu’r wybodaeth ac annog ymwelwyr i fynd yn ddyfnach i hanes, atyniadau, caffis a siopau lleol.  Mae cyfanswm o 60 o fusnesau wedi mynychu hyd yma sydd wedi cynnwys Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, y Celfyddydau a Diwylliant, Wrecsam, Rhuthun, Dyffryn Clwyd, yn ogystal â’r un olaf hwn ar hyd yr Arfordir.  Defnyddiwyd tywyswyr teithiau lleol a chafodd y prosiect cyfan ei ariannu gan Gadwyn Clwyd.

Y lle cyntaf i ni ymweld ag ef oedd Harbwr y Foryd yn y Rhyl.   Fel y gwnaethom ei ddarganfod ar ein taith ddiwethaf, roedd Rhuddlan yn arfer bod yn brif borthladd ar gyfer gafael Edward I ar Ddyffryn Clwyd ond wrth i’r sianel gael ei llenwi â silt ac wrth i’r Rhyl ddatblygu, bu i Harbwr y Foryd gymryd drosodd.  Ar lanw isel, gellir gweld prennau yn y silt wrth lan ddwyreiniol yr Harbwr.   Gweddillion Dinas Ottawa, llong hwylio fawr a adeiladwyd yng Nghanada yn 1860 yw’r rhain. Roedd yn cario cargo ar draws y glôb ac fe gafodd ei gadael yn y Rhyl yn dilyn storm yn 1906.

Pont Y Ddraig Harbour Bridge, Rhyl
Pont Y Ddraig ,   Y Rhyl

Yn y Gwanwyn 2012, dechreuodd gwaith adeiladu i drawsnewid y rhan yma o’r Rhyl gyda’r nod o gynyddu twristiaeth a rhoi hwb i’r economi lleol.  Nod allweddol arall y prosiect oedd darparu llwybr mwy diogel a hardd i gerddwyr a beicwyr fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy’n dilyn arfordir cyfan Cymru.  Roedd hwn yn sicr yn llwyddiant gyda’r Bont y Ddraig anhygoel sy’n agor i ganiatáu i gychod uwch fynd drwodd ac sy’n cysylltu’r Rhyl gyda Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n mynd ar hyd arfordir Gogledd Cymru.  Mae’r llwybr yn darparu mynediad di draffig at ‘Lwybr Arfordir Cymru’ yn ogystal ag at gyfleusterau newydd yr Harbwr.  Mae gan yr Harbwr gaffi a chyfleusterau llogi beiciau hefyd.  Bu i ni ddysgu bod y bont las gyfagos fel y mae’n cael ei galw yn lleol wedi’i dylunio gan RG Whitley, Syrfëwr Cyngor Sir y Fflint a’i hadeiladu gan Dorman, Long a Company of Middlesbrough yn yr 1930au, a wnaeth hefyd adeiladu’r bont fwy, Pont Harbwr Sydney.

Ein stop nesaf oedd ymweliad byr i’r Theatr sydd newydd ei hadnewyddu a’i bwyty anhygoel 1891 (wedi’i enwi ar ôl blwyddyn adeiladu’r pafiliwn wnaeth bara cyfnod byr yn y Rhyl.) Mae’n anodd curo golygfeydd y bwyty, ac mae’r addurniadau yn groesawgar iawn.  Mae gan y Theatr ddewis anhygoel o sioeau i’w gweld ac mae’n cynnig profiad bwyta ac yfed cyn y sioe a fyddai’n cystadlu yn erbyn unrhyw daith theatr yn y ddinas.

Wedyn, aethom yn ôl ar y bws am daith arfordirol trwy Brestatyn a’i Dwyni Gronant tywodlyd tuag at ein cyrchfan cinio ym Mynwent Anifeiliaid Sir y Fflint.  Efallai ei fod yn ymddangos fel lle rhyfedd i gael caffi, ond mae llonyddwch y lle a’i erddi addurniadol sydd wedi ennill gwobrau a’r dewis blasus o gacennau cartref wedi dod yn hoff le i gerddwyr a beicwyr alw heibio yn ogystal â bod yn lle i orffwys i lawer o anifeiliaid anwes.  Roeddem wrth ein bodd yn benodol â’r preswylydd byw, hwyaden Muscovy chwilfrydig, a ddaeth i ddweud helo.

Ar ôl prynu rhai o’r cacennau Malteser deniadol, a gafodd eu rhoi mewn bocsys i fynd adref yn nes ymlaen, aethom yn ôl ar y bws ar gyfer ein stop olaf.   Cafodd pob un ohonom ddarn o bapur yr oedd angen i ni ei lofnodi gan ein tywysydd teithiau Carole… y ddeddf cyfrinachau swyddogol!  Gan fod ein stop nesaf yn lleoliad hollol gyfrinachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Mae’r gwaith arfau yn Rhydymwyn a wnaeth chwarae rhan allweddol yn ystod y rhyfel a’i dwneli dan ddaear, wedi rhyfeddu’r cyhoedd ers blynyddoedd, a rŵan roedd gennym y cyfle i gael cipolwg ar ran allweddol o’n hanes yn ystod y rhyfel.

Mae Gwaith y Dyffryn, fel y mae’n cael ei alw, yn awr yn eistedd yng nghanol gwarchodfa natur yn Rhydymwyn a gafodd ei drosi yn ffatri nwy mwstard yn 1939 gan ICI ar gais Winston Churchill ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd.  Wedyn fe wnaeth aelodau o Gymdeithas Hanes Dyffryn Rhydymwyn ganfod tystiolaeth fod gan y milltiroedd o dwneli o dan y warchodfa natur rôl strategol allweddol yn y Rhyfel Oer.  Maent yn credu bod gweithwyr wedi gwneud 40,000 o gregyn nwy mwstard yr wythnos yn y ffatri gyfrinachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1940, roedd dau o ffisegwyr mwyaf blaenllaw’r byd, Otto Frisch a Rudolf Peierls, angen cyfleuster cyfrinachol i weithio ar eu damcaniaethau ar gyfer adeiladu bom atomig Wraniwm. – Fe wnaeth Churchill ddewis Rhydymwyn. Ac mae’r gweddill yn hen hanes.

Roedd yn brofiad arswydus i gerdded o gwmpas y safle, gyda’r adeiladau wedi’u gosod mewn system grid, a’r waliau wedi’u peintio’n guddliw wedi pylu, a lluniau o’r gweithwyr wedi’i sgriblo â phensil yn dal i’w gweld ar rai o’r waliau mewnol.   Fe wnaeth i mi deimlo’n ffodus nad wyf erioed wedi gorfod profi aberth rhyfel a’r penderfyniadau anodd a wnaed gan y llywodraeth i’n cadw ni’n ddiogel rhag ymosodiadau posibl.   Os hoffech chi weld y twneli eich hunain, mae Cymdeithas Hanes Dyffryn Rhydymwyn yn cynnig teithiau ac yn cynnal dyddiau agored.

 

Cawsom ddiwrnod amrywiol iawn ac ymweliad eithaf gwahanol ar hyd arfordir Cymru.   Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am yr ardal, pam na wnewch chi ystyried cymryd rhan yn y cwrs Llysgennad am ddim? Y Cyngor oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o’i fath yng Nghymru.  Cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu sy’n berthnasol i’r ardal yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded.  Mae yna dair lefel i’r gwobrau – efydd, arian ac aur.   Fe anogir preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i fod yn Llysgenhadon i ddysgu mwy am nodweddion unigryw’r ardal. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cynllun neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn derbyn ein newyddlen, cysylltwch â ni.