Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Syniadau am lwybrau gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma. Rhif 4 – meddyliau crwydrwr

 

Mae ein detholiad  yr wythnos hon yn fwy o ysbrydoliaeth ar gyfer cerdded nag yn llwybr penodol, gydag ychydig o awgrymiadau wedi’u taflu i mewn ac wedi’i ysgrifennu gan Margaret de Cordova, crwydrwr brwd a cherddwr Nordig. Darganfu Margaret bleserau cerdded Nordig pan ymddeolodd fel pennaeth ysgol. Mae wedi bod yn gerddwr dydd Mawrth rheolaidd ers bron i 10 mlynedd.

Margaret ar un o’i teithiau cerdded

“Ymddengys y cwestiwn yn eithaf syml. “Pa un yw eich hoff daith gerdded?” Fodd bynnag, wrth feddwl am ein teithiau cerdded, nid oedd yr ateb mor hawdd.

Ai’r daith gerdded drwy dwyni tywod Gronant, gwylio’r Môr-wenoliaid Bach yn hedfan yn ddi-hid i’w nythod, eu pigau’n llawn llysywod? Neu ai Ffynnongroyw, cerdded y cob yn ôl troed glowyr y Parlwr Du a syllu allan ar draws y dirwedd a oedd unwaith yn cynhyrchu glo, y mae natur bellach wedi’i dynnu’n ôl? Ond beth am y teithiau cerdded yn Rhuddlan? Golygfeydd o’r twmpath hynafol i’r bryniau eang; taith yr afon gyda chri yr hwyaid a’r wystryswyr.  Heb anghofio Llwybr Dyserth, a all eich arwain i sawl cyfeiriad wrth i chi wrando ar gân yr adar. Mae taith gerdded Coed y Morfa hefyd. Ar bob ymweliad mae rhywbeth newydd i’w weld o’r gwaith cadwraeth anhygoel sy’n mynd rhagddo – y plannu coed, gwartheg Belted Galloway, y pwll. A beth am y teithiau cerdded ar hyd y môr. Yr Hwb, Canolfan Fowlio Gogledd Cymru, Rhodfa Warren – dyma fannau cychwyn sy’n arwain at y tywod, y graean a’r môr yn eu ffurfiau amrywiol.

Twyni Gronant ger Prestatyn yn Sir Ddinbych
Twyni Gronant ger Prestatyn yn Sir Ddinbych

Mae’n amhosibl dewis hoff daith gerdded! Pam? Nid dim ond y lleoliad. Yr adeg o’r flwyddyn. Y tywydd. Y newid lleiaf i’r llwybr.  Yr olygfa annisgwyl, sain neu ffaith newydd. Y grŵp o gerddwyr hefyd sy’n ychwanegu at fwynhad a phleser pob taith gerdded.

Felly, i ateb y cwestiwn, byddai’n rhaid i mi ddewis taith gerdded bore dydd Mawrth fel fy hoff daith gerdded.”