Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Taith cerdded Gylfinir a’r noson Heuldro’r Haf yn Llandegla

Ar noson Heuldro’r Haf, mi es i sgwrs gan Sam Kenyon, Swyddog y Gylfinir a Phobl ar gyfer ein hardal. *    Wedi ei gynnal gan y Caffi Cymunedol yn Llandegla, ble cawsom ein croesawu gyda dewis o ddiodydd poeth a chacennau blasus.

Mae Sam yn rhan o brosiect 3 mlynedd i weithio’n agos gyda thirfeddianwyr i wella poblogaeth y gylfinir sy’n lleihau. Eglurodd Sam fod nifer y gylfinirod wedi lleihau’n sylweddol oherwydd torri dolydd gwair yn ddwys ar gyfer silwair a hefyd oherwydd coedwigaeth ac ysglyfaethu. Pwrpas y prosiect yn rhannol yw adnabod safleoedd nythu ac yna eu monitro a’u hamddiffyn gyda ffensys trydan er mwyn i’r oedolion fagu’r wyau a’r cywion bach nes eu bod yn barod i hedfan y nyth.  Oherwydd bod y nythod ar y tir, maent mewn perygl arbennig o ysglyfaethwyr megis moch daear a llwynogod.

Gylfinir

Mae gwirfoddolwyr a ffermwyr wedi bod yn rhan fawr o ddod o hyd i’r safleoedd o fewn y ‘12 Ardal Gylfinir Bwysig’. Rhan o waith Sam yw annog ffermwyr i addasu eu harferion ffermio i ganiatáu i’r nythod ffynnu. Fel ffarmwr ei hun, mae Sam yn deall yr heriau o gydbwyso cadwraeth ac elw. Mae rhai ffermwyr wedi bod yn hynod o gefnogol ac wedi bod wrth eu boddau yn cael gylfinir ar eu caeau. 

Ymddengys fod gan y gylfinirod le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru. Gallai hyn egluro pam fod dros 25 o enwau gwahanol ar gyfer yr adar yn y Gymraeg, un ohonynt yw Aderyn Glaw – ‘Rain Bird’ oherwydd bod ei ymddygiad yn newid pan fydd hi ar fin bwrw glaw. Yr enwau Cymraeg eraill ar gyfer y gylfinir yw fersiynau o gylfinir: gylfiniog, glafinir, glofeinir ac mae’n bosib fod dau o’r rhai eraill wedi deillio o’r gair Saesneg ‘curlew’: giarliw a cwrlig. Un o fy ffefrynnau i yw Pegi Pig Hir sy’n cyfieithu i ‘long billed Peggy’.

Beth bynnag maent yn cael eu galw, y ffaith drist yw bod Gylfinirod yn prinhau bob blwyddyn. Mae’r gyfradd ddirywio mor uchel, mae perygl na fydd digon o boblogaeth fridio yn weddill iddynt nythu a magu’r cywion yn llwyddiannus ar wlyptiroedd a rhostiroedd Cymru ar ôl 2033. Sy’n pwysleisio pwysigrwydd gwaith Sam i ddadwneud y dirywiad hwn.

Yn dilyn ei sgwrs, bu i Sam arwain taith trwy’r Ardal Gylfinir Bwysig o amgylch y Caffi.  Roedd hi’n noson gynnes braf wrth i ni gerdded trwy gefn gwlad hardd wrth i’r haul fachlud bu i’r awyr ddechrau disgleirio.  Roedd lleuad llawn godidog i oleuo ein siwrnai adref.

Os hoffech wybod mwy am y prosiect neu’n dymuno gwirfoddoli cliciwch yma.

Mae *Cysylltu Gylfinir Cymru yn brosiect cadwraeth a gefnogir gan ‘Gronfa Rhwydweithiau Natur’ Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae miliwn o bunnoedd wedi ei ddyrannu i gefnogi y gylfinir sy’n bridio yng Nghymru, yn canolbwyntio ar dair ‘Ardal Gylfinir Bwysig’. Ar y cyd, mae GWCT yn arwain yn Sir Drefaldwyn ochr yn ochr â phartneriaid yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Cysylltu Gylfinir Cymru yn anelu i fynd i’r afael â’r materion allweddol sy’n achosi’r dirywiad yn y gylfinir, mae monitro a deall poblogaethau y gylfinir yn yr ardaloedd hyn, gweithredu rheolaeth ysglyfaethwyr a gwaith cynefin yn flaenllaw.