Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Diwrnod Santes Dwynwen

santes dwynwen

Santes Dwynwen ydi nawddsant cariadon Cymru, ac rydym ni’n dathlu Diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr.

Ond pwy oedd Santes Dwynwen?

Yn ôl y chwedl, ganwyd Dwynwen yn y pumed ganrif yn nheyrnas Brycheiniog yn ferch i’r brenin Brychan Brycheiniog. Roedd ganddo 24 o ferched a Dwynwen oedd yr harddaf yn eu plith.

Blodeuodd Dwynwen yn ferch hardd a disgynnodd Maelon Dafodrill, brenin o’r gogledd, mewn cariad â hi. Ac roedd hithau’n ei garu yntau hefyd. Fodd bynnag, roedd gan ei thad ŵr arall mewn golwg iddi ac felly roedd yn llwyr yn erbyn iddi briodi Maelon. Rhedodd Dwynwen i ffwrdd ac arni ofn anufuddhau i’w thad, ond aeth Maelon ar ei hôl a digiodd pan wrthododd ei briodi. Gweddïodd Dwynwen ar Dduw am gael ei rhyddhau o’i chariad ac ar ôl syrthio i gysgu’r noson honno ymddangosodd angel gyda diod hud iddi. Ar ôl yfed y ddiod hud anghofiodd Dwynwen bopeth am ei chariad a throdd Maelon yn lwmp o rew. Yna rhoddodd Duw dri dymuniad iddi.

St Dwynwen

Ei dymuniad cyntaf oedd dadmer Maelon; ei hail ddymuniad oedd gweld Duw yn cyflawni gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; a’i thrydydd dymuniad oedd peidio â phriodi. Cafodd ei dymuniadau eu hateb, ac i ddiolch am hynny cysegrodd Dwynwen weddill ei hoes i Dduw. Roedd arni eisiau treulio ei hamser yn helpu’r rheiny oedd mewn poen cariad.

Felly gyda’i chwaer Cain a’i brawd Dyfnan teithiodd o gwmpas Cymru yn pregethu ac yn sefydlu aneddiadau Cristnogol.

Sefydlodd hefyd leiandy ar Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn, a daeth ffynnon ar yr ynys a enwyd ar ei hôl yn fan poblogaidd i bererinion ar ôl ei marwolaeth yn 465AD. Credodd yr ymwelwyr bod pysgod y ffynnon sanctaidd yn gallu darogan tynged cariadon. Mae cwlt Dwynwen wedi goroesi’r canrifoedd gyda phobl yn mynd ar bererin i Ynys Llanddwyn, yn enwedig os oedd ganddyn nhw broblemau gyda’u bywyd carwriaethol, i weddïo ar Santes Dwynwen ac i ymweld â’i ffynnon sanctaidd.

Mae olion yr hen eglwys yno hyd heddiw, ac fe gynhelir gwasanaeth ynddi pob blwyddyn. Beth am wylio’r fideo yma o Ynys Llanddwyn. Mae Llanddwyn yn rhan o Lwybr Arfordir Ynys Môn ac yn fan poblogaidd iawn i fynd am dro.

Llanddwyn Church

Felly pam aros tan Ddydd Sant Ffolant i ddatgan eich cariad pan fedrwch chi ddweud ‘dwi’n dy garu di’ dair wythnos yn gynt?

Mae gan lawer o fusnesau lleol gardiau ac anrhegion arbennig i ddathlu’r diwrnod arbennig hwn felly beth am drin eich anwyliaid ym mis Ionawr eleni? Archebwch fwrdd yn eich hoff le a churo rhuthr dydd Sant Ffolant .

Rhydym wedi rhannu syniadau sut i ddathlu’n rhamantus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru isod.

Mae ein hardal yn cynnwys Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.  Gyda llwybrau cerdded hir, golygfeydd digyffwrdd, trefi prydferth a digonedd o leoedd i gael pryd o fwyd a diod, mae hon yn ardal ramantus iawn. Ewch ar daith ramantus i Gorwen ar  Reilffordd Llangollen tra rydych yno. Mae’n ffordd hyfryd o archwilio dyffryn hardd y Dyfrdwy. Ewch am ginio i dafarn y Grouse Inn gyda’i golygfeydd prydferth o’r afon Dyfrdwy cyn dychwelyd ar y trên. Neu am ddull teithio mwy cynaliadwy, beth am logi beic o E beics Llan E Bikes.

Ewch oddi ar y grid

Os ydych am dreulio ychydig o amser ar eich pen eich hun, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lle delfrydol i wneud hynny.  Mae cymaint i’w weld, ni fydd amser gennych i chwilio am 4G. Mae llwybrau cerdded diddiwedd yng nghanol bywyd gwyllt, caerau hynafol a golygfeydd anhygoel yn mynd â chi trwy dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol cyfoethog Dyffryn Dyfrdwy.   Nid yn unig y mae gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy rai o’r tirweddau harddaf yng ngolau dydd, mae gan yr ardal hefyd leoliadau awyr dywyll eithriadol lle gallwch fwynhau rhyfeddod awyr naturiol y nos. Credwn fod ein hawyr dywyll yn werth ei gwarchod a dyna pam yr ydym ar genhadaeth i ennill statws swyddogol gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA). Beth allai fod yn fwy rhamantus na syllu ar y sêr gyda’ch cariad? Neu beth am fynd â’ch camera at oleudy trawiadol y Parlwr Du ar Draeth Talacre i dynnu lluniau o’r haul yn machlud.

Cytiau ar y bryniau

Os ydych am dreulio ychydig o amser gyda’ch gilydd a neb arall, beth am ddianc i gaban gwledig neu fwthyn hunanarlwyo ym mryniau Cymru. Rhywle fel Cwt Bach, sef Cwt Bugail clyd wedi’i leoli ar fferm weithredol ac sy’n edrych dros fryniau Sir Ddinbych . Gyda theithiau cerdded fel Pen y Pigyn yng Nghorwen ar stepen eich drws a golygfeydd dramatig o amgylch pob cornel, fe fydd yn wyliau i’w gofio.

Arhosiad rhamantus mewn castell

Dim ond taith fer o’r arfordir gogleddol a’r ynys a oedd yn gartref i Santes Dwynwen (nawddsant cariadon Cymru), mae profiad chwedlonol go iawn yn eich disgwyl. Ewch i ffwrdd ar wyliau oedolion yn unig i westy Fictoraidd Gradd II Castell Bodelwyddan. Mae’r gwesty wedi’i leoli mewn ystâd goetir hardd (perffaith ar gyfer teithiau cerdded rhamantus), ac mae sba a phwll nofio dan do wedi’i gynhesu yno hefyd

Ewch i un o’r twyni tywod tawel yng Ngronant

Mae gan arfordir Gogledd Cymru ddigonedd o draethau hardd. Gallwch ddod o hyd i lecynnau tawel a heddychlon i chi a’ch cariad eistedd a myfyrio. Mae Twyni Gronant ar ymylon glaswelltog gyda llwyfannau i wylio bywyd gwyllt yr arfordir. Efallai nad chi fydd yr unig gariadon yno, gan mai dyma’r unig nythfa fagu o Fôr-wenoliaid Bach yng ngogledd Cymru.

Gwisgwch yn gynnes ac ymunwch â’ch cydymaith i wylio’r haul yn machlud ar hyd yr arfordir neu ewch am bryd o fwyd golygfaol ym mwyty 1891 yn y Rhyl.

Sbwyliwch eich cariad gydag arhosiad yn Nhyddyn Llan

Beth am fynd am benwythnos rhamantus i un o westai bwtîc bach gorau Cymru?   Mae gan Dyddyn Llan yn Llandrillo lawer i’w gynnig i gariadon – siampên neu goctel rhamantus a bwydlen ginio blasus sydd wedi ennill gwobrau. Os hoffech ail-greu ychydig o Wuthering Heights tra byddwch yno, ewch am dro ar fynyddoedd gwyllt y Berwyn gerllaw.