Ruthin Gaol Season Launch and Birthday Celebration

Ddydd Sadwrn 5ed Ebrill, bydd Carchar Rhuthun, un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiad dathlu i nodi dechrau tymor 2025, a phen-blwydd eithaf trawiadol sy’n cael ei alw’n 250 mlynedd o Garchar Rhuthun!
Er bod cyweirdy wedi’i leoli ar y safle flynyddoedd ynghynt, fe adeiladwyd y darn hynaf o’r Carchar sy’n weddill hyd heddiw ym 1775. Dyluniwyd ac adeiladwyd yr adeilad gan y pensaer lleol enwog, Joseph Turner, a bu i’w adeiladu nodi cyfnod newydd yn hanes y carchar, yn cyd-fynd â diwygiadau mawr i sut yr oedd y carcharwyr yn cael eu trin.
Dros amser, bu i agweddau newydd tuag at droseddau a chosb arwain at ddull Fictoraidd llym a ddyluniwyd i ddiwygio, yn hytrach na chosbi’n unig, sydd wedi’i adlewyrchu ym mhensaernïaeth eiconig adain Pentonville, y gall ymwelwyr ei harchwilio heddiw.

Ar ôl cau’r carchar ym 1916, cafodd y safle ei ailbwrpasu fel ffatri arfau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan gynnig lleoliad cymharol ddiogel i’r Cwmni Lang Pen o Lerpwl weithredu ohono.
Ynghyd â’r peiriannau, daeth merched o Lerpwl i hyfforddi a gweithio ochr yn ochr â merched lleol o Ruthun. Gyda’i gilydd, bu iddynt chwarae rhan hanfodol yn ymdrechion y rhyfel a chyfeiriwyd atynt fel The Munitionettes.

Yn y blynyddoedd diweddarach ychwanegwyd adeiladau ychwanegol i’r safle gan gynnwys adain eiconig Pentonville gyda’i chelloedd islawr atmosfferig, ac er iddynt gau fel carchar ym 1916, mae’r datblygiad yn parhau heddiw. Diolch i gyllid y Llywodraeth, mae adeilad gwreiddiol Turner ar fin dod yn ganolfan croesawu ymwelwyr newydd gyda chaffi a gofod arddangos i arddangos trysor y Sir.

Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud drwy gydol tymor 2025 ond ni fydd yn effeithio ar brofiad unigryw carchar Fictoraidd sydd i’w gael yn yr atyniad hanesyddol a dderbyniodd ‘Dewis Teithwyr’ TripAdvisor yn 2024.
Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithrediadau a Datblygu Safle Treftadaeth yn Carchar Rhuthun;
“Rydym yn gyffrous iawn am y datblygiad sydd ar ddod i’r adeilad blaen a fydd yn ein galluogi i wella profiad ein hymwelwyr a darparu ffyrdd newydd i’r gymuned leol gael mynediad i’w treftadaeth leol. Yn yr un modd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr eleni ac yn gobeithio y bydd y gymuned leol yn ymuno â ni ddydd Sadwrn 5ed Ebrill i nodi dechrau’r tymor a dathlu 250 mlynedd o Garchar Rhuthun.”
Mae’r garreg filltir hon yn cynrychioli’r achlysur delfrydol i ymwelwyr lleol ailddarganfod yr atyniad treftadaeth hynod boblogaidd hwn ac ailgysylltu â rhan bwysig o dreftadaeth leol.

Bydd Carchar Rhuthun yn ailagor ddydd Mercher 2 Ebrill, y digwyddiad Dathlu Pen-blwydd a gynhelir ddydd Sadwrn 5ed Ebrill. Gwahoddir y gymuned leol i fynychu seremoni swyddogol Datgloi’r Gaol am 11:00am a mwynhau hwyl a gemau i’r teulu am ddim a fydd ar gael drwy gydol y dydd yn y Cwrt blaen (mae ffioedd derbyn arferol yn berthnasol ar gyfer mynediad i’r Gaol ei hun).

Heddiw, mae Carchar Rhuthun yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr ymchwilio i hanes y Carchar, a chael profiad o fywyd dyddiol y rhai a oedd yn byw ac yn gweithio yma drwy arddangosfeydd difyr a phosau a llwybrau rhyngweithiol ar gyfer ymwelwyr iau.
Mae Carchar Rhuthun ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul (ar gau ar ddydd Mawrth), rhwng 10:30am a 4.30pm (mynediad olaf am 3.30pm). Am fwy o wybodaeth, neu i gynllunio eich ymweliad, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth
- PPD_090_363 & PPD_090_397: Delweddau wedi ei hatgynhyrchu gyda chaniatâd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru