Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Rhuthun ar y Bws

Julie Brominicks yn ymweld â Rhuthun ar fws.

Mae tair prif ffordd yn rhannu Sir Ddinbych yn llorweddol – yr A55 yn y gogledd, yr A5 yn y de a’r A494 trwy’r canol. Mae’r bws hwn yn cymryd y llwybr canol, gan gerfio trwy gadwyn Bryniau Clwyd. Mae Rhuthun a’r Wyddgrug yn swatio yn ardal y bryniau – mae marchnadoedd anifeiliaid mawr ar gyrion y ddwy dref. Mae’r golygfeydd o’r bws hwn mor odidog â’r disgwyl. Rwy’n clywed sgwrsio Saesneg yn nhu blaen y bws, a’r merched y tu ôl i mi’n trafod dillad gwau yn Gymraeg. Mae Parc Gwledig Loggerheads yn borth delfrydol i fentro’n araf neu’n egnïol i’r bryniau.

Ruthin Gaol
Carchar Rhuthun

Rhuthun

A fu anheddiad mwy del erioed? Ar fryn tywodfaen coch (sy’n rhoi’r enw i’r dref – ystyr rhudd yw coch), mae cyfres ganoloesol o adeiladau ffrâm pren yn ymestyn o Sgwâr San Pedr ar hyd strydoedd bob sut. Mae siop wlân Wayfarer yn arbennig o hynod. Mae digonedd o siopau te; Becws Islwyn, Chatwins, Teacups a siopau bach fel Rhoda’s Sweets and Tobacco, Ruthin Wholefoods a siop Dillad Dynion Trefor Jones. Yn y cyfamser, mae Stan yn torri cig oen yn siop deuluol Cigydd, Groser a Physgod John Jones a’i Fab, gan dynnu’r lwlod yn ofalus. “Mae’n amser i mi ymddeol” meddai’n llawen. “Braf dy weld di, cariad.”

Mae gan Rhuthun gymaint o hanes a nodweddion cain, mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Mae bron yn rhyddhad nad ydw i yma ar ddydd Iau, dydd Gwener neu ddydd Sadwrn, oherwydd yn ôl y sôn, gallwch brynu crefftau coed, gemwaith a mêl gan gynhyrchwyr lleol yn Neuadd y Farchnad ger yr arosfan bysiau. Ac fy mod i’n ymweld y tu allan i’r tymor prysur, a methu cael fy nenu gan dŷ a gerddi’r bymthegfed ganrif, Nantclwyd-y-dre. A Charchar Rhuthun, a fu’n weithredol rhwng 1654 a 1916, sydd ag iard sy’n debyg i set ffilm (a’r cowbois newydd adael). Mae Afon Clwyd yn llifo’n hudolus y tu ôl i’w waliau. Sawl carcharor fu’n gwrando ar sain ei rhyddid? Mae’r afon yn dawnsio o dan fedwen wedi’i thocio. Gan fy arwain i’r Ganolfan Grefft.

Nantclwyd y Dre, Ruthin

Rhuthun Craft Centre

Canolfan Grefft Rhuthun

Mae’r oriel fodern a phwrpasol hon yn helaeth a golau. Mae’n anodd peidio cerdded yn dawel a sibrwd. Pan af i mewn, mae’r brif stiwdio yn llawn llestri ceramig. Rhai bach ar silffoedd, rhai mawr yn y canol. Mae’n anhygoel.  Arddangosfa hardd Adam Buick yw hon; Grounding. Mae pob darn o waith yn sgwrsio â’r dirwedd. Mae’n gadael rhai yn y glaw cyn eu tanio, neu i gael eu treulio gan dywod yn y gwynt. Mae’n ffilmio rhai eraill yn toddi mewn pyllau creigiau.

Rwy’n gadael yr oriel mewn hwyliau artistig, felly rwy’n falch bod yr Helfa Gelf a ddechreuwyd yn ôl yn 2014 – mewn ymgais hynod o lwyddiannus i gysylltu’r Ganolfan Grefft â’r dref – yn dal i fynd o nerth i nerth. Dau lwybr sy’n plethu, mewn gwirionedd. Mae un, sy’n cynnwys ffigurau metel bychain o fodau dynol ar ben adeiladau, yn eich annog i werthfawrogi’r toeau arbennig. Mae’r llall yn gyfres o ‘dyllau ysbïo’ wedi’u gosod mewn waliau.

Blychau i chi sbecian i mewn iddynt yw’r tyllau hyn, i weld chwedl neu gyfnod o hanes lleol wedi’u darlunio a’u goleuo. Mae senotaff ger cofeb rhyfel y dref. Mae mynach Ffransisgaidd (y person olaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru, ym 1679) y tu allan i’r carchar. Dyma gelf bach ar raddfa fawr, cipolwg agos ar fyd arall. Mae’n gynnil a perthnasol i’r ardal leol, a dyma’r gelf gyhoeddus mwyaf hyfryd i mi ei gweld erioed. “Ydych chi’n chwilio am y bobl bach?” holodd dyn barfog, gan bwyntio at un ar do Neuadd y Farchnad. Mae dwy ddynes yn fy nal i’n edrych ar ddienyddiad yr offeiriad. “Wel dyna roi dimensiwn arall i’n taith siopa” meddent. “Dim ond galw am sidan brodwaith wnaethon ni.”

Canolfan Grefft Rhuthun

Castell Rhuthun

Cefais fy hun ar dir y castell ar noson boeth ym mis Awst wrth aros am fws, gan ddisgwyl cael fy hel allan. Wrth gwrs, byddai’r castell wedi bod yn fwy bygythiol yn ôl yn y 13eg ganrif – pan oedd newydd gael ei adeiladu gan Edward I, gyda chysylltfuriau a chwrt pumochrog a ffos o’i amgylch. Er mai adfeilion sydd yma’n bennaf bellach, mae’r gatiau rhodresgar, yn enwedig yr arwyddion ar gyfer gwesty a sba’r Castell yn ddigon brawychus i rhywun fel fi. Ond mae’r gatiau ar agor. Mae’n debyg bod croeso i bawb grwydro’r gerddi hardd sydd wedi’u tirlunio, a chael diod yn Nhafarn y Ddraig – boed chi’n aros yma ai peidio.

Castell Rhuthun

Hen Lys Rhuthun

Mae rhywbeth am Rhuthun sy’n fy nenu i’n ôl i fyny’r bryn tywodfaen, i ganol y dref. Mae dail euraidd yn chwyrlïo y tu allan i Eglwys San Pedr. Mae’r strydoedd canoloesol sy’n arwain i bob cyfeiriad yn olygfa hardd ac mae’r adeiladau’n hyfryd i’w gweld. “Saith Llygad Rhuthun ydi’r un drws nesaf i Wetherspoons”, meddai Roger Edwards, sy’n gwirfoddoli yn yr Hen Lys (sy’n ganolfan gymunedol bellach) ac sydd wedi bod yn cadw golwg am ymwelwyr fel fi wrth eistedd ar y fainc. “Mae mewn arddull Iseldiraidd oherwydd cafodd ei adeiladu gan grefftwr lleol a oedd yn gwneud llawer o waith masnachu gyda’r Iseldiroedd.

Mae Roger yn rhoi taith i mi o’r llys sydd â ffrâm bren. “Cawsom arolwg coed-ddyddio” meddai, “felly rydym yn gwybod bod y trawst hwn wedi’i dorri o’r goeden ym 1427.” Cafodd celloedd y carchar eu troi’n ddaeargelloedd – banc oedd hwn tan chwe mlynedd yn ôl.

Dywed Roger ei fod o’n ymddangos yn un o’r tyllau ysbïo – yr un sy’n dangos bachgen wedi’i amgylchynu gan ddefaid. “Gan fy mod i’n gallu cofio porthmyn yn dod i’r dref” meddai. Awn yn ôl allan at y fainc, sy’n edrych dros y gylchfan ar ganol y dref. Dywed Roger nad yw’r gylchfan wedi bod yno’n hir iawn, ac maen nhw am gael gwared arni bellach, ond nid yw’n siŵr pam. “Rydw i’n cofio cyn iddyn nhw ei gosod hi. Nid oedd unrhyw beth i reoli’r traffig. Byddem ni’n arfer eistedd lle’r ydym ni rŵan, gyda’n radios transistor a gwylio’r ceir yn taro’i gilydd.”

Os oes gennych amser wrth aros am y bws, rwy’n argymell y llyfrgell yn fawr. Mae llyfrgell Rhuthun – fel rhai eraill yn Sir Ddinbych, yn agored a chroesawgar ac mae’r staff yn barod i helpu.

Parc Gwledig Loggerheads

Mae gan y parc wir rhywbeth i’w gynnig i bawb. Os oes awydd seibiant tawel arnoch, ewch i’r ganolfan ymwelwyr, caffi a siop ar lannau tawel Afon Alyn. Os oes awydd mynd am dro bach arnoch, mae llwybrau hygyrch a thir gwyrdd hyfryd – mae’n lle gwych i gael picnic, i deuluoedd ifanc ac i fynd â chŵn am dro.

Ac o fan hyn, gallwch fynd i fyny Moel Famau, neu ymhellach i Fryniau Clwyd, y gadwyn arbennig o fryniau sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Neu cadwch at y teithiau hawdd ar hyd Afon Alyn, sy’n fas a brown, ac at Geunant y Cythraul, lle mae dwy wal galchfaen yn cwrdd. Mae creigiau calchfaen yn edrych dros y parc, gan ychwanegu drama wych. Mae calchfaen yn sail iddo hefyd, gan ddylanwadu ar y glaswelltiroedd sy’n gyfoeth o flodau a’r coetir onn cymysg deiliog. Mae’r planhigion ar y creigiau’n cynnwys pig yr aran ruddgoch, cor-rosyn a theim gwyllt, sydd yn eu tro yn cynnal gloÿnnod byw a gwyfynod. Dyma’r creigiau yr oedd yr artist poblogaidd Richard Wilson – y dywedir yn aml mai ef oedd tad Tirweddau Prydain – yn arfer eu paentio.

Yn y ganolfan i ymwelwyr, clywir sŵn yr olwyn ddŵr sydd wedi’i hadnewyddu, wrth iddi droi ar ei dannedd. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai grawn yn cael ei falu ym Melin Pentre, a oedd yn pweru melin goed hefyd. Mae’n anodd dychmygu’r llwch a’r sŵn ymhlith y tawelwch gwyrdd hwn. Mae’n anoddach fyth dychmygu’r gwaith cloddio plwm a chwarelu a oedd yn digwydd yma. Mae’n ein hatgoffa sut mae tirweddau’n newid o hyd.

Loggerheads Country Park
Loggerheads Country Park

We Three Loggerheads

Mae’r hen dafarn hon o’r ail ganrif ar bymtheg wedi’i hadnewyddu, mae ar agor bob dydd ac mae’n lle gwych i aros am y bws mewn cyfuniad braf o gysur a nodweddion hynafol. Fel y rhan fwyaf o leoedd rwyf wedi bod iddynt yn Sir Ddinbych, rwy’n dod ar draws rhywun lleol cyfeillgar yn syth ac mae ganddo straeon i’w rhannu. “Dim ond wedi galw am gwrw ydw i, wedyn dwi’n mynd adref” meddai Paul Maguire. “Dwi’n byw yma, yng nghanol y wlad.” Mae dangos hen arwydd y dafarn i mi, sydd bellach wedi’i fframio yn yr ardal fwyta ac wedi’i lofnodi gan yr artist Richard Wilson, sydd wedi’i gladdu y tu ôl i’r Eglwys yn yr Wyddgrug. “Yn ôl y sôn, fe baentiodd hwn i dalu dyled” meddai Paul, “ond nid yw hynny’n wir. Rhywun arall wnaeth ei baentio.” Mae’n stori dda serch hynny, ac mae hi’n dafarn dda iawn.

Yr Wyddgrug

Rwy’n dod i ben fy nhaith gydag arhosiad byr dros y ffin i’r Wyddgrug yn Sir y Fflint. Dim ond dwy awr sydd gen i, ond mae hynny’n ddigon i’m hatgoffa bod yr Wyddgrug yn lle llawn enaid. Rydw i wedi bod yma ar ddiwrnodau marchnad heulog (dydd Mercher a dydd Sadwrn) pan fydd y dref i gyd yn fwrlwm o bobl yn crwydro, sgwrsio a bwyta ymhlith stondinau lliwgar.

Nid diwrnod felly yw heddiw. Nid yw’r farchnad anifeiliaid wrth yr orsaf bysiau ar agor chwaith. “Dydd Llun a dydd Gwener” meddai dyn sy’n golchi lori anifeiliaid. “Ie, ac am ddiwrnod ydi hi.”

Mae’r awyr yn llwyd a’r gwynt yn hyrddio. Mae diwrnodau fel hyn yn fy nghyffroi. Rwy’n cael fy nenu at Eglwys y Santes Fair, sy’n urddasol yn edrych dros y dref. Mae’n gynnes a llydan y tu mewn ac mae’r tawelwch yn ysgafn. Gallaf glywed y curad yn gwichio yn ei gadair. Mae cyfres o ffenestri gwydr lliw yn rhoi caleidosgop rhyfeddol o liw i’r tu mewn, sy’n cyd-fynd â’r dail ceirios sy’n chwyrlïo’r tu allan.

Bailey Hill

Bryn y Beili

Yn y cyfamser, ym Mryn y Beili, mae’r gwynt yn taflu dail melyn coeden gastan hynafol enfawr. Bryn y Beili yw’r hyn sy’n weddill o gastell mwnt a beili enfawr. Cafodd gwaith cloddio’r castell ei adeiladu i mewn i ymyl esgair rhewlifol. Mae’n debyg bod y castell wedi’i adeiladu o bren a cherrig, ar ddechrau’r Goncwest Normanaidd. Bellach, gwynt a choed sydd yma. Mae colomennod yn hedfan yn eu plith. Mae cnau ffawydd yn crensian dan draed. Mae jac-dos yn crawcian ac wiwerod yn sgrialu.

Mae siop lyfrau a llyfrgell wych yn yr Wyddgrug. Mae’n dref fywiog a lle da i fod awydd bwyd. Gallwch ddewis o’r Hungry Cow, The Fat Boar, Pound Bakery… Rwy’n mwynhau cawl blasus yn ffenestr The Gathering, (sy’n cyfeirio mae’n debyg at pan fydd y defaid yn dod i lawr o’r bryniau), yn gwylio’r byd a’i bobl. Yna, yn ôl â mi ar y bws.

#baileyhill#loggerheads#mold#ruthin castle #ruthin #ruthingaol ~ruthincraftcentre #ruthinartstrail #ruthincourthouse #maenhuail#ruthincourthouse

Bws 2 and T8

Mae Gwasanaeth 2 (M&H Coaches) yn cymryd 56 munud o Rhuthun i’r Wyddgrug, gan fod y llwybr yn dargyfeirio o’r A494 i gynnwys Llanarmon-yn-Iâl, Graianrhyd ac Eryrys.

Yn y cyfamser, mae’r T8 (TrawsCymru) yn glynu i’r A494 ac yn cymryd dim ond 37 munud rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug. Mae hwn yn un o lwybrau pellter hir TrawsCymru, ac mae’n rhedeg yr holl ffordd o Gorwen i Gaer.

Mae’r ddau wasanaeth yn gadael Ffordd Wynnstay yn Rhuthun, a Stand 3 yng Ngorsaf Fysiau yr Wyddgrug. Ac mae’r ddau yn galw ym Mharc Gwledig Loggerheads.