Rheilffordd Llangollen gam arall yn nes at Orsaf Corwen
Bu Rheilffordd Llangollen yn dathlu cam arwyddocaol arall tuag at ddychwelyd trenau treftadaeth i Gorwen, gyda chraen anferth 51 metr o hyd yn cyrraedd ddydd Mawrth 24 Ionawr i godi fframiau to canopi newydd sbon.
Mae’r contractwyr o Malpas, Plant & Robinson Construction Limited, yn cynnal yr ymarferiad mawr hwn, gyda chefnogaeth tîm gwirfoddolwyr ymroddedig Corwen, ynghyd â staff y rheilffordd a gwirfoddolwyr eraill.
Mae’r canopi wedi’i ariannu gan Grant Ffyniant Bro o £191,000 gan Lywodraeth y DU, a drefnwyd drwy Gyngor Sir Ddinbych. Dywedodd Tom Taylor, Rheolwr Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen: “Fel Ymddiriedolaeth Elusennol, mae Rheilffordd Llangollen am adeiladu ar ein llwyddiannau yn 2022 a chynyddu ein harlwy cyhoeddus. Mae gallu dychwelyd trenau i Gorwen yn ganolog i’n cynlluniau ac i wneud hynny mae angen i ni gwblhau ein gorsaf newydd wych. Rydym yn hynod ddiolchgar i CSDd am hwyluso dosbarthiad y rhaglen hon a ariennir gan Lywodraeth y DU, sydd wedi galluogi’r canopi i gael ei ddylunio, ei adeiladu a’i osod. Mae’n braf iawn gallu cefnogi busnesau lleol hefyd, gyda chwmni sydd wedi’i leoli ychydig y tu allan i Wrecsam yn cyflenwi’r gwaith dur.”
Mae’r orsaf ar arglawdd, gyda golygfeydd godidog ar draws y dref a thua’r mynyddoedd cyfagos, gan danlinellu Corwen fel y porth i Eryri. Mae’r canopi yn gorchuddio cyfran sylweddol o blatfform yr orsaf ac yn gweithredu fel to adeilad yr orsaf. Gall y lleoliad weld gwyntoedd cryfion ac mae tîm prosiect Corwen wedi gweithio’n agos iawn gyda chyflenwyr i ddatblygu datrysiad peirianyddol trwyadl a chryf a fydd yn sicrhau bod ein canopi yn sefyll yn ddiogel dros yr orsaf am flynyddoedd lawer, tra hefyd yn cadw cymeriad ac awyrgylch balch hanes rheilffordd Llangollen.
Maen’t hefyd wedi gallu ailgylchu rhai arteffactau rheilffordd hanesyddol ochr yn ochr â’r gwaith dur newydd. Daw’r colofnau addurnedig sy’n cynnal y canopi o orsaf Blackfriars yn Llundain ac fe’u rhoddwyd i ni gan Network Rail. Mae’r thema hon o ailgylchu ac adfer yn parhau ar draws rhannau eraill o’r orsaf, gyda cherrig ymyl platfform o orsaf Lime Street Lerpwl a Chyffordd y Bala a’r blwch signalau o Weston Rhyn.
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, Phil Coles, “Mae hwn yn gam pwysig arall yn ymestyn y lein i Gorwen. Mae wedi bod yn amser hir i ddod ac rydym wedi wynebu sawl her ond rydym yn benderfynol o wireddu gweledigaeth wreiddiol ein haelodau sefydlu o gael y rheilffordd yn ôl i Gorwen yn barhaol. Disgwylir mai cyfanswm y gost o ymestyn y lein o’n gorsaf dros dro wreiddiol yn Nwyrain Corwen fydd £1.25m. Mae’r hyn sydd wedi’i wneud hyd yn hyn yn gyflawniad gwych, yn enwedig o ystyried bod y rhan fwyaf o’r orsaf wedi’i hadeiladu gan ein tîm bach ond ymroddedig o wirfoddolwyr Prosiect Corwen. Mae ganddynt oed cyfartalog o 67 oed rhyngddynt, gyda rhai ohonyn nhw yn eu saithdegau hwyr, ond does dim arwydd eu bod nhw’n rhedeg allan o stêm!”
Maen’t yn obeithiol y bydd gorsaf Corwen ar agor i’r cyhoedd erbyn ail chwarter eleni a bydd yr achlysur hir-ddisgwyliedig yn cael ei ddathlu gyda digwyddiad gala arbennig.Am fwy o wybodaeth am Gorwen lawrlwythwch ein taith tref yma.
I ddysgu mwy am Reilffordd Llangollen , archebu docyn neu i weld ei hamserlen bresennol , ewch i’w gwefan.