Mwynhewch yr awyr agored
- Gwiriwch eich llwybr ac amodau lleol.
- Cynlluniwch eich antur – sicrhewch eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl a beth fedrwch chi ei wneud.
- Mwynhewch eich ymweliad, crëwch atgof.
Dilynwch lwybrau diffiniedig, nodwyr llwybrau neu fapiau. Dysgwch arwyddion a symbolau cefn gwald, gan gynnwys y rhai ar gyfer llwybr troed cyhoeddus, llwybr ceffylau cyhoeddus, cilffordd gyfyngedig, cilffordd agored i bob traffig, Llwybr Cenedlaethol, Llwybr Arfordir Cymru, tir mynediad agored a llwybr caniataol.
Cadwch at y llwybr i osgoi difrodi neu erydu’r llwybr.
Dyna’r fersiwn fer o’r Cod Cefn Gwlad. Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld fersiwn lawn, sy’n llawn awgrymiadau defnyddiol.