Mentro’n Gall – sut i fod yn ddiogel
Mae ar arbenigwyr Mentro’n Gall eisiau i bobl wneud y penderfyniadau cywir i sicrhau eu bod yn cael antur bleserus a diogel, beth bynnag y gweithgaredd. Anogwch eich ymwelwyr i ofyn tri chwestiwn hanfodol i’w hunain.
- Ydw i’n ffyddiog bod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
- Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd?
- Oes gen i’r offer cywir?
Mae gan AdventureSmart.uk yr holl atebion sydd eu hangen arnoch i gael hwyl a bod yn ddiogel wrth archwilio gogledd ddwyrain Cymru.