Teithio Cyfrifol
Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnig popeth y mae twristiaid yn ei werthfawrogi: tirweddau trawiadol, bywyd gwyllt, hanes, diwylliant a phobl. Dyma pam bod ymwelwyr wedi bod yn dod i Sir Ddinbych ers canrifoedd.
Gall twristiaeth fod yn gatalydd ar gyfer twf yn yr economi leol. Gall wella ein ffordd o fyw a helpu i ddiogelu’r byd naturiol ac adeiledd ein treftadaeth.
Felly gall yr hyn sy’n dda i ymwelwyr fod yn dda i bawb yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl leol yn cael budd o economi ymwelwyr ffyniannus, a’u bod yn gyfforddus â hi.
Mae hyn i gyd yn golygu sicrhau cydbwysedd rhwng croesawu ymwelwyr a chadw’r holl nodweddion sy’n ein gwneud ni mor arbennig. Gall twristiaeth fod yn rhywbeth cadarnhaol iawn. Ond mae’n rhaid ei rheoli’n ofalus. Uwchlaw popeth, mae’n rhaid iddi fod yn gynaliadwy.
Mae teithio’n gyfrifol yn teimlo’n dda ond mae hefyd yn helpu i gynnal y gymuned leol, lleihau ôl-troed carbon ein teithiau ac yn darparu profiad teithio llawer mwy ystyrlon, cyfoethog a chofiadwy. Mae ein hardal yn ysbrydoli ffyddlondeb a chariad. Wrth i ymwelwyr archwilio ein cefn gwlad, mynychu ein gwyliau, clywed y Gymraeg neu fwynhau ein bwyd a’n diod, nid dim ond cael eu hysbrydoli i ddychwelyd y maen nhw. Maen nhw’n dechrau malio go iawn. Mae ein diwylliant arbennig a’n hiaith fyw yn ffynhonnell o gryfder i bobl Cymru. Mae arnom ni eisiau i ymwelwyr deimlo’r egni hwn, ac i ddiwylliant Cymru a’i hiaith gyfoethogi eu profiadau.