Ailagor Plas Newydd ar gyfer Tymor 2025
Mae adeilad hanesyddol Plas Newydd yn Llangollen yn barod i agor ei ddrysau am y tymor newydd a chynnig amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Mae’r hen dŷ rhyfeddol hwn, lle trigai’r anfarwol Ferched Llangollen tua diwedd y ddeunawfed ganrif, yn ailagor unwaith eto ddechrau mis Ebrill.
Daliodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ddychymyg cymdeithas yng nghyfnod y Rhaglywiaeth. Deuai llu o ymwelwyr i’r bwthyn bach diymhongar a weddnewidiwyd gan y Merched ar hyd y blynyddoedd yn ffantasi Gothig o wydr lliw a phren derw wedi’i naddu’n gain. Cewch ddysgu mwy am eu hanes rhyfeddol a phrynu tocynnau i ymweld â’r tŷ rhwng 11am a 4pm, saith niwrnod yr wythnos.
Gallwch gael te, fel y gwnaeth Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington ers talwm, a mwynhau tamaid blasus i’w fwyta yn ystafelloedd te’r Hen Stabl rhwng 10am a 4pm bob dydd o Ebrill 1 ymlaen.

Mae gerddi Plas Newydd yn enwog am eu rhamant a’u hanes cyfoethog. Roedd y Merched wrth eu boddau â byd natur a garddio, ac aethant ati i weddnewid y gerddi’n lle rhamantus, llawn planhigion lliwgar, llwybrau troellog, rhaeadrau ac addurniadau sy’n dal i gyfareddu ymwelwyr hyd heddiw. Cewch grwydro’r gerddi’n rhad ac am ddim bob dydd, gydol y flwyddyn, o 8am nes mae hi’n nosi.
Cadwch lygad am ddigwyddiadau a gynhelir cyn bo hir, a hyrwyddir yn lleol ar dudalen Facebook Plas Newydd, Llangollen. Bydd tymor 2025 yn llawn o weithgareddau difyr fel gweithdai crefft, teithiau tywys a darlithoedd yn y gerddi, digwyddiadau hanesyddol, dramâu, perfformiadau a gweithgareddau i deuluoedd, gan gynnwys yr helfeydd trysor tymhorol sy’n arbennig o boblogaidd â phlant ac yn cynnig gwobrau newydd gwych. Eleni, bydd Plas Newydd hefyd yn cynnal yr wythnos gyntaf erioed i glodfori Gwaddol Merched Llangollen ym mis Mehefin, pan fyddwn yn cynnal llu o weithgareddau’n canolbwyntio ar y Merched, eu hanes unigryw a’r gwaddol y maent wedi’i adael inni.