Plas Newydd Llangollen yn yr hydref
Yr wythnos hon fe hoffem sôn wrthych chi am un o’n hatyniadau gorau i ymweld ag o yn ystod misoedd yr hydref. Mae Plas Newydd yn Llangollen wedi cipio’r dychymyg ers y ddeunawfed ganrif, a dyma oedd cartref Merched Llangollen, y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby o 1780 – 1829. Fe wnaethant ymgartrefu yno ar ôl gadael Iwerddon. Wrth i hanes eu perthynas glos ledaenu drwy’r gymdeithas regentaidd, fe ddaethon nhw’n destun dathlu drwy’r wlad. Cawsant lu o ymwelwyr i’r bwthyn bach diymhongar, y gwnaethon nhw ei drawsnewid dros y blynyddoedd i ffantasi Gothig o wydr wedi’i staenio a derw wedi’i gerfio’n fanwl. Gallwch chi hefyd gael paned o de fel y gwnaeth Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington o’ch blaen chi.
Bwthyn carreg pum ystafell oedd y tŷ gwreiddiol ond dros y blynyddoedd cafodd y tŷ ei estyn ac ychwanegwyd llawer o nodweddion gothig. Mae’r nodweddion gothig i’w gweld hyd heddiw.
Saif Plas Newydd mewn gerddi tawel wedi’u hamgylchynu gan goed, ac yma hefyd y gwelwch chi fedyddfaen Abaty Glyn y Groes. Defnyddiwyd y cylch meini ym Mhlas Newydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908.
Maent ar hyn o bryd (tan ddiwedd mis Hydref) yn arddangos wisgoedd o gyfres Gentleman Jack. Wedi’i leoli yn Swydd Efrog yn y 1830au, mae’n serennu Suranne Jones fel tirfeddiannwr a’r diwydiannwr, Anne Lister. Mae’r gyfres wedi’i seilio ar gasgliad o ddyddiaduron gan Lister (1791-1840), sydd yn cynnwys dros bedair miliwn o eiriau ac sydd wedi’i ysgrifennu’n bennaf mewn cod cyfrinachol, sydd yn nodi hanes ei bywyd. Daeth Anne Lister i ymweld â’r merched ac roedd hi’n llawn parch o’u ffordd o fyw. Mae’n diddorol i weld fod dylunwyr gwisgoedd ar gyfer y sioe wedi cael ysbrydoliaeth o steil y merched – yr hetiau uchel yn benodol. Yn ddealladwy, mae’r gymuned LHDT wedi dangos diddordeb ym Mhlas Newydd.
Yn fwy diweddar mae staff a gwirfoddolwyr ym Mhlas Newydd i greu cynefin naturiol cryfach i beillwyr lleol ei fwynhau.
Cafodd y gwaith o blannu hadblanhigion ei wneud yn ardal y berllan a choetir o dir Plas Newydd yn rhan o statws newydd Cyfeillgar i Wenyn y safle. Y nod yw cefnogi adferiad gwenyn a pheillwyr eraill.
Bydd y blodau gwyllt yn helpu i greu bioamrywiaeth sydd yn fwy lliwgar, amrywiol a chryfach o amgylch y tir er mwyn i natur lleol ac ymwelwyr ei fwynhau.
Byddant hefyd yn darparu bwyd i’r gwenyn a pheillwyr eraill drwy gydol y flwyddyn, ac mae hyn yn cefnogi ein cadwyn fwyd. Mae diddymu’r cynefin hwn yn lleihau’r gefnogaeth ar gyfer peillwyr byd natur, gan effeithio ar ein cadwyn fwyd gan eu bod yn cefnogi twf y rhan fwyaf o’n ffrwythau a’n llysiau.
Gallwch ddilyn Plas Newydd ar Instagram, mae eu tudalen yr yn mor fywiog â’r dail yn yr ardd ar hyn o bryd. Gallwch gofrestru i dderbyn eu newyddlen yma i gael newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod. Er mwyn dysgu mwy am fws cylchol sydd yn mynd o amgylch yr holl atyniadau yn yr ardal, yn cynnwys Plas Newydd, cliciwch yma.
Oriau agor
Ar agor bob dydd rhwng
1 Ebrill a 31 Hydref
10am tan 4pm
Gellir prynu tocynnau i fynd mewn i’r Tŷ yn yr Ystafelloedd Te.
Y Gerddi
Mae’r gerddi yn rhad ac am ddim.
Mae’r giatiau ar gau bob nos ar fachlud haul.
Croesawir cŵn ar dennyn.
Os wnaethoch chi fwynhau’r blog yma, gallwch ddarllen mwy am daith chwilota yno’r llynedd.
e.