Penycloddiau
Dyma ein trydydd taith gerdded gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru. Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Mae gennym 5 arall wedi’u cynllunio ar eich cyfer dros yr misoedd nesaf, felly cadwch lygad amdanynt ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein ardal brydferth ni.
O orwedd mewn pant fe allwch chi osgoi sgrech y gwynt, ond does dim dianc rhag yr awyr. Beth yw’r gromen las drawiadol hon? Alla’ i ddim bwrw’r teimlad o fod mewn glôb eira. Pa dywydd bynnag sy’n eich cymell, eich anwesu neu’n eich erlid yma, mae Penycloddiau – â’i gopa 440m o uchder yn ymgodi uwch y dyffryn, ond eto’n sefyll ar wahân i’r cribau gerllaw – yn meddu ar olygfeydd dirwystr ac awyr sy’n goruchafu.
Gyda golygfan fel hyn, does ryfedd fod Bryniau Clwyd – y gefnen gnapiog o fryniau sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de i lawr ochr ddwyreiniol Sir Ddinbych – yn gartref i bedair bryngaer yn Oes yr Haearn, yn ogystal â Moel y Gaer ym Modfari a Moel Hiraddug gerllaw. Fe allwch chi ymweld â nhw i gyd ar un daith gerdded, ond rydw i wedi dewis gwneud dwy; Moel Arthur â’i ffurf bowlennog a Penycloddiau, sef un o’r mwyaf yng Nghymru, yn mesur 18.9 hectar.
Yn fy mhant clyd, rydw i’n ceisio dychmygu sut le oedd yma yn Oes yr Haearn. Y rhagfuriau wedi’u hail-orchuddio â phren, a phobl yn mynd a dod ymysg y tai crynion y mae eu holion bellach yn ysbrydion sydd ond i’w gweld o’r awyr mewn tywydd sych. Dychmygu arogl yr anifeiliaid a’r mwg yn sleifio drwy’r toeau gwellt, y lleisiau a thincian yr offer. Ydw! Rydw i’n clywed lleisiau. Pedwar cerddwr o Swydd Stafford sy’n fy annog i allan o’r pant i dynnu llun ohonyn nhw. “Dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n byw i fyny yn fan ‘ma mewn gwirionedd” meddai un, pan ddyweda’ i wrtho beth oeddwn i’n ei wneud. “Fe fyddai wedi bod yn daith hir i nôl coed tân” meddai un arall.
Dechreuodd y datgoedwigo ar y bryniau hyn yn yr Oes Efydd, gan barhau ar garlam yn Oes yr Haearn, pan gliriwyd y coetir bedw, derw, llwyfenni, pisgwydd, ynn a gwern gan drigolion y tai crynion hyn er mwyn tyfu grawn a chael tir pori. Ond roedden nhw’n byw yma. Dywed Dr Toby Driver (awdur The Hill Forts of Iron Age Wales) wrtha’ i “y gallai coed tân fod wedi bod yn broblem, ond y byddai unrhyw gymuned wledig wedi rheoli eu hadnoddau coedwigol ac wedi tyfu’r hyn roedd arnyn nhw ei angen ar gyfer adeiladu a choed tân. A dydi’r dyffryn ddim yn bell iawn os oes gennych chi ych i dynnu llond certi o goed.” Er na wyddom ni hyn, efallai eu bod nhw hefyd wedi bod yn llosgi mawn – gyda gweunydd mawn wedi disodli’r coetir a gliriwyd.
Mae’n siŵr eu bod nhw wedi gwirioni ar y golygfeydd. Heddiw, fe wela’ i dyrbinau gwynt oddi ar arfordir gogledd Cymru a blerdwf llwydaidd Lerpwl. Ond fe fyddai mynyddoedd Eryri, sy’n taranu i fyny’r gorllewin tu hwnt i flanced farugog Dyffryn Clwyd, wedi bod mor drawiadol o wyn bryd hynny ag y maen nhw heddiw.
Gwasanaeth Bws
Mae gwasanaeth bws o Ddinbych i’r Wyddgrug yn rhedeg yn aml i Fodfari – Rhif 14 gan P&O Lloyd a rhif 14D ac 14M gan Townlynx. Mae gwasanaeth rhif 76 M&H ac Arriva Cymru rhwng Dinbych a Llangwyfan hefyd yn galw ym Modfari unwaith y dydd.
I gael rhagor o wybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cludiant-cyhoeddus/cludiant-cyhoeddus.aspx
I gynllunio eich taith, defnyddiwch https://www.traveline.cymru/
Cofiwch fod tocyn 1bws am £6.50 yn gadael i chi deithio faint fynnwch chi o amgylch gogledd Cymru yn defnyddio pob gwasanaeth.
Mae Bodfari yn lleoliad da i gerdded bryniau gan fod Llwybr Clawdd Offa’n croesi drwyddo, sy’n cynnig dewis helaeth o lwybrau cerdded. Ac os oes gennych chi amser wrth aros am eich bws, mae Eglwys San Steffan yn lle difyr i fynd, gyda’r Dinorben Arms drws nesaf ar agor drwy’r dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn cynnig bwyd, diod a chornel fach gynnes i aros.
on’t forget that a 1bws ticket for £6.50 gives you unlimited travel in North Cymru on all services.
Bodfari is well-placed for hill walks being crossed by Llwybr Clawdd Offa which gives you multiple route options. And if you have time to wait for your bus, you have St Stephen’s Church to visit, next to which The Dinorben Arms is open all day, seven days a week for food and drink and warmth.
Taith Gerdded
Os yw’r gaeaf yn cynnig tywydd oer, ffres ac awyr glir, yna ewch am dro i’r bryniau. Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn o fryniau sy’n rhedeg i’r de o Brestatyn. Mae’r gylchdaith 11 milltir o hyd hon, sy’n cyfuno rhan o Lwybr Clawdd Offa gyda llwybrau eraill, yn galw am lefel dda o ffitrwydd ac yn dringo hyd at 440m. Mae’n dilyn llwybrau sydd wedi’u marcio ond, fel bob amser mewn tiroedd bryniog, ewch â map gyda chi, gan ofalu eich bod yn gwybod sut i’w ddarllen, a byddwch yn barod am dywydd gwael. Mae yna ddigon o waith dringo egnïol i’w wneud ar y daith hon i’ch cadw chi’n gynnes, ond fe ddylech chi ddisgwyl awel ffyrnig ar y copaon. Ar ddiwrnodau clir, does dim i guro’r golygfeydd tuag Eryri, dros Loegr ac ar draws arfordir gogledd Cymru.
- Dewch oddi ar y bws yn safle Victoria Terrace ar gyfer Llwybr Clawdd Offa. Dechreuwch drwy ddilyn yr arwyddion amlwg am Lwybr Clawdd Offa tua’r de. Dilynwch y llwybr hwn ar draws Afon Chwiler a chaeau bryniog, gan ddringo’n raddol.
- Pan gyrhaeddwch chi gyffordd o lwybrau, ewch ar hyd yr isaf o lwybrau’r bryn (mae yna un is byth os byddai’n well gennych chi daith â lôn fwy gwastad), gan ddilyn Taith Clwyd i Goed Llangwyfan.
- Mae gennych chi ddewis o lwybrau i fyny drwy Goed Llangwyfan, oedd yn arfer bod yn goedwig goniffer ond sydd bellach yn goetir cymysg ifanc.
- Yn y maes parcio uchaf, ailymunwch â Llwybr Clawdd Offa. Dilynwch yr arwyddion am Foel Arthur.
- Pan gyrhaeddwch chi’r arwydd carreg, gadewch Lwybr Clawdd Offa i ddilyn y llwybr i gopa Moel Arthur, un o nifer o fryngaerau o Oes yr Haearn. Oddi yma, ewch yn ôl ar hyd yr un llwybr.
- Yn ôl yn y maes parcio, dilynwch Lwybr Clawdd Offa tua’r gogledd, gan gadw at bennau’r bryniau.
- Mae’r llwybr yn mynd â chi i gopa carnedd Penycloddiau, y mae ei rhagfuriau i’w gweld o hyd.
- Cadwch at Lwybr Clawdd Offa, ond pan gyrhaeddwch chi’r gyffordd o lwybrau yn Fron Haul, fe allwch chi ddewis dychwelyd i Fodfari drwy gylchu’r bryn, cyn ailymuno â’ch llwybr yn ôl i Fodfari yn Fferm Grove Hall.