Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Penwythnos Drysau Agored Medi 7-8

Mae Sir Ddinbych yn agor drysau i ddau adeilad hanesyddol fel rhan o Ddrysau Agored Cadw ddydd Sadwrn 7 a dydd Sul 8 Medi, 10am-4pm

Y cyntaf yw Plas Uchaf ger Corwen. Tŷ neuadd sylweddol a adeiladwyd tua 1400 ac sydd wedi’i leoli ar ochr bryn isel yn nyffryn Dyfrdwy, ardal sy’n llawn golygfeydd, bywyd gwyllt a hanes. Ychydig iawn o dai o’r oes hon sydd wedi goroesi yng Nghymru ac mae ansawdd y gwaith ym Mhlas Uchaf yn eithriadol. Archwiliwch yr adeilad a darganfod mwy am ei hanes a’i adfer. Saif Plas Uchaf ar ochr bryn isel yn nyffryn Dyfrdwy, ger Corwen yng nghanol cefn gwlad Gogledd Cymru. Mae o fewn cyrraedd hawdd i Eryri. Mae siop fferm Rhug gerllaw yn cynnig llawer o gynnyrch lleol, Cymreig ac organig o ansawdd uchel. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan.

Bydd y ty hon ar agor ar yr un penwythnos â diwrnodau agored Dolbelydr taith tua 40 munud mewn car yn Nhrefnant. Mae gan Dolbelydr, sy’n enghraifft wych o dŷ bonedd o’r 16eg ganrif, hawliad da i fod yn fan geni Cymraeg modern – yma yr ysgrifennodd Henry Salesbury ei Grammatica Britannica, y gramadeg Cymraeg cyntaf.

Dolbelydr, Trefnant

Bydd mynediad y diwrnodau agored am ddim ac yn gyfle i weld y tu mewn i’r tirnodau lleol pwysig hyn a dysgu mwy am ei hanes a’i adfer. Er nad yw archebu lle yn hanfodol, byddem yn gofyn i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Eventbrite fel y gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y digwyddiad. Mae croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau ar y tir. Rydym yn agor yr adeilad hwn ar y cyd â Drysau Agored Cadw. Mynediad am ddim a thaflenni ar hanes yr adeilad sydd ar gael. Sylwer, mae parcio wedi’i gyfyngu ar y safle. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan.