Newyddion o Ruthin
Wyddoch chi fod Rhuthun wedi ei enwi fel un o’r llefydd orau i fyw yng Nghymru.
Roedd y gymuned o Sir Ddinbych yn nawfed safle yn y DU, gan gymryd y teitl Cymreig.
Mae Rhuthun wedi curo Y Fenni yn Sir Fynwy, Y Bermo yng Ngwynedd a’r Gŵyr ar ôl i feirniaid o’r Sunday Times ei ymweld.
Disgrifiwyd Rhuthun fel “tref olygus, hanesyddol” ac am ddefnyddio adeiladau hanesyddol mewn modd modern. Roedd y cyn-lysdy 600 oed sydd bellach yn ganolbwynt cymunedol, a hen fanc sy’n ailgylchu nwyddau diangen wedi neud argraff mawr ar y beirniadiau.
Hefyd yn y dre ar ôl dwy flynedd o waith adfer yn dilyn llifogydd, agorodd safle hanesyddol Carchar Rhuthun ei ddrysau i’r cyhoedd ar 1 Ebrill.
Mae llawer iawn o waith adfer wedi cael ei gwblhau, gan gynnwys cell newydd a gynlluniwyd i adrodd hanes y carcharorion a gafodd eu cludo i Awstralia o Garchar Rhuthun.
Mae islawr y Carchar bellach wedi’i adfer i ddangos y gwaith brics gwreiddiol, gan gynnig profiad gwirioneddol unigryw ac atmosfferig i ymwelwyr.
Mae’r ardaloedd awyr agored yn y Carchar hefyd wedi cael eu datblygu, gan ganiatáu ymwelwyr i archwilio mwy o’r safle hanesyddol.
Mae’r Carchar yn agored drwy’r tymor, hyd at 30 Medi. Mae’n agor yn ddyddiol (heblaw dydd Mawrth) o 10:30am tan 5pm, gyda’r olaf am 4pm.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n wych gallu ailagor yr adeilad hanesyddol hwn yn swyddogol ar ôl dwy flynedd o waith adfer. Mae’n rhan bwysig o hanes cyfoethog y dref, ac mae’n werth ymweld â’r ychwanegiadau newydd”.
Os hoffech chi archwilio Rhuthun beth am lawrlwytho llwybr y tref a gwneud diwrnod ohono?