Mae’r Rhyl ar agor i fusnes
Bydd datblygiadau a phrosiectau newydd yn y Rhyl dan y chwyddwydr y gwanwyn a’r haf hwn.
Gyda buddsoddiad o £65 miliwn yn y dref, mae sawl prosiect eisoes wedi’u cyflawni gan gynnwys harbwr newydd, Parc Dŵr SC2, Theatr y Pafiliwn a Bwyty 1891. Yn ogystal, mae cadwyni cenedlaethol wedi adeiladu gwestai newydd ac mae’r busnes presennol Pro Kite Surfing, sy’n denu syrffwyr barcud o bob rhan o’r DU, wedi buddsoddi yn y Kite Surf Café.
Gwaith arall sy’n digwydd yn y dref yw’r cynllun amddiffyn yr arfordir i ddiogelu eiddo preswyl a busnesau sydd mewn perygl mawr o lifogydd. Bydd y gwaith yng Nghanol y Rhyl, sy’n dechrau fis Ebrill 2023, nid yn unig yn amddiffyn y dref, ond hefyd yn uwchraddio ac ehangu’r promenâd ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.
Dros y misoedd nesaf, bydd rhai rhannau o’r promenâd ar gau, fodd bynnag bydd pwyntiau mynediad eraill i’r traeth ar gael ac wedi’u harwyddo’n glir a bydd pob busnes ar agor fel arfer. Mae prif ddigwyddiad tymor yr haf, sef Sioe Awyr y Rhyl, yn dychwelyd ar y 26ain a’r 27ain o Awst. Mae hwn yn prysur ddod yn ddigwyddiad glan môr rhad ac am ddim mwyaf Gogledd Cymru a bydd yn cynnwys y Red Arrows a Hediad Coffa Brwydr Prydain.
Yn fuan ar ôl y Pasg, a thrwy gydol y cyfnod gwaith adeiladu, bydd Promenâd y Gorllewin ar gau rhwng Butterton Road a’r ardal sy’n agos at y maes parcio canolog. Bydd cerddwyr yn cael eu cyfeirio oddi wrth y gwaith gan fynd â nhw heibio SC2, Sinema Vue a’r Pentref Plant lle byddan nhw’n gallu cael ymuno â’r promenâd presennol i’r dwyrain o SeaQuarium.
Bydd mynediad i’r llwybr beicio ar y promenâd yn cael ei gau gyda beicwyr yn cael eu dargyfeirio i ffwrdd o’r ardal adeiladu i lwybr wedi ei arwyddo’n clir. Bydd y maes parcio ar Stryd y Cei hefyd ar gau er mwyn gwneud lle i swyddfeydd y safle a storfa.
Argraffiadau artistiaid o gynllun newydd
Yn ogystal, bydd Promenâd y Dwyrain wedi cau’n rhannol o’r fynedfa i faes parcio’r Pafiliwn i ochr orllewinol llwybr y traeth ar Old Golf Road. Yn ystod mis Ebrill, bydd ramp yn cael ei adeiladu i ganiatáu mynediad o gompownd adeiladu Marine Drive i’r traeth. Bydd maes parcio’r Pafiliwn yn parhau ar agor.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, “Mae’r gwaith sy’n mynd ymlaen i adfywio’r Rhyl yn wirioneddol gyffrous ac mae’r prosiectau sydd eisoes wedi’u cyflawni wedi gwella’r dref yn aruthrol. Mae’n anochel y bydd gwaith ar y raddfa hon yn creu rhywfaint o aflonyddwch tymor byr, fodd bynnag, rydym yn cymryd pob cam posibl i sicrhau bod mynediad amgen i atyniadau ymwelwyr, busnesau a’r traeth wedi’i arwyddo’n glir. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ddatblygiad hirdymor yn y Rhyl ac yn gyffredinol, nod y prosiect adfywio enfawr hwn yw buddsoddi yn y dref er budd ein trigolion, busnesau ac ymwelwyr.”
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar dudalennau gwefan Cyngor Sir Ddinbych ar Amddiffyn yr Arfordir ac Adfywio’r Rhyl.