Mae nythfa o fôr-wenoliaid bach Sir Ddinbych wedi dychwelyd i nythu dros yr haf.
Cyrhaeddodd y nythfa draeth Gronant ddiwedd mis Ebrill a dechrau mis Mai ac mae 162 o nythod wedi’u cyfrif ar y safle’n barod (ar 26 Mai)
Mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru wedi bod yn gwarchod y nythfa am bron i ddau ddegawd.
Dyma’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru ac mae’n adnabyddus yn rhyngwladol gan ei bod yn cyfrannu at dros 10 y cant o’r boblogaeth fagu yn y DU yn ogystal ag ategu heidiau eraill o’r môr-wenoliaid bach. Nythfeydd Gronant a’r Parlwr Du yw’r unig rai sy’n bridio yng Nghymru.
Mae ffens 3.5km o hyd a 3km o ffensys trydan wedi eu gosod o amgylch y nythfa i amddiffyn yr adar rhag ysglyfaethwyr ar y tir. Ar ddiwedd y tymor nythu, bydd y rhain yn cael eu tynnu o’r safle, sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Mae Wardeiniaid bellach ar safle’r nythfa, yn cynnal y corlannau o ffensys trydan lle mae nythod y môr-wenoliaid, yn gwneud gwaith monitro ac yn cadw golwg am ysglyfaethwyr o’r ganolfan ymwelwyr a’r lloches wylio gerllaw.
Un o’r tîm sy’n ar ddyletswydd fel warden ar y safle yw Claudia Smith, Ceidwad Arfordirol Gogledd Sir Ddinbych. Bu’n cerdded o amgylch y corlannau’n ddiweddar i weld sut hwyl maent yn ei gael ar nythu.
Dywedodd: “Dechreuodd y môr-wenoliaid bach gyrraedd yma ddiwedd mis Ebrill a dechrau mis Mai. Maent wedi dechrau nythu’n ddiweddar a’r cyfrif nythod diwethaf gan y ceidwaid yw 162.
“Y llynedd, roedd gennym ni tua 209 o gywion felly dyna’r niferoedd rydym ni’n gobeithio eu gweld i adael am Affrica ddiwedd yr haf.”