Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Llangollen lle mae Cymru’n Croesawu’r Byd

Yr wythnos hon rydym am eich cyflwyno i dref hardd Llangollen. Ymhen mis, dyma fydd y lle i fod, wrth iddi groesawu’r byd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.  Dechreuodd yn 1947 gyda’r weledigaeth y gallai’r hen draddodiad eisteddfodol Cymreig fod yn fodd i wella clwyfau’r Ail Ryfel Byd, drwy hybu heddwch parhaol. Mae cystadleuwyr bellach yn teithio yno o bob rhan o’r byd i gymryd rhan.  Mae eleni yn arbennig o gyffrous gydag amrywiaeth o berfformwyr enwog yn darparu adloniant ar bob noson o’r wythnos.

Llangollen Pavilion
Pafiliwn Llangollen

Cychwynnodd ein taith i mewn i Langollen o ddyffryn Ceiriog ac wrth i ni deithio i lawr yr allt serth ar hyd y lonydd coediog yng ngolau’r haul, daeth yr olygfa fwyaf godidog o Langollen i’r amlwg yn dangos haenau ar haenau o hanes.  O ddechrau’r 13eg ganrif mae Castell Dinas Bran yn sefyll dros y dref i darren galchfaen Eglwyseg sy’n codi’n uchel dros y mynydd grug y tu ôl iddo.  Mae’r calchfaen carbonifferaidd, a elwir yn lleol yn Panorama, tua 330 miliwn o flynyddoedd oed, ac mae braciopodau ffosil a chwrelau i’w canfod yno.

Dinas Brân Castle, Llangollen
Castell Dinas Brân, Llangollen
Llangollen Golf Course
Cwrs Golff Llangollen gyda darren calchfaen yn y cefndir

Wrth yrru’n is i mewn i Langollen ar hyd Heol y Bryn, cyn i ni gyrraedd y ffordd a elwir yn lleol yn Grapes Hill, awn heibio mynedfa Plas Newydd.  Dechreuodd y tŷ a’r gerddi hardd hwn ei fywyd fel bwthyn, cyn cael ei drawsnewid yn ‘ffantasi’ gothig gan ei drigolion enwocaf – ‘Boneddigesau Llangollen’. Gadawodd y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby Iwerddon yn 1778 i sefydlu cartref ym Mhlas Newydd am hanner canrif.  Roeddent yn enwog am eu gwisg anarferol yn ogystal â’u cartref hynod, a chawsant westeion nodedig gan gynnwys Dug Wellington, Wordsworth, Shelley, Syr Walter Scott, a Josiah Wedgewood. Mae ymwelwyr yn dal i gael eu swyno, ac adolygiadau Trip Advisor yn nodi ‘Unigryw ac yn werth ymweld ag o’, ‘Darlun Syfrdanol’ a ‘Bythgofiadwy’.

Plas Newydd House and Tearooms in Llangollen
Plas Newydd a Ystafelloedd te Llangollen

Mae Llangollen mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae’n hawdd gweld pam. Mae yna haen o niwl sy’n gorwedd o amgylch yr ardal goediog y tu hwnt i brysurdeb y dref, sy’n rhoi awyrgylch dyffryn alpaidd iddi.  Mae dyfroedd gwyllt hardd yr afon Dyfrdwy yn nodwedd fawr sy’n croesi’r bont o’r 16eg ganrif, un o saith rhyfeddod Cymru. Oddi yma gallwch weld Rheilffordd Treftadaeth Llangollen i Gorwen, a ddechreuwyd gan grŵp o wirfoddolwyr yn 1975, yn raddol ffurfio’r atyniad eithriadol a welwch heddiw. 

Llangollen Railway
Llangollen Railway

Os cerddwch ychydig bach oddi yma i fyny Wharf Hill, gallwch ddal ’cwch camlas wedi dynnu gan geffyl sydd wedi bod yn weithredol ar hyd y gamlas ers 1884.  Ffordd wirioneddol ymlaciol i fwynhau’r ddyfrffordd sy’n rhan o’r gamlas syfrdanol 11 milltir o hyd a chefn gwlad sy’n ymestyn dros ddwy wlad, ar hyd traphontydd dŵr, twneli a thraphontydd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddwr a Chamlas Pontcysyllte.

Cwch camlas ar Gamlas Llangollen

Fel y gallwch ddychmygu mae Llangollen yn lle gwych ar gyfer antur.  Ar Parade Street, fe welwch Bearded Men Adventures sy’n cynnig gweithgareddau fel rafftio dŵr gwyn, canŵio ar y draphont ddŵr, cerdded hafnau, tiwbiau afon, saethyddiaeth a thaflu bwyeill a mwy. Gweithgareddau diwrnod llawn a hanner diwrnod, anturiaethau aml-ddiwrnod a phartïon plu a cheiliog (nid yw barf yn orfodol!) Drws nesaf mae Drosi bikes , canolfan feicio gymunedol yn Llangollen, gyda chenhadaeth i leihau gwastraff drwy greu beiciau ac e-feiciau unigryw, ymarferol a hwyliog.  Maent yn gwerthu, trwsio a llogi beiciau ac e-feiciau. Ar yr un stryd fe welwch Amgueddfa Llangollen , sy’n cynnig arddangosfeydd gwybodaeth craff am hanes Llangollen.

Mae Llangollen yn gartref i siopau annibynnol gwych a chaffis, bwytai a thafarndai.  I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â’r Ganolfan Groeso ar Heol y Castell, sydd wedi’i lleoli yn yr Hen Gapel drws nesaf i Neuadd y Dref. Lle gallwch archebu llety, cynllunio llwybrau a theithlenni, archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol a lleol yn ogystal â dod o hyd i wybodaeth am leoedd i ymweld â nhw, pethau i’w gwneud, llefydd i fwyta.  Mae ganddynt hefyd oriel hardd ar gyfer artistiaid lleol, crefftau, mapiau, canllawiau a llyfrau.

Canolfan Groeso Llangollen

Gallwch lawrlwytho Llwybr Tref Llangollen yma gyda map defnyddiol.