Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Llangollen yn cael uwchraddiad gyda phrosiect Pedair Priffordd Fawr

Mae’r prosiect Pedair Priffordd Fawr sy’n rhan o raglen Ffyniant Bro De Clwyd yn anelu at hyrwyddo a gwella’r pedair priffordd fawr yn Llangollen; trwy wella mynediad, gwelededd a byrddau dehongli Safle Treftadaeth y Byd a Chamlas Llangollen, cyn reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, Afon Dyfrdwy a Ffordd Llundain i Gaergybi hanesyddol Thomas Telford.  Mae ramp newydd yn cael ei osod i wella mynediad i’r parc o Mill Street a bydd ardal bicnic well yn y parc ac ardal chwarae natur fach i blant. Yn y Lanfa, mae set newydd o risiau’n cael eu gosod i wella mynediad at ardal y gamlas.

Bydd arwyddion a chyfeirbyst ar draws y dref yn cael eu gwella trwy osod byrddau dehongli newydd a fydd yn cynnwys gwybodaeth dreftadaeth a hanesyddol am y dref.  Bydd rhywbeth i blant ar y byrddau hefyd a chelf a ffotograffiaeth gan bobl leol (un enghraifft o hyn yw cystadleuaeth a gynhaliwyd gennym gydag Ysgol Dinas Brân i fyfyrwyr yr adran Gelf dynnu llun ar gyfer un o’r byrddau wrth y bont).  Rydym hefyd yn gosod palmant efydd ger yr atyniadau a fydd yn dangos llun hanesyddol o’r ardal gydag ychydig o wybodaeth am yr atyniad.  Caiff llwybr cyfeirbyst ei osod trwy’r dref hefyd i gyfeirio ymwelwyr at yr atyniadau.

Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwelliannau newydd hyn wedi’u cwblhau erbyn diwedd mis Awst.

Cliciwch yma i lawrlwytho llwybr tref Llangollen.