Arloesi a rhagori ar y rhaglen ar gyfer Fforymau Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych
Gwahoddir busnesau twristiaeth i ddau Fforwm Twristiaeth ar-lein i amlinellu eu harloesedd a’u rhagoriaeth yn eu diwydiant ym mis Mawrth. Gyda detholiad o fusnesau lleol fel siaradwyr gwadd penigamp, mae’n addo bod yn ddigwyddiadau allweddol i bawb sy’n ymwneud â’r sector twristiaeth.
Cynhelir y ddau Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych ar-lein dros Zoom ddydd Iau 21 a dydd Gwener 22 Mawrth. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i fusnesau rwydweithio a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau ar-lein.
Mae’r siaradwyr gwadd ar y Fforwm dydd Iau’n cynnwys Gwen Davies o Winllan y Dyffryn, a fydd yn rhannu manylion eu siwrna fel y ffermwyr grawnwin cyntaf yn Nyffryn Clwyd, yn ogystal â Tom Taylor o Reilffordd Llangollen, enillwyr Atyniad y Flwyddyn yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales 2023.
Ddydd Gwener, y siaradwyr gwadd fydd Rob Price o Ŵyl Rhuthun sy’n dathlu 30 mlynedd yn 2024 a Gail Swan a fydd yn adrodd hanes Swans Farm Shop, fferm fynydd draddodiadol a siop fferm lwyddiannus yn Nhreuddyn.
Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych:
“Mae’r Fforymau Ar-lein yn blatfform gwych i bawb yn y sector ddod at ei gilydd a rhannu eu gwybodaeth, syniadau a chynlluniau i sicrhau twf twristiaeth gynaliadwy yn y dyfodol. Nid digwyddiad ar gyfer busnesau twristiaeth yn unig yw hwn, mae’n gyfle da i fyfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn twristiaeth glywed gan fusnesau lleol.”
Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Sir Ddinbych, gyda chyfanswm yr effaith economaidd yn £628 miliwn yn 2022. Fe wnaed dros 6 miliwn o ymweliadau yn y Sir gyda 1.64 miliwn yn penderfynu aros, i fyny 56.1% yn 2022 o’i gymharu â ffigurau 2021.
Archebwch le ar y Fforymau Twristiaeth Ar-lein yma:
Dydd Iau, 21 Mawrth – Arloesi a Rhagori (2pm-3.15pm)
Dydd Gwener, 22 Mawrth – Busnesau gyda straeon i’w hadrodd (10.30am – 11.45am)