Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Cymorth lleol ar gyfer ein gylfinirod

Mae swydd Sam fel Swyddog y Gylfinir a Phobl ar gyfer Cysylltu Gylfinir Cymru * yn rhan o brosiect 3 blynedd i gydweithio’n agos gyda thirfeddianwyr i wella poblogaeth y gylfinir sy’n prinhau. Eglurodd Sam fod nifer y gylfinir wedi lleihau’n sylweddol oherwydd torri dolydd gwair yn ddwys ar gyfer silwair ac oherwydd coedwigaeth ac ysglyfaethu. Pwrpas y prosiect yn rhannol yw adnabod safleoedd nythu ac yna eu monitro a’u hamddiffyn gyda ffensys trydan er mwyn i’r oedolion fagu’r wyau a’r cywion bach nes eu bod yn barod i hedfan y nyth. Oherwydd bod y nythod ar y tir, maent mewn perygl o ysglyfaethwyr megis moch daear a llwynogod. Y cynefin mwyaf cyffredin yw glaswelltir wedi’i led wella, rhostir sych a chorsydd mawn.  

Mae gwirfoddolwyr a ffermwyr wedi bod yn rhan fawr o ddod o hyd i’r safleoedd o fewn y ‘12 Ardal Gylfinir Bwysig’ penodol. Rhan o waith Sam yw annog ffermwyr i addasu eu harferion ffermio i ganiatáu i’r nythod ffynnu. Hyd yma mae 40 o ffermwyr wedi cymryd rhan yn y cam monitro ac mae 25 yn gallu rhoi cefnogaeth bellach i’r gwanwyn a’r haf. Yn ffermwr ei hun, mae Sam yn deall yr heriau o gydbwyso cadwraeth ac elw. Mae rhai ffermwyr wedi bod yn eithriadol o gefnogol ac wedi bod wrth eu boddau’n gweld y gylfinir ar eu caeau. Maent wedi gallu dynodi 6 ardal fagu brysur yn Rhydtalog a Rhostir a phentref Llandegla ym Mynyddoedd y Berwyn uwchben Llandrillo a Dyffryn Morwynion, Glyn Ceiriog, Dyffryn Dyfrdwy a Mynydd Mynyllod. Drwy’r prosiect, maent wedi gallu dynodi bron i 40 o barau o’r gylfinir. Bydd 38 erw o laswelltir cynhyrchiol ar chwe fferm yn cael eu gadael heb eu torri i annog y gylfinir i fagu. Bydd y ffermydd hyn yn cael eu had-dalu i gydnabod eu rhan yn y prosiect yn ogystal â 30 erw o gaeau gwair bras y mae eu perchnogion wedi cytuno i’w torri’n hwyrach.

Er mwyn cynnal poblogaeth gylfinir y DU, byddai’n rhaid i bob pâr fagu 3 chyw bob 5 mlynedd.  Ar hyn o bryd, hyd yn oed gyda chymorth gwirfoddolwyr a ffermwyr, oherwydd cyfraddau goroesi isel y cywion, mae’r gyfradd bresennol o barau a nodwyd yn un ym mhob pum mlynedd yn unig. Mae tymheredd tymhorol isel a nifer isel o bryfed y maen nhw’n bwydo arnynt a phoblogaeth uchel o ysglyfaethwyr i gyd yn effeithio’n andwyol ar lwyddiant y cywion i ddatblygu’n oedolion.

Mae Sam a gweddill y tîm wedi llwyddo i rannu eu neges â dros 10,000 o bobl drwy eu hymgysylltu cymunedol. Fodd bynnag, mae angen mwy o addysg am y perygl i’r Gylfinir yn ogystal ag addysgu pobl i helpu bywyd gwyllt a da byw’n gyffredinol drwy gadw cŵn ar dennyn a chadw’n ddigon pell o diroedd magu. Mae cadw at lwybrau troed, yn enwedig ar dir amaethyddol yn hynod o bwysig fel y gallwn roi cyfle i’r Gylfinir.

Cynhelir Digwyddiad Dathlu’r Gylfinir yng Nghastell y Waun ar 14 Mawrth, o 10am- 12pm. Croeso i bawb, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i ein tudalennau cymdeithasol.

Gallwch wylio ffilm fer ar gyflwr y Gylfinir, ‘Stunned by Silence’ yma gyda thrac sain gan David Gray.

Mae *Cysylltu Gylfinir Cymru yn brosiect cadwraeth a gefnogir gan ‘Gronfa Rhwydweithiau Natur’ Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae miliwn o bunnoedd wedi ei ddyrannu i gefnogi’r gylfinir sy’n bridio yng Nghymru, yn canolbwyntio ar dair ‘Ardal Gylfinir Bwysig’. Ar y cyd, mae GWCT yn arwain yn Sir Drefaldwyn ochr yn ochr â phartneriaid yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Nod Cysylltu Gylfinir Cymru yw mynd i’r afael â’r materion allweddol sy’n achosi’r dirywiad yn y gylfinir, mae monitro a deall poblogaethau’r gylfinir yn yr ardaloedd hyn, gweithredu rheolaeth ysglyfaethwyr a gwaith cynefin yn flaenllaw. Wrth ragweld y bydd y gylfinir bridio wedi diflannu yng Nghymru erbyn 2033, agwedd bwysig ar y gwaith yw cysylltu’r tirlun a phobl gyda’r adar eiconig hyn. Mae tîm o Swyddogion y Gylfinir a Phobl dynodedig yn gweithio’n agos gyda ffermwyr, tirfeddianwyr a rheolwyr tir, ochr yn ochr â gweithlu o wirfoddolwyr i wella llwyddiant magu poblogaethau lleol o’r gylfinir ledled Cymru.