Rhamant a dathlu Dydd Santes Dwynwen yng Ngogledd-ddwyrain Cymru
Mae Diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariad Cymru, yn cael ei ddathlu ar 25 Ionawr. Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn dathlu’r diwrnod rhamantus hwn mewn nifer fawr o ffyrdd.
Archwilio Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) swyddogol ac mae’r dirwedd yn un drawiadol. Gyda llwybrau cerdded hir, golygfeydd digyffwrdd, trefi prydferth a digonedd o leoedd i gael pryd o fwyd a diod, mae hon yn ardal ramantus iawn. Ewch ar daith ramantus i Garrog ar Reilffordd Llangollen tra rydych yno. Mae’n ffordd hyfryd o archwilio dyffryn hardd y Dyfrdwy. Ewch am ginio i dafarn y Grouse Inn gyda’i golygfeydd prydferth o’r afon Dyfrdwy cyn dychwelyd ar y trên. Neu am ddull teithio mwy cynaliadwy, beth am logi beic o E beics Llan E Bikes.
Ewch oddi ar y grid
Os ydych am dreulio ychydig o amser ar eich pen eich hun, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lle delfrydol i wneud hynny. Mae cymaint i’w weld, ni fydd amser gennych i chwilio am 4G. Mae llwybrau cerdded diddiwedd yng nghanol bywyd gwyllt, caerau hynafol a golygfeydd anhygoel yn mynd â chi trwy dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol cyfoethog Dyffryn Dyfrdwy. Nid yn unig y mae gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy rai o’r tirweddau harddaf yng ngolau dydd, mae gan yr ardal hefyd leoliadau awyr dywyll eithriadol lle gallwch fwynhau rhyfeddod awyr naturiol y nos. Credwn fod ein hawyr dywyll yn werth ei gwarchod a dyna pam yr ydym ar genhadaeth i ennill statws swyddogol gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA). Beth allai fod yn fwy rhamantus na syllu ar y sêr gyda’ch cariad? Neu beth am fynd â’ch camera at oleudy trawiadol y Parlwr Du ar Draeth Talacre i dynnu lluniau o’r haul yn machlud.
Cytiau ar y bryniau
Os ydych am dreulio ychydig o amser gyda’ch gilydd a neb arall, beth am ddianc i gaban gwledig neu fwthyn hunanarlwyo ym mryniau Cymru. Rhywle fel Cwt Bach, sef Cwt Bugail clyd wedi’i leoli ar fferm weithredol ac sy’n edrych dros fryniau Sir Ddinbych . Gyda theithiau cerdded fel Pen y Pigyn yng Nghorwen ar stepen eich drws a golygfeydd dramatig o amgylch pob cornel, fe fydd yn wyliau i’w gofio.
Arhosiad rhamantus mewn castell
Dim ond taith fer o’r arfordir gogleddol a’r ynys a oedd yn gartref i Santes Dwynwen (nawddsant cariadon Cymru), mae profiad chwedlonol go iawn yn eich disgwyl. Ewch i ffwrdd ar wyliau oedolion yn unig i westy Fictoraidd Gradd II Castell Bodelwyddan. Mae’r gwesty wedi’i leoli mewn ystâd goetir hardd (perffaith ar gyfer teithiau cerdded rhamantus), ac mae sba a phwll nofio dan do wedi’i gynhesu yno hefyd
Ewch i un o’r twyni tywod tawel yng Ngronant
Mae gan arfordir Gogledd Cymru ddigonedd o draethau hardd. Gallwch ddod o hyd i lecynnau tawel a heddychlon i chi a’ch cariad eistedd a myfyrio. Mae Twyni Gronant ar ymylon glaswelltog gyda llwyfannau i wylio bywyd gwyllt yr arfordir. Efallai nad chi fydd yr unig gariadon yno, gan mai dyma’r unig nythfa fagu o Fôr-wenoliaid Bach yng ngogledd Cymru.
Gwisgwch yn gynnes ac ymunwch â’ch cydymaith i wylio’r haul yn machlud ar hyd yr arfordir neu ewch am bryd o fwyd golygfaol ym mwyty 1891 yn y Rhyl.
Sbwyliwch eich cariad gydag arhosiad yn Nhyddyn Llan
Beth am fynd am benwythnos rhamantus i un o westai bwtîc bach gorau Cymru? Mae gan Dyddyn Llan yn Llandrillo lawer i’w gynnig i gariadon – siampên neu goctel rhamantus a bwydlen ginio blasus sydd wedi ennill gwobrau. Os hoffech ail-greu ychydig o Wuthering Heights tra byddwch yno, ewch am dro ar fynyddoedd gwyllt y Berwyn gerllaw.