Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ffynnon Santes Tegla

Dyma ein chweched taith gerdded gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru. Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Mae gennym 2 arall wedi’u cynllunio ar eich cyfer dros yr misoedd nesaf, felly cadwch lygad amdanynt ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein  ardal brydferth ni.

Nid oes camgymryd y teimlad. Mae’r daith gerdded addfwyn yn eich ymbaratoi, yn ystumio fel y mae ar hyd glannau’r Afon Alyn, ac i lawr lonydd sy’n troi’n braf, gyda’r unig draffig yn feiciau cwad yn neidio i mewn i gau (ac ymosodiad o ddrywod). Yn y ffynnon mae teimlad o rywbeth distaw, a hynafol a sanctaidd.

Yn cael ei storio mewn trwch o ddrain, mae’r darn hwn o ddŵr yn dal adlewyrchiad y dŵr. Mae hi wedi disgleirio rhwng y cerrig am ganrifoedd; ei hadeiladu’n ofalus o amgylch tarddell yn llwyn y wernen. Fer yr eglwys yn y pentref, mae’r ffynnon wedi’i chysegru i Santes Tegla. Neu Tecla, neu Thecla. Yn ôl Gwyddoniadur y Byd Newydd, roedd Tegla’n dilyn Sant Pedr, ac mae hyn yn cael ei grybwyll yn un o destunau’r Testament Newydd, lle nodir, bod ei hymroddiad wedi’i ‘wobrwyo gan arwyddion gwyrthiol, gan gynnwys sawl achubiad dramatig rhag merthyrdod drwy dân a bwystfilod.’ Roedd Tegla’n cael ei pharchu’n eang yn yr hen fyd, ac mae’n cael ei gydnabod heddiw gan yr eglwysi Catholig Rhufeinig a’r Uniongred Dwyreiniol. Felly sut wnaeth hi ganfod Cymru? Theori arall (safbwynt Tristan Gray Hulse) yw bod Tegla’n santes leol na wyddom unrhyw beth amdani erbyn hyn.

Mae gennym sawl disgrifiad o ganrifoedd mwy diweddar fodd bynnag bod y ffynnon yn gallu iachau epilepsi, ac er bod y cyfrifon yn amrywiol, roedd rhai yn adrodd: Byddai’r unigolyn a oedd yn dioddef yn ymolchi yn y ffynnon, ac yn taflu pedwar ceiniog i mewn, a cherdded o’i chwmpas dair gwaith gan gario iâr os oeddent yn ddynes, neu geiliog os oeddent yn ddyn, gan adrodd Gweddi’r Arglwydd. Yna fe fyddant yn cerdded o amgylch yr eglwys dair gwaith cyn cysgu dan yr allor, gyda’r iâr anffodus (os byddai’n marw) y byddai’r afiechyd yn cael ei throsglwyddo.

Mae’r gwanwyn ar y gweill. Mae’r cacennau bach pinc ar y cownter, ac mae’r addurniadau ar nenfwd y caffi cymunedol i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen a San Ffolant ym mis Ionawr a Chwefror, y hytrach na Santes Tegla. Mae’r caeau yn gorsydd cyntefig. Ond mae’r cynffonau oen bach yn siglo yn y gwynt a blagur tynn yn frith trwy’r gwrychoedd. Ac yma ger y ffynnon, er gwaethaf y brigau gwlyb a moch y coed llynedd, a sŵn saethu’r adar ysglyfaethus, mae egni yn yr awyr, a dail piws yn gwthio drwy’r pridd tywyll. 

Y Bws

Mae’r 51 a’r X51 rhwng Wrecsam a Dinbych yn stopio yn The Crown (sydd wedi cau bellach) ar yr A525, ger Llandegla, gyda’r ffynnon wedi’i lleoli chwarter milltir o daith cerdded wedyn i mewn i’r pentref. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg oddeutu unwaith bob dwy awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

I gael rhagor o wybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cludiant-cyhoeddus/cludiant-cyhoeddus.aspx

I gynllunio eich taith ar y bws, defnyddiwch https://www.traveline.cymru/

Cofiwch fod tocyn 1bws am £6.50 yn gadael i chi deithio faint fynnwch chi o amgylch gogledd Cymru yn defnyddio pob gwasanaeth.

Y Daith

Dyma daith gerdded addfwyn 3 milltir o hyd, sy’n pasio eglwys Santes Tegla, ar hyd Afon Alyn ar Lwybr Clawdd Offa, gan ddychwelyd i’r pentref a Ffynnon Santes Tegla ar hyd ffyrdd gwledig tawel. Ar ddiwedd y gwanwyn mae dail ar y gwrychoedd, mae’r adar yn canu a’r blodau gwyllt yn blaguro. Mae’r lôn ym Mhlas Tyna i’r de o Landegla yn rhan o brosiect Gwarchodfeydd Natur ymyl ffordd Sir Ddinbych. Yma byddwch yn canfod cyfoeth o rywogaethau o blanhigion yn y gwrychoedd megis y mapgoll a’r clychlys mawr, planhigion y coetir megis mapgoll glan y dŵr, ac ymysg planhigion glaswelltir calchaidd, tegeirian porffor y gwanwyn a’r friallen Fair sawrus. Gallwch wneud y daith gerdded yn fyrrach drwy gerdded yn syth am y ffynnon o’r safle bws – tua hanner milltir. Peidiwch ag anghofio ymweld â’r siop gymunedol braf a’r caffi gyferbyn â’r eglwys. Mae’r lonydd yn dawel ac yn boblogaidd ymysg cerddwyr lleol, ond cofiwch gymryd y rhagofalon arferol wrth gerdded ar y ffordd.

  1. O’r safle bws, dilynwch yr arwyddion i’r pentref, gan nodi’r Siop a’r Caffi Cymunedol gyferbyn â’r eglwys.
  2. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Llwybr Clawdd Offa gan fynd i gyfeiriad y gogledd o’r eglwys. Dilynwch y llwybr ar hyd Afon Alyn, nes cyrraedd pen y ffordd.
  3. Trowch i’r chwith ar hyd y lôn, gan nodi sgarpiau ar eich chwith, a mwynhewch weithgarwch yr adar, nes cyrraedd croesffordd.
  4. Trowch i’r chwith tuag at Landegla. Mae’r lôn yn droellog ac yn fryniog. Dyma le byddwch yn canfod blodau gwyllt ar ymyl y ffordd.
  5. Wrth gyrraedd y bont gerrig i groesi Afon Alyn (lle byddwch yn gweld safle picnic cymunedol ar lannau’r afon) gan droi i’r dde i mewn i’r cae, gan ddilyn arwyddion i’r ffynnon dros bont droed yn llwyn y wernen.
  6. Parhewch drwy’r pentref i Eglwys Santes Tegla – sydd yn cynnwys cyfleusterau gwneud te ar gyfer cerddwyr. Yn y cyfamser, mae’r Siop Gymunedol gyferbyn â’r eglwys yn lle gwych i aros os oes gennych amser i’w sbario. O’r fan hyn dychwelwch i’r safle bws.