Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Yr Ŵyl Lledrith Chwedlonol

Dewch draw i ddyffryn godidog Dyfrdwy lle mae’r tylwyth teg yn byw yn y castell ar y bryn!                    

Dyma’r digwyddiad tylwyth teg mwyaf yn y DU ac mae digon o bethau i’ch cadw’n brysur. 
Creu ffon hud AM DDIM, gweithdai sgiliau syrcas AM DDIM, adrodd straeon AM DDIM, perfformiadau yn yr arena awyr agored AM DDIM, cerddoriaeth fyw AM DDIM a llawer mwy.  Dewch draw i gwrdd â’r Eirth Tylwyth Teg a’u ffrind, Yncl Uncorn.

Gallwch fwynhau reidiau ffair traddodiadol neu ddysgu sgil newydd.   Mae Tink wedi ymgynnull cannoedd o fasnachwyr o bell ac agos i gymryd rhan yn y farchnad dylwyth teg anferth er mwyn i chi gael mwynhau amrywiaeth o nwyddau tylwyth teg arbennig: gemwaith, dillad, tai bach, dolis a ffigurynnau, canhwyllau, creiriau, dodrefn pren, drysau, crisialau a llawer mwy.  Gallwch wisgo fel tylwyth teg o’ch corun i’ch sawdl, ffrogiau mawreddog, ffyn hyd, clogwyni, tiaras, esgidiau, adenydd ac ategolion ysblennydd eraill. Gallwch hefyd ymweld â’r cornel ‘Cwrdd â’r Awdur’ lle bydd awduron o’r ardal leol a thu hwnt yn gwerthu ac yn trafod eu llyfrau.   Sicrhewch eich bod yn ymweld â’n cornel ysgrifenwyr arbennig wedi’i ysbrydoli gan dref lenyddol Gelli Gandryll.

Ar y nos Sadwrn o 7.00pm, cynhelir Dawns Fawreddog Tylwyth Teg i unrhyw un dros 16 oed sy’n awyddus i ddawnsio trwy’r nos i gerddoriaeth fyw mewn gwisgoedd tylwyth teg di-ri!

Gellir archebu tocynnau ar Eventbrite am £4 i blant dan 12 oed ac £8 i blant dros 12 oed/oedolion.  Mynediad AM DDIM i blant dan 3 oed.  Lleoliad – Pafiliwn Llangollen
www.eventbrite.co.uk/e/the-legendary-faery-festival-tickets-853197194777

Trefnwyr: Tink Bell
northwalesfaeryfestival@gmail.com
northwalesfaeryfestival.com