Diwrnodau Agored Dolbelydr yn Nhrefnant
-
Dyddiad cychwyn
7 Medi 2024 Digwyddiad trwy'r dydd
-
Dyddiad Gorffen
8 Medi 2024 Digwyddiad trwy'r dydd
Mae gan Dolbelydr, enghraifft wych o dŷ bonedd o’r 16eg ganrif, hawliad da i fod yn fan geni Cymraeg modern – yma y sgrifennodd Henry Salesbury ei Grammatica Britannica, y gramadeg Cymraeg cyntaf.
Bydd y diwrnodau agored yma yn gyfle i weld y tirnod lleol pwysig hwn a dysgu mwy am ei hanes a’i adfer. Er nad yw archebu lle yn hanfodol, byddem yn gofyn i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Eventbrite fel y gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y digwyddiad.
Yn agor ar yr un penwythnos am y tro cyntaf mae Plas Uchaf, tua 40-munud i ffwrdd mewn car o Dolbelydr.
Mae croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau ar y tir. Rydym yn agor yr adeilad hwn ar y cyd â Drysau Agored Cadw.
Mynediad am ddim a thaflenni ar hanes yr adeilad ar gael.
Sylwer, mae parcio wedi’i gyfyngu ar y safle.
Aam fwy o wybodaeth ewch ir wefan.