Diwrnod Santes Dwynwen
Santes Dwynwen ydi nawddsant cariadon Cymru, ac rydym ni’n dathlu Diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr.
Ond pwy oedd Santes Dwynwen?
Yn ôl y chwedl, ganwyd Dwynwen yn y pumed ganrif yn nheyrnas Brycheiniog yn ferch i’r brenin Brychan Brycheiniog. Roedd ganddo 24 o ferched a Dwynwen oedd yr harddaf yn eu plith.
Blodeuodd Dwynwen yn ferch hardd a disgynnodd Maelon Dafodrill, brenin o’r gogledd, mewn cariad â hi. Ac roedd hithau’n ei garu yntau hefyd. Fodd bynnag, roedd gan ei thad ŵr arall mewn golwg iddi ac felly roedd yn llwyr yn erbyn iddi briodi Maelon. Rhedodd Dwynwen i ffwrdd ac arni ofn anufuddhau i’w thad, ond aeth Maelon ar ei hôl a digiodd pan wrthododd ei briodi. Gweddïodd Dwynwen ar Dduw am gael ei rhyddhau o’i chariad ac ar ôl syrthio i gysgu’r noson honno ymddangosodd angel gyda diod hud iddi. Ar ôl yfed y ddiod hud anghofiodd Dwynwen bopeth am ei chariad a throdd Maelon yn lwmp o rew. Yna rhoddodd Duw dri dymuniad iddi.
Ei dymuniad cyntaf oedd dadmer Maelon; ei hail ddymuniad oedd gweld Duw yn cyflawni gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; a’i thrydydd dymuniad oedd peidio â phriodi. Cafodd ei dymuniadau eu hateb, ac i ddiolch am hynny cysegrodd Dwynwen weddill ei hoes i Dduw. Roedd arni eisiau treulio ei hamser yn helpu’r rheiny oedd mewn poen cariad.
Felly gyda’i chwaer Cain a’i brawd Dyfnan teithiodd o gwmpas Cymru yn pregethu ac yn sefydlu aneddiadau Cristnogol.
Sefydlodd hefyd leiandy ar Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn, a daeth ffynnon ar yr ynys a enwyd ar ei hôl yn fan poblogaidd i bererinion ar ôl ei marwolaeth yn 465AD. Credodd yr ymwelwyr bod pysgod y ffynnon sanctaidd yn gallu darogan tynged cariadon. Mae cwlt Dwynwen wedi goroesi’r canrifoedd gyda phobl yn mynd ar bererin i Ynys Llanddwyn, yn enwedig os oedd ganddyn nhw broblemau gyda’u bywyd carwriaethol, i weddïo ar Santes Dwynwen ac i ymweld â’i ffynnon sanctaidd.
Mae olion yr hen eglwys yno hyd heddiw, ac fe gynhelir gwasanaeth ynddi pob blwyddyn. Beth am wylio’r fideo yma o Ynys Llanddwyn. Mae Llanddwyn yn rhan o Lwybr Arfordir Ynys Môn ac yn fan poblogaidd iawn i fynd am dro.
Felly pam aros tan Ddydd Sant Ffolant i ddatgan eich cariad pan fedrwch chi ddweud ‘dwi’n dy garu di’ dair wythnos yn gynt?
Mae gan lawer o fusnesau lleol gardiau ac anrhegion arbennig i ddathlu’r diwrnod arbennig hwn felly beth am drin eich anwyliaid ym mis Ionawr eleni? Archebwch fwrdd yn eich hoff le a churo rhuthr dydd Sant Ffolant . Mae gennym syniadau eraill yn fan hyn sut i ddathlu’n rhamantus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.