Cyhoeddi Llwybr Milltiroedd Cymunedol Newydd
Gall cerddwyr roi un droed o flaen y llall ar hyd llwybr Milltiroedd Cymunedol newydd yn Sir Ddinbych.
Mae ychwanegiad newydd wedi cael ei lansio yn y cynllun llwybr Milltiroedd Cymunedol sy’n cynnwys ardal Nantglyn.
Mae llwybrau Milltiroedd Cymunedol wedi’u dylunio gyda chymunedau ac ymwelwyr yn y cof. Maen nhw’n cymryd tua dwy awr i’w cwblhau ac yn cyflwyno cerddwyr ar y ffordd i fusnesau lleol a llwybrau cludiant, yn dangos trysorau cudd ac yn helpu eich lles corfforol a meddyliol.
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE) 24 o deithiau cylchol dros Sir Ddinbych o Brestatyn yn y Gogledd i Landrillo yn y De.
Mae’r holl lwybrau presennol wedi cael eu gwella gyda chamfeydd, giatiau a phontydd newydd, ac wedi’u harwyddo i fod yn haws i’w dilyn. Mae taflen gyda map a gwybodaeth ynglŷn â’r hyn y gall cerddwyr eu gweld ar gyfer pob llwybr cerdded, yn ogystal â syniadau ar gludiant lleol i’r llwybr o’r dechrau i’r diwedd.
Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud i lwybr newydd Nantglyn hefyd diolch i gefnogaeth prosiect Cymunedau Gwyrdd. Mae’n cynnwys gwell arwyddion a newid camfeydd yn giatiau pan fo hynny’n bosib.
Mae’n cynnwys dau lwybr cerdded cylchol o bentref Y Waen a Moel Gasyth gan roi golygfeydd o bell o Hiraethog a gogledd Bryniau Clwyd.
Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae defnyddio’r llwybrau Milltiroedd Cymunedol yn ffordd wych i gefnogi eich lles personol a meddyliol. Mae’n nhw hefyd yn wych ar gyfer gweld ardaloedd bendigedig ar draws Sir Ddinbych a thu hwnt a byddwn yn annog pobl i roi cynnig arni drwy roi un troed o flaen y llall ar un o’r llwybrau hyn.”
Mae taith gerdded gymunedol wedi cael ei chynllunio ar gyfer Mai i Fehefin ar lwybr Nantglyn, am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost
Am fwy o wybodaeth ar y llwybr Milltiroedd Cymunedol ewch i wefan.
Os oes gennych ddiddordeb mewn teithiau cerdded eraill yn yr ardal, ewch i’n taith gerdded ddiweddar o gwmpas Ywen Nantglyn.