Dymunwn i bawb, beth bynnag eu gallu neu’u hanabledd, fedru mwynhau promenâd a thraethau bendigedig y Rhyl. Ar ôl inni weithredu ein cynlluniau newydd, uchelgeisiol ar gyfer amddiffyn yr arfordir bydd y traeth yn fwy hygyrch a’r promenâd yn uwch ac yn lletach, a bydd ramp yn mynd i lawr at y tywod ar yr ochr orllewinol.
Gall pobl sy’n defnyddio cadair olwyn logi cadair arbennig ar gyfer y tywod o PKS Watersports y drws nesaf i’r Kite Surf Café. Mae hwn yn un o blith nifer o leoedd o gwmpas glan y môr sy’n rhoi pwyslais ar fod yn hygyrch i bawb.
Dyma rai enghreifftiau:
Yn SC2 mae yno ddwy o ystafelloedd newid arbennig i bobl anabl yn ogystal â 17 o giwbiclau newid sy’n addas i bobl sydd angen mwy o le, neu sydd eisiau newid fel teulu. Yn y parc dŵr mae grisiau i fynd i mewn ac allan o’r rhannau dyfnaf o’r pwll ac mae teclyn codi ar gael ar gais, yn ogystal â ramp i fynd i mewn i’r Pad Sblasio y tu allan. Mae SC2 yn cynnal sesiynau addas i blant a phobl ifanc awtistig yn gyson, gyda llai o sŵn yn y cefndir, llai o gyhoeddiadau dros yr uchelseinydd a llai o bobl yn y pwll.
Mae yno doiledau hygyrch ar bob llawr yn Theatr y Pafiliwn a bar/bwyty 1891 – mae lle i hyd at wyth o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ymysg y seddi yn y theatr a system dolen sain i bobl sy’n drwm eu clyw.
Mae sinema Vue yn y Rhyl yn darparu mynediad i gadeiriau olwyn i bob rhan o’r adeilad a phob sgrin. Mae’r drws yn agor yn awtomatig ac mae’r prif gyntedd a phob sgrin i gyd ar yr un llawr. Ceir mynediad heb risiau i’r mannau ar gyfer cadair olwyn ac mae toiled hygyrch gerllaw’r prif gyntedd. Mae dolenni sain wrth bob cownter. Mae Vue y Rhyl yn dangos ffilmiau ag isdeitlau bob wythnos ac yn cynnig disgrifiadau sain ar gyfer rhai ffilmiau penodol – mae gan rai o’r sgriniau dechnoleg isgoch sy’n helpu pobl i glywed. Cynhelir sesiynau ffilm i bobl awtistig yn rheolaidd gan bylu’r goleuadau, troi’r sain i lawr a pheidio â dangos hysbysebion na rhagflas o ffilmiau eraill.
Mae Rheilffordd Fach y Rhyl wedi addasu un o’i gerbydau fel y gall ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn fwynhau taith ar y trên – gyda ramp sy’n estyn i lawr at y platfform. Yn yr Orsaf Ganolog mae yno amgueddfa gyda sgriniau cyffwrdd sy’n cydymffurfio â’r holl safonau diweddaraf ar gyfer hygyrchedd. Mae dolenni sain gydol yr adeilad ynghyd â chwyddwr sain ger y ddesg docynnau, a thoiled hygyrch.