Llwybr Tref Rhuddlan
Mae’r lleoliad strategol wrth rhyd yr Afon Clwyd, dim ond tair milltir o’r môr, wedi bod yn fflachbwynt yn hanes Cymru ers 795AD. Er ei fod yn amser maith ers i’r Cymry gael eu trechu’n greulon gan y Sacsoniaid, mae’r galarnad “Morfa Rhuddlan” yn dal i gael ei chanu hyd heddiw.
Pellter: 2 filltir / 3.2km heb gynnwys llwybrau sy’n mynd allan o’ch ffordd
Pa mor anodd yw’r llwybr?: Hawdd, gall y llwybr i Twthill fod yn fwdlyd
Walking time: 2 awr
Man cychwyn: Maes parcio Parliament Street LL18 5AL
Cludiant cyhoeddus: Traveline Cymru 0800 464 0000,
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 03457 484950
Senedd-dŷ
Mae’r Senedd-dŷ ar gornel y gyffordd gyda’r High Street.
Rydym yn dechrau gyda rhywbeth sy’n tynnu sylw. Yn ôl y garreg gyda’r arysgrif, dyma olion yr adeilad lle pasiodd Edward I y Statud Rhuddlan hynod arwyddocaol. Yn anffodus, er gwaethaf ei enw, nid oes tystiolaeth bod fan hyn erioed wedi bod yn senedd-dŷ – yn fwy na thebyg adeilad llys canoloesol ydoedd. Mae’r drws o’r 13eg ganrif a’r ffenestri pigfain o’r 14eg ganrif bellach wedi eu llenwi ac yn ôl pob tebyg wedi dod o’r castell. Roedd y Statud ei hun yn wir – fe sefydlodd reolaeth Lloegr dros Ogledd Cymru a fu mewn bodolaeth am ddwy ganrif a hanner tan y Ddeddf Uno yn 1536.
Eglwys y Santes Fair
Ewch i mewn i’r fynwent drwy’r porth Fictoraidd.
Adeiladwyd yr eglwys blwyf drawiadol hon tua 1300 i wasanaethu’r dref Edwardaidd newydd. Dwy ganrif yn ddiweddarach adeiladwyd y tŵr a chorff gogleddol yr eglwys gan ei troi yn eglwys dau gorff sy’n nodweddiadol i Sir Ddinbych. Atodwyd beddrod caerog i deulu Neuadd Bodrhyddan wrth ochr ogleddol yr eglwys ym 1820 a newidwyd ymddangosiad yr eglwys i gyd-fynd â’r naws Fictoraidd gan Syr George Gilbert Scott. Y tu mewn fe welwch destunau Cymraeg o’r 17eg ganrif wedi eu peintio ar y waliau a slab canoloesol wedi’i ysgythru yn darlunio regalia cyflawn yr Archesgob Edessa o Dwrci.
Y Bont
Dychwelwch i’r High Street a mynd i lawr y rhiw at y bont.
Mae’r ddelwedd o’r castell, y bont a’r eglwys mewn clwstwr wrth ochr glannau’r Afon Clwyd mor eiconig fel bod yr arlunydd Turner wedi penderfynu tynnu llun ohono. I fyny’r afon, i’r dde wrth ymyl y dŵr, mae tŵr sgwâr y castell a oedd unwaith yn gwarchod porthladd Edward I. Mae pont wedi bod yma ers o leiaf 1277 ac mae’r strwythur cain hwn, gyda’i ddau fŵa tywodfaen, yn dyddio’n ôl cyn belled â 1595. Cafodd yr elfen cantilifrog o haearn bwrw ei ychwanegu yn y 19eg ganrif.
Mae’r olygfa orau o’r ceiau i’w gael o’r bont droed fodern.
Ceiau Hynafol
Mae’n anodd credu heddiw fod yr afon tawel ar un adeg yn llawn o sgwneri. Sefydlwyd cei pren bychan yn yr oes ôl-ganoloesol ac erbyn dechrau’r 19eg ganrif, ychwanegwyd warws a chraen llwytho ar y cei. Adeiladwyd glanfa gerrig yn fuan wedi hynny gan ei wneud yn borthladd pwysicaf Gogledd Cymru, gan allforio grawn, pren a plwm o fwynglawdd anferth Talargoch ym Meliden gerllaw. Roedd hyd yn oed ffowndri a tanerdy ar y lan orllewinol. O ganlyniad i ddyfodiad y rheilffordd ym 1848 caewyd llwybrau’r llongau a ni chafodd defnydd pellach ei wneud o’r ceiau.
Ewch yn ôl i fyny’r bryn neu barhau i lawr Station Road ac ar hyd llwybr arall byr i’r warchodfa natur.
Gwarchodfa
Natur Rhuddlan
Mae pobl leol wedi helpu i droi y gornel anghofiedig hon i’r de o’r afon yn un o warchodfeydd natur mwyaf newydd Gogledd Cymru – ac mae glas y dorlan, llygod y dwˆ r a dyfrgwn wedi symud i fyw i’r ardal yn barod. Mae’r hen orsaf rheilffordd bellach yn rhan o 11 erw sy’n hafan i fywyd gwyllt gyda phyllau, coedwigoedd a dolydd blodau gwyllt. Edrychwch allan am y cerfluniau – gweision y neidr yn hofran, mulfran yn ymestyn ei adenydd, a hyd yn oed cerddwr yn cau carrai ei esgidiau. Mae’n lle gwych i fynd am dro gyda golygfa gwych ar draws yr afon i’r castell. Ac os ydych yn teimlo’n egnïol iawn mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 84 yn rhedeg yr holl ffordd o’r arfordir i Lanelwy.
Castell Rhuddlan
Dyma fo: gogoniant y dref ac un o brif cestyll Cymru. Dechreuwyd ei adeiladu ym 1277, ac roedd castell Rhuddlan yn rhan o’r “cylch haearn” o gaerau a adeiladwyd gan Edward I yn ei ymgyrch ddidostur i ddychryn ac i ddarostwng y Cymry. Mae ei gynllun chwyldroadol gan un o feistri y byd penseiri, James o San Siôr yn cynnig tair llinell cydganol o amddiffyniad – ward fewnol siâp diemwnt, ward allanol a ffos ddofn. Ond roedd un broblem. Nid oedd yr Afon Clwyd yn troelli yn y lle iawn i gyflenwi’r castell o’r môr. Felly dyma Edward, neu yn fwy cywir, tîm o 70 o weithwyr dan orfodaeth o Ffens Swydd Lincoln yn treulio tair blynedd yn dargyfeirio’r afon â llaw.
Tomen Twthill
Cymerwch y tro cyntaf i’r dde oddi ar Lôn Hylas i ddilyn llwybr troed wrth ymyl y castell.
Nid oedd y Normaniaid yn troi traed. Dim ond saith mlynedd ar ôl Brwydr Hastings, fe adeiladodd cefnogwr Gwilym Goncwerwr sef Robert o Rhuddlan gastell mwnt a beili yma ar ben hen balas tywysogaidd. Mae’r mwnt, neu domen o bridd, yn dal i sefyll yn ogoneddus ger yr Afon Clwyd. Mae’n werth y ddringfa sydyn i fyny Twthill am olygfa godidog sy’n cynnwys y meindwr pell o “Eglwys Farmor” Bodelwyddan. Fe newidiodd perchnogaeth y castell ar sawl achlysur yn ystod y ganrif neu ddwy nesaf cyn i Edward I golli ei amynedd ac adeiladu caer garreg enfawr drws nesaf.
Brodordy yn
Fferm yr Abaty
Ewch allan o’ch ffordd i’r fynachlog drwy ddilyn y llwybr troed i’r de-ddwyrain. Fel arall ewch yn ôl yr un ffordd.
Sefydlodd Llywelyn ap Gruffydd fynachlog y Brodyr Du yma am beth amser cyn 1258. Diddymwyd y mynachlog yn ystod y Diwygiad, ond roedd yn parhau i fod yn adfail eithaf trawiadol mewn ysgythriad o 1742. Yn fuan wedi hynny fe adeiladwyd Fferm yr Abaty ar y safle – ond ni ddiflannodd y mynachlog yn gyfan gwbl. Cafodd rannau ohono ei ailgylchu. Mae’r fferm yn breifat, ond o’r lôn gallwch weld yn glir y delw 14eg ganrif wedi’i osod yn wal y beudy. Ychydig i’r dwyrain, sy’n bosib ei gyrraedd ar lwybr troed, mae olion ffos y dref ganoloesol a fu’n diogelu’r fynachlog.
Banquet House
Banquet House yw un o ddirgelion Rhuddlan. Nid oes neb yn gwybod yn iawn ei ddiben gwreiddiol – elusendy o bosib. Mae’n dyddio o 1672, ac yn adeilad tal a hardd gyda dau lawr, ffenestri myliynog a bwa carreg cerfiedig uwchben y drws. Mae’r cwt sgowtiaid a geir yn agos at ddiwedd Princes Road yn amlwg yn llai trawiadol. Ond ar un adeg bu’n sefyll tua milltir i ffwrdd yng nghyffiniau mawreddog adeilad rhestredig Gradd I Neuadd Bodrhyddan (amser agor yn gyfyngedig yn ystod yr haf, edrychwch ar bodrhyddan.co.uk). Mae’r gwaith brics bras ar y talcen yn gliw i’r dyddiau lle roedd synau seiri olwynion a’r gof wrth ei waith.
Amddiffynfeydd Ffos
Wrth i Kerfoot Avenue wyro i’r dde, cymrwch y llwybr cul ar y chwith.
Mae patrwm grid o dref Edward I i’w weld o hyd yn y High Street, Ffordd y Castell, Church Street, Cross Street, Parliament Street a Gwindy Street. Wedi’i amgylchynu gan rymoedd a allai fod yn elyniaethus, roedd angen amddiffyn yr holl dref gyda ffos, ac mae darn ohono’n parhau i fod yn weladwy yn y cae hwn ar yr ymyl ogleddol. Ar un adeg roedd ffos llydan llawn dŵr rhwng dau rhagfur gyda phalisâd pren. P’un ai y byddai wedi bod yn ddigon i’ch gwneud chi deimlo’n ddiogel rhag byddin o Gymry gwyllt yna roedd hynny’n fater arall yn gyfan gwbl. Mae rhagor o wybodaeth i’w gael ar y bwrdd arddangos yn Gwindy Street.