Llwybr Tref Prestatyn
Mae Prestatyn wedi bod yn un o’r cyrchfannau glan môr enwocaf yng gogledd ymru ers i’r trenau gyrraedd am y tro cyntaf ym 1848. Roedd rfaoedd lu o wristiaid o’r dinasoedd llawn mwg Prydeinig Fictoraidd yn ymweld â’r ardal i wynhau awyr iach Cymru ac i fwynhau’r poblogrwydd mawr o ymdrochi yn y môr.
Pellter: 2 filltir /3.2km heb gynnwys y Baddon Rhufeinig
Pa mor anodd yw’r llwybr?: Yn hawdd ar y cyfan ond mae’r daith i Erddi’r Bryn yn reit serth
Amser yn cerdded: 2 awr
Man cychwyn: Maes parcio Ffordd Llys Nant LL19 9LG
Cludiant cyhoeddus: Traveline Cymru 0800 464 0000,
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 03457 484950
Parc Siopa
Prestatyn
Dechreuwch yn y maes parcio y tu ôl i eglwys y plwyf a cherddwch i lawr i Ffordd Llys Nant.
Adeiladwyd yr adeilad brics ar y chwith ym 1903 fel gorsaf dân a swyddfeydd y cyngor. Gyferbyn, mae hen orsaf yr heddlu – mae bariau i’w gweld ar y ffenestri i lawr yr ochr. Nawr croeswch Ffordd Llys Nant, trowch i’r dde ac yna i’r chwith i mewn i brif fynedfa Parc Siopa Prestatyn. Mae’n debyg y bydd 160,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu llawn enwau cyfarwydd a brandiau mawr yn siwˆ r o dynnu’ch sylw. Nid oes rhaid i chi wrthsefyll y demtasiwn. Cymerwch eich amser cyn gwneud eich ffordd heibio’r “mur byw” i waelod y Stryd Fawr.
Hen Orsaf
Rheilffordd
Ar ôl agor y rheilffordd o Gaer i Fangor ar 1 Mai, 1848 cafodd Prestatyn ei droi o fod yn bentref arfordirol cysglyd i fod yn un o gyrchfannau mwyaf ffasiynol Prydain. Dyma’r orsaf a’r sied nwyddau wreiddiol, dim ond un allan o bedwar gan y pensaer rheilffordd, Francis Thompson sy’n dal i fodoli yng Ngogledd Cymru. Erbyn 1897 nid oedd y ddau blatfform â’u golau lamp olew yn gallu ymdopi â’r traffig ychwanegol a chafodd gorsaf newydd ei adeiladu. Ar y naill ochr i’r bont droed mae dau gerflun dur. Mae’r cerflun pellaf i ffwrdd yn pwyntio tuag at y promenâd. Mae’r un o’ch blaen, gyda’r cerddwr bywiog, yn pwyntio i fyny’r Stryd Fawr oherwydd eich bod yn awr yn dilyn Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae mes pres yn y palmant yn dangos y ffordd.
Ffynnon Pochin
Henry Davis Pochin yw creawdwr y Brestatyn fodern. Ym 1869 fe brynodd y cemegydd diwydiannol rhyfeddol 400 erw o dir – ac aeth ati i weithio gyda’r egni Fictoraidd nodweddiadol. Adeiladodd argloddiau i ddal dwˆ r y môr, a chario dwˆ r a nwy trwy bibell, yn ogystal â chyflwyno prif ddraeniad i’r dref. Tan hynny, rhesi o fythynnod to gwellt wedi’u gwasgaru i fyny’r bryn oedd y Stryd Fawr. Yn sydyn iawn fe drawsnewidwyd y dref i’r hyn a welwch heddiw – cymysgedd o siopau bywiog annibynnol, llefydd bwyta a thafarndai yn dyddio o ddiwedd oes aur Fictoraidd ac Edwardaidd y dref. Mae’r ffynnon hon, a arferai sefyll ar y blaendraeth, yn nodi cyflawniadau Pochin.
Eglwys Crist
Fe arweiniodd y twf cyflym ym Mhrestatyn i greadigaeth plwyf newydd – ac eglwys blwyf ysblennydd i gyd-fynd â hynny. Er tydi Eglwys Crist erioed wedi bod mor fawreddog a hyn. Adeiladwyd yr eglwys ym 1863, ac ychwanegwyd ei eil ddeheuol ym 1905 cyn rhoi estyniad ar yr eil ogleddol ym 1910. Cwblhawyd y trawsnewid gyda’r gangell newydd a Chapel y Merched ym 1926. Y tu allan mae beddi chwe o fechgyn côr rhwng 6 ac 11 oed a foddodd mewn damwain nofio cyn ymarfer côr ar 17 Gorffennaf 1868. Edrychwch am y rhes o groesau cerrig bychain y mhen pellaf y wal ddeheuol. Mae cofeb gwydr lliw i ddau o’r bechgyn, y brodyr Samuel a George Gilderoy, uwchben yr allor yng Nghapel y Merched.
Capel Rehoboth
Adeiladwyd Capel Bresbyteraidd Rehoboth Cymru ym 1863 gydag estyniadau mawr ym 1894. Mae’n enghraifft wych o gapel Cymraeg ar dro’r ganrif. Gyferbyn y siop o’r enw “The Emporium” bu ffyniant mewn adeiladu gan ddisodli’r bythynnod a arferai fodoli ar y strydoedd mwdlyd a llychlyd heb eu goleuo. Yn Fforddlas mae modd gweld y gwter garreg agored a arferai redeg yr holl ffordd i lawr y Stryd Fawr, ac sydd hefyd yn gweithredu fel cenllif mewn tywydd garw.
Ar dop y Stryd Fawr, croeswch i Fforddlas. Mae gweddill y llwybr yn eithaf serth ond gallwch yrru i fyny a pharcio ger y lloches os y dymunwch.
Cross Foxes
Adeiladwyd y dafarn ym 1664, a dyma’r dafarn hynaf ym Mhrestatyn ac un o’i ychydig adeiladau cynnar sydd wedi goroesi. Roedd merched yn heidio yma ac yn edrych yn ffasiynol ar gyfer ymdrochi yn y môr ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Un gwestai rheolaidd oedd Hester Thrale, wedyn Piozzi – awdur a ffrind agos i Dr Samuel Johnson. Yn ôl yr hanesydd lleol Harry Thomas roedd Prestatyn yn lle “rhamantus iawn, a gwirioneddol unig”. Ond mi ddifethodd y peth braidd trwy gwyno nad oedd lle i droi.
Ar dop Fforddlas, trowch i’r chwith i mewn i Mount Ida Road a throi yn syth i’r dde i mewn i Erddi’r Bryn.
Gerddi’r Bryn a’r Gysgodfan
Ni allwch fethu’r cerflun gwych o’r helmed, gyda siâp dail derw digoes arno. Mae’n dathlu treftadaeth Rhufeinig y dref a harddwch yr amgylchedd o gwmpas y dref yn Bishop’s Wood a Bryn Prestatyn. Mae dringfa serth byr drwy’r gerddi yn datgelu cipolwg ar Uplands, a adeiladwyd gan y dyfeisiwr ecsentrig Thomas Thorp ym 1912 i ymgorffori arsyllfa mewn cromen sy’n cylchdroi. Roedd yn sicr yn gwybod ble i ddod o hyd i’r olygfa orau. Mae’r lloches concrid teras ei hun, a gyflwynwyd i’r dref ym 1929 gan gymwynaswr lleol cyfoethog JF King, gyda golygfa panorama 180-gradd trawiadol o arfordir Gogledd Cymru, Ynys Môn ac Eryri yn y pellter. Yr union fan i gael eich gwynt atoch.
Baddondy Rhufeinig
House
Efallai y byddai’n well i chi yrru’r daith yno ac yn ôl i’r Baddondy Rhufeinig sy’n 1.5 milltir / 2.5 km. Chwiliwch am yr arwydd brown oddi ar Meliden Road.
Rydych yn chwilio am weddilltion o Brydain yn ystod y Cyfnod Rhufeinig sy’n parhau i fodoli ac sydd bron i ddwy fil o flynyddoedd oed. Felly, efallai y byddwch yn meddwl na all y tro i mewn i Melyd Avenue fod yn gywir. Ond dyfalbarhawch. Dyma faddondy hynod, a adeiladwyd tua 120AC gan ddatodiad yr 20fed Lleng wedi’u lleoli yng Nghaer, ac sydd i’w gael yng nghanol stad o dai gwbl gyffredin. Yma byddai ymdrochwyr yn chwysu’n sylweddol, yn rhoi olew ar eu cyrff ac yna’n crafu eu hunain yn lân gyda offeryn crwm o’r enw strigil. A hyn i gyd gan fod neb wedi dyfeisio sebon.