Plas Newydd
Ym 1780 daliodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ddychymyg y gymdeithas Raglywiaeth wrth iddyn nhw redeg i ffwrdd a sefydlu eu cartref gyda’i gilydd yng Nghymru. Dros y blynyddoedd dyma nhw’n trosi eu bwthyn carreg syml yn ffantasi gothig yn llawn cerfiadau derw cywrain a ffenestri gwydr lliw alldafol yn ogystal â gerddi prydferth a choetir a glyn. Roedd y ddwy anghonfensiynol yn cael ymwelwyr nodedig draw gan gynnwys Dug Wellington, William Wordsworth, Anne Lister ‘Gentleman Jack’ Syr Walter Scott, Josiah Wedgewood a’r bardd Anna Seward wnaeth ddisgrifio’r tŷ cyfareddol fel “Palas Tylwyth Teg y Dyffryn”.
