Llwybr Tref Llangollen
Mae Llangollen wedi bod yn un o gyrchfannau mewndirol mwyaf poblogaidd Cymru ers peth amser bellach – a dydi hy nny ddim yn syndod. Yng nghy sgod y mynyddoedd ac adfeilion Cas t ell Dinas Brân a adeiladwyd yn y 13eg ganr if, gor weddai’r dref mewn llecyn har dd ac unigr yw.
Pellter: 2 filltir / 3.2 km
Pa mor anodd yw’r llwybr?: Eithaf gwastad oni bai eich bod chi’n dewis mynd ar hyd y llwybr i Blas Newydd
Amser yn cerdded: 2 awr
Man cychwyn: Maes parcio’r Pafiliwn Rhyngwladol, Ffordd yr Abaty LL20 8SW
Cludiant cyhoeddus: Traveline Cymru 0800 464 0000,
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 03457 484950
Pafiliwn
Llangollen
Ewch ar hyd y llwybr tynnu ac wrth ymyl y bont ym mhen gorllewinol y maes parcio trowch i’r dde.
Bydd Pafiliwn Llangollen yn ymddangos mewn dolydd ar y dde. Adeiladwyd y pafiliwn yn 1992 ac mae lle i 4,500 o bobl eistedd y tu mewn iddo. Yma, wrth gwrs, mae cartref Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Yn ogystal â chroesawu 120,000 o ymwelwyr a cherddorion o bedwar ban byd bob mis Gorffennaf, mae’r Pafiliwn yn cynnal rhaglen o gyngherddau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
www.llangollenpavilion.co.uk
https://international-eisteddfod.co.uk
Glanfa Llangollen
Edrychwch o’ch cwmpas. Eithaf da, yn dydi? Cystal â’r Taj Mahal a’r Acropolis, yn ôl UNESCO. Felly, yn 2009, bu iddyn nhw ddynodi 11 milltir o Gamlas Llangollen – gan gynnwys Rhaeadr y Bedol a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte – yn Safle Treftadaeth y Byd. Fe allwch chi deithio ar gwch i’r ddau gyfeiriad o’r fan hon. Bydd ceffylau yn gallu’ch tynnu chi hyd at Raeadr y Bedol ond bydd arnoch chi angen modur, a gwylio rhag bod eich pen chi’n troi, i groesi’r “afon syfrdanol yn yr awyr”, campwaith Thomas Telford.
Ewch i’r dde ar ôl mynd heibio’r ystafell de a dilynwch ffordd Wharf Hill at y bont. Trowch i’r dde neu i’r chwith os oes arnoch chi awydd mynd i fyny i Gastell Dinas Brân (taith 45 munud).
Pont Llangollen
Yn ôl y traddodiad, er nad oes sicrwydd ynghylch hyn, adeiladwyd Pont Llangollen gan yr Esgob John Trevor yn 1345. Heb amheuaeth, mae’r bont wedi ei haddasu ers hynny, yn anad dim i ganiatáu i geir groesi drosti ac i drenau fynd oddi tani. Ond, yr hyn sy’n sicr, yw ei bod yn cynnig darlun godidog o ddyfroedd byrlymog Afon Dyfrdwy, lle’r oedd pysgota eogiaid mewn cwryglau yn olygfa gyffredin iawn tan y 1950au. Does ryfedd felly ei bod hi’n un o “Saith Rhyfeddod Cymru”. Heddiw rydych chi’n fwy tebygol o weld pobl yn canwˆ io, caiacio neu’n rafftio i lawr yr afon gan fod Llangollen yn hafan ar gyfer chwaraeon dŵr a gweithgareddau awyr agored cyffrous eraill.
Ar ôl croesi’r bont, trowch yn syth i’r dde i Dee Lane.
Melin Flawd
Adeiladwyd y felin yn y drydedd ganrif ar ddeg gan fynaich Sistersiaid Abaty Glyn y Groes gerllaw. Ailadeiladwyd y felin flawd yn 1786 a bu iddi aros agor tan 1974. Ond, erbyn i’r felin gael ei rhoi ar osod i gwmni tafarn yn y 1990au, roedd mewn cyflwr ofnadwy ac mewn perygl o ddymchwel i’r afon. Ond ddim heddiw. Rwˆ an fe allwch chi weld yr olwyn ddwˆ r yn troi y tu ôl i’r bar – a chael diod ar y deciau pren a osodwyd i’r dde dros ffrwd a dyfroedd gwyllt y felin.
Dilynwch y llwybr wrth ochr y Felin Flawd, ac yna trowch i’r chwith – neu fe allwch chi barhau i gerdded ar hyd Promenâd Fictoria ar daith olygfaol i Barc Glan yr Afon lle mae yna le chwarae, cae pêl-droed a pharc sglefrio, yn ogystal â chaffi a golff gwallgof yn yr haf.
Amgueddfa
Llangollen
Ar fin ailagor yn 2025 gyda tho newydd sbon, nid yw’r adeilad polygonaidd hwn o ganol yr 20fed ganrif yn cynnig llawer o gliw i’r trysorau y tu mewn. Mae gan Amgueddfa Llangollen dros 1,500 o arteffactau a mwy na 7,000 o ffotograffau a dogfennau, a roddwyd yn bennaf gan y gymuned leol. Maen nhw’n helpu i adrodd stori ryfeddol y dref – yr holl ffordd o Oes y Cerrig, trwy’r cyfnod Rhufeinig a Normanaidd ac ymlaen i’r ddwy ganrif ddiwethaf.
Ar gornel Parade Street a Heol y Castell mae Neuadd y Dref a adeiladwyd yn 1867, sef yr hen Ystafelloedd Cynnull a Neuadd y Farchnad.
Y Capel
Adeiladwyd y Capel yn y 1860au yn yr arddull Romanésg (bydd arbenigwyr pensaernïaeth yn eich plith wedi sylwi ar y tri bwa ar bilastrau o dan y pediment). Cafodd ei gynllunio i ddal cynulleidfa o 400 o Fedyddwyr ond yn anffodus, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, doedd dim angen cymaint o seddi. Erbyn 1982 nid oedd y capel bellach o fudd.
Mae’r adeilad bellach yn ffynhonnell pob gwybodaeth, gyda Chanolfan Groeso a llyfrgell i fyny grisiau. Mae yna hyd yn oed oriel gelf a chrefft gyfoes. Cafodd yr adeilad ei agor ar ei newydd wedd yn 2003 gan arlunydd Cymreig enwocaf yr ugeinfed ganrif, Syr Kyffin Williams – ac roedd o’n gwybod ei bethau’n iawn.
Yr Arfdy
Ar ôl croesi’r A5 ym mhen uchaf Heol y Castell, efallai yr hoffech chi aros ennyd i fyfyrio ar y ffordd aruthrol o Lundain i Gaergybi a adeiladwyd gan Thomas Telford i gyflymu’r post rhwng y brifddinas ac Iwerddon. Cafodd y ffordd ei chwblhau ar ôl codi Pont Grog Menai yn 1826.
Mae’r arfdy mewn tipyn o argyfwng hunaniaeth, ac mae’r adeilad hefyd yn cael ei alw’n The Old Lock-up. Mae’r dryswch yma’n adlewyrchu ei ddefnydd amrywiol ers ei adeiladu fel carchar a llys ynadon yn 1835. Fe’i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel neuadd y dref ac yna fel neuadd ymarfer ac arfdy ar gyfer Milisia’r Iwmyn tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Plas Newydd
Cerddwch i fyny Heol y Bryn at Blas Newydd (mae’r plasty ar agor o fis Ebrill tan fis Hydref, ond mae’r gerddi ar agor drwy’r flwyddyn) neu fe allwch chi barhau i gerdded i lawr Regent Street a throi i’r chwith i mewn i faes parcio Eglwys Sant Collen.
Plas Newydd yw cartref byd-enwog Merched Llangollen: Sef y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby a oedd wedi rhedeg i ffwrdd o Iwerddon. Yn 1780 bu iddyn nhw symud i mewn i fwthyn bychan a’i droi’n ffantasi Gothig o wydr lliw a derw cerfiedig. Bu i “ymddeoliad Rhamantaidd” y merched ddal dychymyg y gymdeithas Regentaidd a bu iddyn nhw groesawu llu o enwogion i’w cartref rhyfeddol, gan gynnwys William Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington.
Eglwys
Sant Collen
O Blas Newydd, dilynwch Butler Hill yn ôl i lawr i’r A5 a chroeswch i Church Street. Ewch i mewn i’r fynwent drwy’r gatiau haearn wrth ymyl Gwesty’r Hand.
Sefydlwyd yr eglwys yn y chweched ganrif gan Sant Collen, rhyfelwr Cristnogol a fu’n feudwy yn ddiweddarach yn Nhŵr Glastonbury. Yn ôl y chwedl bu iddo ymddeol yma ar ôl trechu cawres leol a oedd yn llarpio dynion. Adeiladwyd yr eglwys a welwch chi heddiw yn y drydedd ganrif ar ddeg ond fe addaswyd cryn dipyn arni yn Oes Fictoria. Ond, diolch i’r drefn, mae’r ddau drawst gordd cerfiedig wedi goroesi. A welwch chi’r heneb driongl yn y fynwent i Ferched Llangollen a’u morwyn Mary Carryl – marmor Eidalaidd iddyn nhw a thywodfaen ar gyfer Mary.
Rheilffordd
Treftadaeth
Wrth i chi groesi’r bont eto fe welwch chi orsaf Reilffordd Treftadaeth Llangollen-Corwen, a adeiladwyd yn 1865, wrth ymyl glan ogleddol Afon Dyfrdwy. Y tu mewn mae bar caffi yn gweini byrbrydau poeth a chwrw go iawn a (pan fydd y trenau’n rhedeg) siop anrhegion sy’n gwerthu pob mathau o nwyddau. Mae unig led rheilffordd treftadaeth safonol yng ngogledd Cymru bellach yn chwythu a phwffian am bron i 10 milltir drwy Ddyffryn Dyfrdwy, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Diolch i estyniad 2.5 milltir a gwblhawyd yn 2014 gan dîm o wirfoddolwyr wedi aros mawr, fe allwch chi rwˆ an deithio’r holl ffordd i Gorwen trwy fynyddoedd y Berwyn, Glyndyfrdwy a Charrog.