Awgrymiadau o lwybrau gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yma – Rhif 3 Nant y Pandy, Glyndyfrdwy.
Nant y Pandy
Fe ddaw ein pedwerydd llwybr ar gyfer mis Mai gan Lisa Heledd Jones. Artist yw Lisa sydd yn gweithio gyda straeon a synau. Mae Lisa yn angerddol am ei hardal leol yn Nyffryn Dyfrdwy, mae hi’n hoff o gerdded, mae’n ymddiddori mewn ffyngau, yn hoffi tynnu lluniau, yn tyfu llysiau ac mae hi’n gobeithio rhyw ddydd y bydd yn gwybod beth yw enw pob aderyn.
Lisa
Dyma lwybr Lisa. Y llynedd, rhannodd lwybr yr oeddwn wedi’i gerdded miloedd o weithiau ei gyfrinachau gyda mi. Mae’r llwybr yma’n eich cymryd o Orsaf Reilffordd Dreftadaeth yng Nglyndyfrdwy ac i fyny drwy goed ‘Y Pandy’, gan ddilyn y ffrwd a arferai ddarparu’r holl bŵer ar gyfer y chwareli llechi – mae eu gweddillion i’w gweld ar hyd y llwyr yma ynghyd â thair rhaeadr syfrdanol a sŵn yr adar. Roeddwn i eisoes yn gwybod bod y llwybr yma’n hardd, ond dros fisoedd, fe gerddais ar hyd y llwybr gyda haneswyr, a phobl sy’n hoffi adar a ffyngau, a llwyddodd pob person fy helpu i weld y llwybr drwy eu llygaid, clustiau a’u harbenigedd nhw, ac yn sydyn roedd yn gymaint mwy na hardd – roedd gweddillion yr olwyn ddŵr yn hollbwysig i ddiwydiant i’r hanesydd ac yn fan nythu perffaith ar gyfer y Tingochiaid i’r sawl oedd yn hoffi adar.
Nant y Pandy
Mae hi werth sefyll rhwng y muriau lle y byddai’r olwyn ddŵr wedi sefyll i werthfawrogi ei faint, ac i sylwi rŵan sut mae rhaeadr o fwsogl a rhedyn wedi llyncu’r cilfachau ac wedi creu cartref ochr yn ochr ag amrywiaeth o drychfilod megis madfallod a nadroedd defaid.
Nant y Pandy
Mae gan bob tymor ei swyn unigryw. Yr hydref yw’r amser gorau i weld amrywiaeth o ffwng – fe welais i ‘porcini’, siantrel ffug a wystyrsen y coed ar hyd y llwybr y llynedd. Yn ystod y gaeaf, fe fydd y rhaeadrau’n swnllyd ac mae’n bosibl gweld yr amrywiaeth o lwydni llysnafeddog, cen a mwsogl. Os ddewch chi yn y gwanwyn a’r haf, rydych chi’n debygol o glywed sŵn arbennig iawn – galwad Cacynen y Coed, un o dros 30 o rywogaethau o adar sy’n mudo ac yn nythu yma bob gwanwyn. Mae’n anodd gweld Cacynen y Coed bychan a disylw ymysg yr holl goed, ond mae ei alwad yn unigryw gan fod diwedd ei gân yn cyrraedd crescendo sy’n gwneud i’w gorff cyfan grynu! Mae’n beth anhygoel i’w glywed gan wybod ei fod yn dod gan greadur mor fychan sydd wedi dod draw i’r man penodol hwn yng Ngogledd Cymru o Affrica i ddod â bywyd newydd i mewn i’r byd.
Blwch signal Glyndyfrdwy
Mae’r llwybr yn cymryd tua dwy awr ar gyflymder hamddenol. Mae yna fap a byrddau gwybodaeth ar ochr Neuadd Goffa Owain Glyndŵr ac yn yr orsaf reilffordd. Mae yna wely a brecwast yn y dafarn leol ym mhentref Glyndyfrdwy o’r enw Berwyn Arms. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Amgueddfa Corwen.
Neuadd Goffa Owain Glyndŵr