Artistiaid yn dychwelyd i gartref cefn gwlad i ddathlu carreg filltir
Mae grŵp o artistiaid yn dathlu carreg filltir arbennig mewn parc cefn gwlad.
Mae Peintwyr Parc Gwledig Loggerheads yn ôl yn arddangos eu celf yn yr Oriel rhwng y Gerddi Te a’r bont garreg ym Marc Gwledig Loggerheads.
Maent yn grŵp bach o artistiaid amatur lleol sy’n gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau yn amrywio o acrylig, dyfrliw, pastel, caligraffi a llawer mwy.
Mae’r grŵp celf wedi bod yn dod i Loggerheads i gynnal eu gweithdai wythnosol ers 2006 gyda’r gwaith diweddaraf yn 20fed arddangosfa a gynhelir yn y Parc Gwledig.

Mae llawer o waith celf yr aelodau wedi ei ysbrydoli gan amrywiaeth a harddwch naturiol Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae’r arddangosfa eleni’n cynnwys ychwanegiad arbennig o Gornel y Gylfinir; wedi ei ysbrydoli gan Brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru mae’r grŵp celf wedi creu amrywiaeth o waith celf a ysbrydolwyd gan y gylfinir i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Gylfinir Ewrasiaidd, rhywogaeth adar o bwysigrwydd diwylliannol sy’n dirywio’n sydyn yng Nghymru.
Nod yr ymdrechion cymunedol hyn, sy’n digwydd ar draws tirwedd ehangach Cymru, yw atal diflaniad y gylfinir fel rhywogaeth fridio, y disgwylir iddo ddigwydd yng Nghymru erbyn 2033. Gallwch ddarllen mwy am y Prosiect Gylfinir yma.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Os ydych yn mynd i Barc Gwledig Loggerheads i weld y gwaith celf anhygoel yn yr arddangosfa eleni, a wnewch chi bleidleisio dros eich hoff ddarn o waith, gan fod yr artist sy’n cael y mwyaf o bleidleisiau bob blwyddyn yn ennill Tarian Peintwyr Parc Gwledig Loggerheads ac yn dewis elusen i gael holl elw’r arddangosfa.
Dewisodd enillydd y llynedd elusen Tŷ Gobaith.
Bydd yr arddangosfa ymlaen tan 20 Mawrth.
