Archeoleg yn atyniadau Sir Ddinbych yr haf hwn
Bydd dau atyniad yn Sir Ddinbych yr haf hwn o ddiddordeb i archeolegwyr ifanc.
Yn gyntaf, bydd darn olaf o waith adfer yn diogelu darn o hanes Prestatyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae gwaith wedi’i wneud ym Maddonau Rhufeinig Prestatyn i helpu i ddiogelu ac adfer y safle hanesyddol yn Melyd Avenue.
Cafodd y trysor cudd ei ddarganfod am y tro cyntaf yn y 1930au yn ystod gwaith cloddio ar y safle. Yna cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Credir i’r Baddondy gael ei adeiladu o amgylch 120 OC, gydag estyniad pellach yn 150 OC.Mae yna rywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir fod yna gysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau. Gallai hefyd fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol. Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rheoli a gofalu am y Baddonau Rhufeinig ac wedi ymgymryd â rhaglen o waith adfer yn yr ardal.
Roedd gwaith adfer diweddar a wnaed gan Ben Davies sy’n arbenigo mewn gwaith adfer ar y safle yn cynnwys adfer y gweddillion, gan fod y garreg wedi’i rhoi yn ôl yn ei lle gyda sment y tro diwethaf y gwnaed gwaith, nad yw’n ddelfrydol. Mae Ben, sydd hefyd yn artist wedi bod yn tynnu hwn ac yn rhoi cerrig yn ôl yn eu lle gwreiddiol yn defnyddio morter calch. Morter calch fyddai wedi cael ei ddefnyddio yn hanesyddol ac mae’n caniatáu ar gyfer ehangu/cyfyngu yn ystod newid yn y tymheredd sy’n helpu i gadw’r garreg wreiddiol (atal craciau ac ati). Mae tyllau hefyd wedi cael eu llenwi i atal dŵr rhag sefyll ar y gweddillion a difrod gan rew dilynol. Roedd ceidwaid cefn gwlad ynghyd â gwirfoddolwyr a gefnogwyd gan y Rhaglen Natur er Budd Iechyd hefyd wedi gwneud gwaith i wella’r llwybrau troed yn y safle. Er ei bod mor anarferol cael safle hanesyddol mor gyffrous i’w weld mewn stad o dai, mae’n werth ymweld ag ef.
Yn ail,hyd at 28 Gorffennaf bydd cyfle i bobl sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre (Rhuthun) i gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim wedi’u trefnu gan dîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych fel rhan o’r Ŵyl Archeoleg flynyddol. Mae’r ŵyl, sydd wedi cael ei gydlynu gan Gyngor Archeoleg Prydain, yn ddigwyddiad pythefnos o hyd ledled y DU gyda’r diben o arddangos gwaith archeolegwyr ac i annog pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan yn eu hardal a threftadaeth leol trwy archeoleg.
Mae rhaglen 2024 yn Nantclwyd y Dre yn cynnig amserlen llawn digwyddiadau am ddim, sy’n llawn gwybodaeth a hwyl i deuluoedd chwilfrydig a haneswyr brwd.
Yn ystod pythefnos yr ŵyl (ar ddydd Iau a dydd Sadwrn) mae cyfle i ymwelwyr ifanc wisgo i fyny fel Rhufeiniaid, gwneud mosaig, a chyfle i blant dyllu er mwyn cyflwyno archeolegwyr y dyfodol i sgiliau gwaith maes allweddol fel darganfod arteffactau, y gwaith prosesu a’r technegau adnabod, a’r cyfan wedi’i gynnwys yn nhâl mynediad arferol yr atyniad hanesyddol. Ar gyfer y rheiny sy’n edrych i ennill mwy o ddealltwriaeth ar hanes leol o safbwynt archeoleg, mae sgyrsiau llawn gwybodaeth gan yr awdur Martin Kaye a’r archeolegydd enwog Fiona Gale wedi eu trefnu ar gyfer noswaith y 25 Gorffennaf.
Mae Martin yn enedigol o Rhuthun ac yn awdur hanesyddol ar gyfres o nofelau rhamant goruwchnaturiol. Bydd yn rhoi sgwrs o dan y teitl ‘Arthur, Lost Leader of the Britons’, gan edrych ar faint a wyddom mewn gwirionedd am y brenin enwog tra bydd Fiona, sy’n archeolegydd lleol mawr ei pharch a gydag MBE am ei gwasanaethau i Dreftadaeth Cymru, yn rhoi golwg arbenigol ar hanes y Rhufeiniaid gyda’i sgwrs ‘Romans of North East Wales’. Bydd yn gyfuniad o wybodaeth sydd wedi’i hen sefydlu gyda mwy o ddarganfyddiadau a wnaed yn ddiweddar.
Meddai Carly Davies, Rheolwr Treftadaeth dros dro i Gyngor Sir Ddinbych:
“Gwyddwn fod gan Sir Ddinbych orffennol Rufeinig amlwg iawn gyda thystiolaeth o waith cloddio plwm sylweddol yn y rhanbarth a ffordd yn mynd trwy’r sir a oedd o bosib yn cael ei ddefnyddio gan y Rhufeiniaid wrth iddyn nhw deithio rhwng Caer a Chaernarfon.
Mae gennym gymaint dal i’w ddarganfod. Gyda phob prosiect newydd rydym yn ennill gwell dealltwriaeth o’n treftadaeth Rhufeinig ac rydym wrth ein bodd fod Fiona sydd wrth wraidd archeoleg y sir yn ymuno â ni i adolygu’r hyn a wyddwn hyd yma, gan gynnwys darganfyddiadau o waith cloddio diweddar wedi’i gynnal yn Nantclwyd y Dre ei hun.”
Yn ystod yr ŵyl bydd trysorau’r Sir yn cael eu harddangos ynghyd â chopïau o lwyau defodol, sef testun gwaith celf diweddar gan yr artist Olivia Hicks, ‘Blood, Water, Honey and Wine’ . Bydd ei gwaith yn cael ei arddangos yng Nghornel Goffi Nantclwyd y Dre sef gofod sydd ar agor i’r gymuned leol i’w ddefnyddio heb orfod talu mynediad llawn i weddill yr atyniad.
Also in the Coffee Corner will be the growing 2024 Community Collection, a photographic display dedicated to the prized artefacts and finds made by the local community who are invited to bring any weird, wonderful, interesting, or simply sentimental items they have unearthed, to be photographed by the team at Nantclwyd y Dre, who will add the image and some associated information to the collection.
Meddai Carly Davies:
“Mae gŵyl eleni yn canolbwyntio ar y thema ‘Cymuned’ felly roedden ni’n teimlo ei fod o mond yn iawn i ddatblygu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau y bydd ein cymuned leol nid yn unig yn gallu ei fwynhau, ond gyfrannu ato.
Trwy’r Casgliad Cymunedol rydym eisiau dangos darganfyddiadau mwyaf eithriadol ein cymuned, a bod hynny o arwyddocâd hanesyddol neu bersonol. Mae archeoleg yn ein dysgu fod y gwrthrychau y mae pobl yn eu trysori yn dweud llawer wrthym am eu gobeithion, diddordebau, gwerthoedd a bywydau, felly ni allwn aros i weld pa eitemau y bydd pobl yn dewis eu rhannu, ac i glywed yr holl straeon sy’n perthyn iddynt.
Mae gan yr Ŵyl rhywbeth at ddant pawb; o weithgareddau i’r teulu, sgyrsiau gan arbenigwyr neu gyfraniad i’r Casgliad Cymunedol. Rydym yn rhagweld dathliad cofiadwy a llawn hwyl o archeoleg lleol y gorffennol.”
Am raglen lawn o’r ŵyl ewch i dudalen digwyddiadau Nantclwyd y Dre ar Facebook neu cysylltwch â thîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych . Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a byddant ar sail y cyntaf i’r felin.