NADOLIG HYNOD GYMREIG
Ar gyfer y Nadolig mae gennym rywbeth ychydig yn wahanol i chi. Blog gwadd am draddodiadau Nadolig Cymru gan Sonia Goulding, awdur llawrydd a chreawdwr cynnwys sy’n byw ac yn gweithio yn Sir y Fflint, Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae hi’n cael ei hysbrydoli’n gyson gan gefn gwlad a phobl yr ardal brydferth hon.
‘‘Marley was dead, to begin with’.
Mae llinell agoriadol y stori ysbryd fwyaf enwog a phoblogaidd a ysgrifennwyd erioed, yn gosod yr olygfa ar gyfer stori hen ŵr milain, crintachlyd y mae ei enaid crebachlyd yn gwrthod cariad a chyfeillgarwch ei gyd-ddynion ond yn croesawu llathr oer a marwol arian, ei artaith, ac yn y pen draw ei waredigaeth, gydag ymweliadau goruwchnaturiol hunllefus yn gefndir i’r cyfan. Mae adrodd y stori galonogol hon am sut y newidiodd ysbrydion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol safbwyntiau, ac wrth gwrs, llwybr yr hen Ebenezer Scrooge yn y pen draw, wedi dod yn draddodiad Nadoligaidd sefydledig.
Gyda hyn mewn golwg, meddyliais y byddai’n ddiddorol edrych ar rai o’n traddodiadau Cymreig hynod, yn enwedig y rheiny sydd â’u gwreiddiau yn ymestyn yn ôl i gyn cof amser, wedi’u dal rhywle rhwng defod baganaidd a Christnogaeth gynnar: fel y canfyddais, rhai ychydig bach yn rhyfedd, rhai eraill yn fendigedig – ond i gyd yn hynod ddiddorol.
PLYGAIN Mae’r weithred o ganu yn ymgorfforiad byw ac anadlol o ysbryd y Cymry, ac mae’n ffordd bwysig o fynegi eu hunaniaeth a’u hetifeddiaeth. Nid ar chwarae bach y caiff Cymru ei hadnabod fel Gwlad y Gân, ac nid yw’n syndod bod yr angerdd hwnnw’n cael llais yng ngwasanaethau Plygain ar hyd a lled y wlad ar fore Nadolig. Mae’r gair Plygain yn tarddu o’r Lladin am ‘glochdar ceiliog’, ac yn wir mae’r gwasanaethau hyn yn digwydd yn yr oriau oer, tywyll cyn y wawr. Caiff yr eglwys neu’r capel ei oleuo’n llachar â chanhwyllau i ddynodi dyfodiad Crist fel Goleuni’r Byd . Yn wreiddiol, y dynion yn unig fyddai’n canu’r carolau, mewn harmonïau tair neu bedair rhan. Nid oedd yn dderbyniol i unrhyw un ailadrodd rhywbeth a oedd eisoes wedi’i berfformio – tipyn o gamp, gan y gallai’r gwasanaethau hyn bara am rai oriau!
Credir mai cannwyll Plygain a adawyd heb oruchwyliaeth oedd achos tân a ddinistriodd ystlys ogleddol eglwys y Santes Fair Cilcain yn 1532
Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer y gwasanaethau Plygain ers oes Fictoria, mae’r traddodiad mwyaf Cymreig hwn yn parhau mewn rhai ardaloedd. Er enghraifft, mae pentref Lloc yng Ngogledd Cymru yn adnabyddus am ei wasanaeth, ac mae pentref Cilcain, sy’n swatio ar Fryniau Clwyd, wedi mwynhau traddodiad Plygain hir a di-dor mae’n debyg, sy’n dyddio’n ôl i o leiaf 1532, pan ddinistriwyd ystlys ogleddol Eglwys y Santes Fair yn y pentref gan dân, y credir a achoswyd ar ôl i gannwyll Plygain gael ei gadael heb oruchwyliaeth. Y dyddiau hyn caiff y Plygain ei ddathlu yng nghapel y pentref, Capel Gad.
HELA’R DRYW Mae hen chwedl werin yn sôn am ornest rhwng adar yr awyr, i weld pwy allai hedfan uchaf, gyda’r enillydd yn cael ei goroni’n ‘Frenin yr Adar’. Ymddengys bod eryr pwerus wedi ennill y gystadleuaeth, ond yn sydyn daeth dryw bach cyfrwys allan, a oedd wedi bod yn cuddio ym mhlu’r eryr, a hedfanodd yn uwch fyth gan fynd ymlaen i ennill y goron. Roedd yr eryr wedi cynddeiriogi cymaint nes iddo daflu’r aderyn bach i’r llawr, gan dorri ei gynffon, sy’n esbonio pam mae gan ddrywod gynffonau byr hyd heddiw! Mae’r dryw yn cael ei barchu gan y derwyddon fel aderyn cysegredig (mae dryw yn air arall am dderwydd). Mae hefyd wedi bod yn uchel ei barch ar draws llên gwerin Ewropeaidd fel Brenin yr Adar, er yr ymddengys bod y teitl brenhinol a roddwyd i’r aderyn bach hwn wedi bod yn dipyn o felltith.
Y dryw, aderyn sydd wedi cael parch mawr ar draws llên gwerin Ewropeaidd fel Brenin yr Adar ers amser maith
Ymddengys fod y traddodiad o Hela’r Dryw yn tarddu o arferiad paganaidd yn gysylltiedig â lwc dda, a oedd yn rhan o ddathliadau Heuldro’r Gaeaf. Yn anffodus, ni ddaeth â lwc i’r aderyn druan, a oedd yn cael ei hela a’i ddal gan griw o ddynion a’i arddangos mewn cawell, yn fyw neu’n farw, tra bo cân yn cael ei chanu yn sôn amdano fel ‘Brenin yr Adar’. Lle lladdwyd yr aderyn, roedd ei farwolaeth (a nodwyd gan gladdedigaeth seremonïol ynghyd â marwnad) yn dathlu tranc y gaeaf, ond yn ddiweddarach daeth y dryw i gynrychioli brenhinoedd ac arglwyddi Seisnig amhoblogaidd, gan ysgogi’r cwestiwn tanseiliol gan y dathlwyr: “Hoffech chi weld y dryw mewn bocs?” – darllenwch ‘brenin’ yn lle ‘dryw’ ac fe gewch chi syniad o’r hanfod! Diolch byth, daeth y traddodiad hwn i ben amser maith yn ôl, er iddo oroesi i’r oes fodern mewn rhai ardaloedd, gyda thatws wedi’u gorchuddio â phlu yn cael eu defnyddio yn lle’r aderyn, ac mae caneuon am y dryw sy’n gysylltiedig â’r arferiad yn dal i fodoli.
Y FARI LWYD Mae’r Fari Lwyd yn ddathliad rhyfedd ac arallfydol bron, sydd â’i wreiddiau ar goll mewn hanes, ond sydd unwaith eto yn nodi diwedd dyddiau tywyll y gaeaf. Mae gweld y Fari Lwyd yn brofiad eithaf brawychus wrth iddi ymddangos o’r tywyllwch i gyfeiliant canu, cerddoriaeth a churiad rhythmig, cyson y drwm. Caiff penglog ceffyl go iawn ei addurno â rhubanau lliwgar a’i osod ar bolyn uchel gyda chynfas wen yn hongian o danodd, gan guddio’r gweithredwr islaw. Mae tyllau’r llygaid yn aml yn cael eu haddurno â pheli lliwgar, ac mae’r genau’n cael eu gwifro er mwyn gallu creu sŵn clecian anesmwythol! Mae’r ceffyl rhyfeddol hwn, yng nghwmni grŵp o bobl, yn mynd o dŷ i dŷ, neu’n fwy arferol y dyddiau hyn, o dafarn i dafarn, i gychwyn ‘gornest am y craffaf’ gan ddefnyddio canu a barddoniaeth (pwnco) er mwyn cael mynediad. Mae’r grŵp, sy’n cynnwys arweinydd, chwaraewr ffidl a chymeriadau eraill, yn darparu hwyl a sbri unwaith y ceir mynediad – gydag ambell ddiod i ddathlu hefyd efallai! Mae gan Sir y Fflint ei thraddodiad Mari Lwyd ei hun, a ddaeth i’r rhanbarth drwy grŵp Dawnswyr Delyn o’r Wyddgrug.
Y Fari Lwyd arallfydol, un o arferion mwyaf rhyfedd a hynafol Cymru
Yn union fel y mae’r arferion hyn wedi goroesi dros y canrifoedd, mae pob un ohonom yn creu ein traddodiadau a’n defodau teuluol ein hunain, sy’n cael eu cadw a’u dathlu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Wrth i ni osod yr addurniadau a gwisgo’r goeden, daw atgofion llawen o Nadolig y gorffennol yn ôl i’n cyfarch gyda phob tlws cyfarwydd a ddaw allan, dim ond i’w storio eto’n ddiogel ar Nos Ystwyll, a’u hailddarganfod yn annwyl pan ddaw’r tymor hyfrytaf hwn yn ôl unwaith eto.
Gan ddymuno Nadolig llawen iawn i chi gyd, gyda llawer o atgofion hapus.
©Sonia Goulding, Rhagfyr 2024