Camwch i’r Gwanwyn gydag llyfryn newydd Sir Ddinbych

Ar gael ar 21 Mawrth. Llyfryn Cerdded Sir Ddinbych newydd.
Camwch i’r Gwanwyn gydag ysbrydoliaeth gerdded newydd. Gellir cyrraedd y cyfan gan drafnidiaeth gyhoeddus gan ei gwneud yn fwy caredig i’r amgylchedd.
Gadewch y car gartref – Mae Sir Ddinbych yn gyrchfan perffaith i gerdded. Dyma un o’r ffyrdd gorau o weld ein cefn gwlad eiconig a chael cyfle i ymlacio.
Mae modd cael mwy o fwynhad heb orfod poeni am draffig a pharcio – ac mae’n well ar gyfer yr amgylchedd hefyd. Dyma pam ein bod wedi gofyn i’r awdur teithio Julie Brominicks i greu’r teithiau cerdded hyn gyda’n gwasanaethau bws mewn golwg.
Maent wedi’u trefnu gyda’r daith fyrraf yn gyntaf, gyda map ar gyfer pob taith, ac mae disgrifiadau unigryw a nodweddiadol Julie yn cyd-fynd â phob un.
Lawrlwythwch eich copi yma.
