Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Arddangosfa Crocws yn ei Blodau ym Mhlas Newydd

Mae gerddi hanesyddol Plas Newydd yn Llangollen wedi’u trawsnewid unwaith eto yn fôr porffor a gwyn syfrdanol, wrth i filoedd o grocysau flodeuo ar draws ei lawntydd.

Caiff ymwelwyr â’r safle darluniadwy brofi arddangosfa drawiadol o liw, sy’n nodi dyfodiad y gwanwyn yng nghanol Gogledd Cymru. 

Mae’r crocws ymhlith y blodau cyntaf i flodeuo rhwng diwedd y gaeaf a dechrau’r gwanwyn, gan ymddangos yn aml mor gynnar â mis Chwefror. 

Mae’r blodau egniol yn darparu ffynhonell hanfodol o neithdar a phaill ar gyfer gwenyn sy’n ymddangos yn gynnar a pheillwyr eraill.

Mae’r gerddi ym Mhlas Newydd yn enwog am eu lleoliad rhamantus a’u hanes cyfoethog, sy’n adnabyddus am eu cysylltiad gyda Ledis Llangollen. Bu i’r Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ymgartrefu ar y safle ar ddiwedd y 18fed ganrif ac roeddent yn hoff o fyd natur a garddio. 

Trawsnewidiodd y Ledis y safle yn dirwedd ramantus, llawn planhigion lliwgar, llwybrau troellog, rhaeadrau a nodweddion addurniadol, sy’n dal i gyfareddu ymwelwyr hyd heddiw. Mae arddangosfa fywiog y crocws yn deyrnged haeddiannol i’w cariad tuag at arddwriaeth, sy’n ychwanegu at harddwch y gerddi y buon nhw’n eu trin ar un adeg.

Maent yn eu blodau ar hyn o bryd a disgwylir iddynt fod ar eu hanterth am wythnos arall.  Caiff ymwelwyr a ffotograffwyr eu hannog i wneud y mwyaf o’r uchafbwynt tymhorol trawiadol hwn, cyn iddynt ddiflannu am flwyddyn arall. Gellir ymweld yn ddyddiol â gerddi Plas Newydd yn Llangollen yn rhad ac am ddim, a bydd y giatiau’n cau wrth iddi nosi.

Meddai Jillian Howe, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned Tirweddau Cenedlaethol: “Mae arddangosfa’r crocws ym Mhlas Newydd yn olygfa syfrdanol bob amser ac maent wedi blodeuo’n arbennig eleni. Mae’n wych gweld cymaint o ymwelwyr yn mwynhau’r gerddi, yn union fel yr arferai Ladis Llangollen. Dewch draw i fwynhau’r olygfa dymhorol syfrdanol hon, tra bod y blodau ar eu gorau!”